Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Capel Teuluol Middleton: Cerddoriaeth Eglwysig ar y Gororau yn yr Ail Ganrif ar Bymtheg WILLIAM REYNOLDS Canlyniad yr adeiledd cymdeithasol ym Mhrydain ym mlynyddoedd cynnar yr ail ganrif ar bymtheg, fel y bu ers amser hir, oedd fod cerddorion yn aml yn dibynnu ar nawdd naill ai'r eglwys neu'r dosbarth uwch. Mae'r erthygl hon yn ystyried creu'r sefydliad corawl yng nghapel preifat Castell y Waun yng ngogledd-ddwyrain Cymru, cartref yr Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych, Syr Thomas Myddleton (1586-1666; Plât 1, t. 124), a'r repertoire a geir yn y rhan-lyfrau a'r llyfr organ a ddarganfuwyd yn ddiweddar ac a gysylltir ag ef. Yn ogystal â'r nawdd a roddwyd gan deulu Myddleton, ceid cysylltiadau clòs hefyd rhwng y sefydliad corawl yn y capel preifat yng Nghastell y Waun ac Eglwys Blwyf Sant Giles, Wrecsam. Mae'r pum llawysgrif gerddorol a gysylltir â'r Waun yn cynnwys set o bedwar rhan-lyfr (Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, MS Mus. Res. *MNZ (Chirk)), a llyfr organ i'w hategu (Och MS Mus. 6, y cyfeirir ati yma o hyn ymlaen fel MS 6). Mae'r llawysgrifau'n bwysig ar sawl cyfrif: maent yn dangos repertoire sefydliad corawl taleithiol yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg; maent yn datgelu llawer o bethau sy'n unigryw i'r Waun; maent yn fodd o ddarparu darlleniadau amgen neu lenwi bylchau mewn darnau sydd ar gael hefyd mewn ffynonellau eraill; ac maent yn codi cwestiynau ynglŷn ag arferion perfformio, yn enwedig gyda'r traw a ffenomenon yr organ drawsosod. 1 Castell y Waun a'i gapel preifat Saif Castell y Waun ger y ffin â Lloegr, o fewn terfynau'r hen Sir Ddinbych. Adeiladwyd ef ym 1282, yn un o gyfres o gestyll a godwyd ar hyd y goror i gynnal goresgyniadau Edward I. Yn