Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BOOK REVIEWS IOLO MORGANWG, gan G. J. WILLIAMS, Y Gyfrol Gyntaf: Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1956. Tt. xlix+477. Ar ddiwedd adolygiad ar Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad yn rhifyn Gwanwyn 1927 o'r Lienor, dywedais 'Yr wyf yn mawr hyderu na bydd rhaid inni hir ddisgwyl rhagor gan Mr. Williams yn y maes hwn na fedr neb gystadlu ag ef ynddo'. Cyhoeddwyd y gyfrol honno yn 1926, a thraethawd ydoedd a wobrwywyd yn Eisteddfod Caernarfon yn 1921. Cynhwysai flaenffrwyth ymchwiliadau a ddechreuwyd yn 1917 ar awgrym y Prifathro J. H. Davies. Traddodiad Llenyddol Morgannwg' oedd y pwnc ymchwil, a'r rheswm am ei awgrymu oedd fod llawysgrifau lolo Morganwg wedi dod erbyn hynny i'r Llyfrgell Genedlaethol. Gwelir felly fod llafur diflino deugain mlynedd bron yn y gyfrol gyntaf hon o hanes Iolo Morganwg. Nid rhyfedd i'r pwnc ymchwil ymgynnig pan ddaeth llawysgrifau Iolo o fewn gafael hwylus, oherwydd daethpwyd i ystyried mai un o'i brif gym- hellion yn ei holl weithgarwch oedd yr awydd i ddyrchafu ei fro ei hun'. Yr ydym yn ffodus iawn i'r Athro Williams weld pwysigrwydd gwybod i ddechrau beth yn wir oedd 'ei fro ei hun'. Canlyniad hynny oedd ei gyfrol dra gwerthfawr Traddodiad Llenyddol Morgannwg, a gyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru yn 1948. Mae honno'n gyforiog o wybodaeth sicr am holl ddiwydrwydd meddyliol yr hen Forgannwg, ac yn llawn o olau eglur ar weithgareddau llenyddol ei thrigolion. Bron na ddywedid bod Iolo wedi llawn gyfiawnhau ei fodolaeth pe na wnelsai ddim ond symbylu'r Athro Williams i ymgymryd 6, pharatoi' r gyfrol honno. Da y gallasai Iolo ddweud gyda'r Salmydd, y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg' A defnyddio termau gwaith glo, y 'tir caled' oedd Traddodiad Llenyddol Mcrgannwg, a rhaid oedd torri trwyddo'n ddygn a thaclus cyn cyrraedd y wythlen, sef bywyd a gwaith Iolo. Eithr cofier nad tip o rwbel a gafwyd o'r 'tir caled' hwn, ond trysorau uchel eu gwerth y mae arnom ddyled fawr i'r Athro Williams am eu rhoi yn ein gafael. Buom droeon yn bur ddiam- ynedd am ei fod mor hir cyn dod at y wythïen. Ond o'r diwedd fe'i cvr- haeddodd, a dyma Iolo Morganwg yn ein meddiant, yn gyfrol drwchus. 'Y gyfrol gyntaf,' ydyw serch hynny, arwydd bod o leiaf un arall i ddod. Wrth feddwl am y cofiannau byrion a ymddangosodd eisoes, a'r erthyglau yn y gwahanol gyfrolau bywgraffyddol gynt, tueddir i synnu bod eisiau cymaint o ofod i drafod hanes un gwr, er ei bwysiced. Wedi darllen rhag- ymadrodd yr awdwr gwelir pam y bu cyhyd o amser wrth y gwaith, a phaham y barn odd fod yn rhaid iddo fanylu cymaint. Mae'n wir iddo ddechrau ar ei ymchwilio yn 1917, a gallasai yn ddiau sgrifennu bywgraf&ad digon sylweddol o Iolo flynyddoedd lawer yn 61. Ond pan gawn ar ddeall mai mor ddiweddar a 1955 y daeth rhai dogfennau yr oedd yn rhaid eu darllen i glawr, gallwn anghofio blynyddoedd yr hirlwm, a diolch i'r awdur am roi inni gynhaeaf mor fras. Fel y dywed, 'cafodd Iolo ddylanwad rhyfeddol ar feddwl beirdd a llenorion Cymru, a hynny am fwy na chan mlynedd. Nid gormodiaith dywedyd iddo roi Iliw ei feddwl ei hun ar y cyfnodau dilynol'. Cais yr Athro ddangos paham a pha fodd y bu hyn, a chwiliodd yn fanwl bob ffynhonnell, hysbys ac anhysbys, i gyrraedd ei amcan. Ar 61 y Rhagymadrodd, daw saith bennod lawn. Y bennod gyntaf yw Morgannwg' sy'n rhoi disgrifiad tra diddorol o'r sir fel yr oedd yn nyddiau Iolo. Yna daw 'Y Dyddiau Cynnar', sef o 1747 i 1770. Y drydedd yw 'Cyhoeddi a Chrwydro', 1770-1773, a'r bedwaredd 'Llundain a Chaint', 1773-1776. Y burned, 'Y Breuddwydiwr a'r Saer Maen', yw'r hwyaf o ddigon. Perthyn i'r cyfnod o 1777 i 1788, y 'cyfnod tywyll yn ei hanes' ac yn ei hail adran, «Y Breuddwydiwr a'r Damcaniaethwr', o ryw gan tudalen, rhoir 'syniad am y meddwl rhyfedd hwn fel y gwelwn ef yn yr