Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Adolygiadau GLANMOR WILLIAMS. Wales and the Reformation (Cardiff: University of Wales Press, 1997). Pp.xii, 440. f25. Y mae'n anodd cyfleu'n ddigonol y gamp a gynrychiolir gan y gyfrol hon. Drwy gydol ei yrfa ysgol- heigaidd faith a ffrwythlon (a hir y parhao felly!) fe fu Syr Glanmor Williams yn gweithio'n ddyfal ar hanes y Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru, ac yn Wales and the Reformation fe grynhodd ffrwyth ei ymchwil a'i fyfyrdod yn un synthesis terfynol. Cystal inni'n hatgoffa'n hunain iddo eisoes gyhoeddi o leiaf saith o gyfrolau yn y maes, gan gynnwys y clasur The Welsh Church from Conquest to Reformation (1962) y gellir ei ystyried fel math o ragymadrodd i'r gyfrol hon! a'r arolwg mawreddog Recovery, Re- orientation and Reformation: Wales, c.1415-1642 (1987). Cyflawnodd hyn oll heb esgeuluso un dim ar ei ddyletswyddau fel athro a phen- naeth adran nodedig o lwyddiannus: yn wir, ef yn anad yr un person arall a fu'n gyfrifol am y blodeuo mawr yn astudiaethau Hanes Cymru a welwyd yn ystod y degawdau diwethaf Yn Glanmor Williams y mae gennym hanesydd a all a dweud y lleiaf- sefyll yn gyfysgwydd â haneswyr mawr cyfoes y Diwygiad Protestannaidd yn Lloegr, megis yr Athrawon A. G. Dickens a Patrick Collinson. Maes y gyfrol yw'r cyfnod rhwng blynyddoedd cynnar yr unfed ganrif ar bymtheg a 1603, pan fu farw'r Frenhines Elisabeth I a'r Brenin Iago I (Iago VI o'r Alban) yn dod i'r orsedd: barn yr awdur yw fod y Diwygiad Protestannaidd wedi ym- sefydlu'n ddiogel (er nad yn gyf- lawn) yn y deyrnas erbyn y flwyddyn honno. Yn y bennod gyntaf, 'Wales before the Reformation' (tt. 1-18), arolygir yn fras ond yn feistraidd hanes eglwysig Cymru o'r dechreu- adau hyd y cyfnod yn union cyn y Diwygiad, gan bwysleisio'r difrod a ddug Rhyfel Owain Glyndwr a'r adferiad hynod, o ran allanolion o leiaf, a ddilynodd. Erbyn yr ail bennod, 'On the Threshold of