Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

glawdd Offa ac yn America, eglwysi lle mae'r Beibl yn cael lle, gallaf eich sicrhau fod y gwahaniaeth rhwng y sefyllfa yn y mannau hynny a'r sefyllfa gyffredin yng Nghymru yn syfrdanol. Gol: Beth yw rhai o'r pethau yr hoffech chi eu gweld nhw'n digwydd yn ystod cyfnod eich Llywyddiaeth? D.G.D: Swyddogaeth y Llywydd yw mynd o gwmpas y wlad fel un sy'n cyflwyno gweledigaeth yr Enwad, ac edrychaf ymlaen at dderbyn gwahoddiadau a chael cyfle i wneud hynny. Hoffwn weld yr Enwad yn cymryd amser i edrych ar sefyllfa'r eglwysi ac yn pennu targed o'r hyn yr hoffai ei weld a'i gyflawni o fewn i'r pum mlynedd nesaf. Ac mi rydwy'n teimlo consyrn arbennig ynglŷn â'r weinidogaeth. Yn ôl yr argoelion presennol dim ond 45 o weinidogion o dan 65 mlwydd oed fydd gyda ni erbyn 1990 a bydd disgwyl iddyn nhw fugeilio 437 o eglwysi. Gol: Fel un sy'n dod ynghanol olyniaeth o dair cenhedlaeth o weinidogion, eich tad o'ch blaen chi a Gwilym eich mab yn gweinidogaethu yn Hengoed, Cwmaman ac Ynysybwl, mae'ch consyrn chi, mi wn, yn un difrifol, ond sut ry'ch chi'n gweld y ffordd ymlaen? efè0çtít! Gweddiau a Darllemadau r Nadolig Gweddi o Gymru Diolchwn i Ti. o Arglwydd ein Duw, am i Iesu Grist ddod i'n byd i oleuo tywyllwch ein gaeaf â haul goleuni ei gariad a'i ras. Diolchwn i Ti am i'r Gair gael ei wneud yn gnawd, Emaniwel. Duw gyda ni, ac i ni gael gweld ei ogoniant Ef. Arwain ni'r Nadolig hwn i fyw yn llewyrch y gobaith Cristnogol. Gwna ni'n addolwyr llawen a diolchgar, gwna ni'n gymodwyr. trwy ras ein Harglwydd Iesu Grist, yng Nghymru ein gwlad, a gwna ni, O Dad trugarog a hael, yn rhai a fydd yn barod i gyfrannu bendithion cariad ein Gwaredwryn ein hardal a'n gwlad a'n byd y Nadolig hwn a thrwy'r flwyddyn sydd i ddod. Gofynnwn hyn yn enw'r Un a ddaeth atom i ymgnawdoli dy fawredd a'th ewyllys ddwyfol yn ein plith. Iesu Grist ein Ceidwad. O'r India O Dduw, yr hwn a elwaist y bugeiliaid o flaen pawb arall at grud dy Fab. pâr fod pregethiad yr Efengyl yn peri i'r tlawd a'r isel a'r gwrthodedig deimlo'n gartrefol gyda Thi: drwy Iesu Grist ein Harglwydd. D.G.D: Fy ngweledigaeth i yw gweld sefydlu hanner cant o ganolfannau y dylid gosod gweinidog ymhob un ohonynt i Fedyddwyr y cylch. Ail beth yn fy marn i yw adeiladau ac amser a threfn oedfaon. Mae'r rhain i gyd yn bethau y gellir eu newid a'u cymhwyso. Cyfryngau ydi nhw ac nid diben. Y mae gan eglwys o 20 yr un hawl i weinidogaeth ag eglwys o 200 o aelodau, ac y mae'n rhaid cymhwyso'r allanolion er mwyn sicrhau fod hynny'n digwydd. Gol: Ry'ch chin sôn am ganolfannau Bedyddiedig, ydych chi wedi ystyried y priodoldeb o gyd-weithio ag eglwysi ymneilltuol eraill mewn gweinidogaethau bro mewn ambell i ardal? D.G.D: Dydw i ddim o blaid dileu enwadaeth, ac mi roeddwn i yn un o amddiffynwyr y status quo adeg trafod uno'r pedwar enwad. Mae'n well gen i weld pob enwad yn trefnu ei dy ei hun. Yn sicry mae hi'n briodol iawn i ni gyfar- fod â'n gilydd i weld fel y gallwn ni helpu'n gilydd, ac os wedi'r holl ad-drefnu y bydd rhai o'n heglwysi'n ddi-fugail byddai'n dda eu gweld yn dod o dan weinidogaeth gweinidogion o enwadau eraill, yn hytrach na'u bod yn ddi- fugail. Fel y mae'n rhaid i bawb yn ein gwlad wrth feddyg y mae'n rhaid i bob Cristion wrth fugail. Amen. Amen. O Dde America Drugarog a Sanctaidd Dduw, dathlwn mewn llawenydd dy ddyfodiad atom. Dathlwn gyda gobaith, dathlwn mewn tangnefedd, achos rwyt Ti wedi dod i'n hachub ni. Trwy dy ras cydnabyddwn dy bresenoldeb mewn dynion a merched ymhob ran o'th fyd; trwy dy rym rwyt ti'n ein rhyddhau ni o afael popeth sy'n rhwystr i'th deyrnas ddod; trwy dy nerth gall ein bywydau ni gyhoeddi llawenydd a gobaith: trwy dy ras gallwn weithio o blaid heddwch a chyfiawnder. Ti yw ffynhonnell ein bodolaeth; Ti yw goleuni ein bywydau. Amen. O Affrica Gorfoleddwn y Nadolig hwn oherwydd y mae'n Gwaredwr yn dod i ddwyn llawenydd i ni. Bydded i gân y Baban gael ei chanu yn ein tir, ar y mynyddoedd. i lawr yn y dyffrynnoedd. ac ar draws y gwastadeddau, ar bob aelwyd ac ym mhob gwersyll caeth. Amen.