Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

aemoi uavies CAWOD O EIRA gan Bryan Martin Davies Y mae rhythmau mewn eira hen ddawnsfeydd, y pridd hwn a'i cofia; symudiadau a nofia cyn dyfod caethiwed iâ. Yn y llychyn mae patrwm cyfanglwm o liwiau hen spectrwm; fioled grug, indigo plwm, glas moroedd, melyn hirlwm; Cochni gwawr, oren machlud, a gwyrddni hen wanwynoedd sy'n moelyd o'r entrych nawr, gwyn yw hud pob gwynsill sy'n ymyrryd. Â gardd fy ngherdd ger y Clawdd. Eira wynnir ei hansawdd.