Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYHOEDDI'R EFENGYL Synnais, yn ddiweddar, pan soniodd rhywun wrthyf am gapel yn perthyn i enwad y Bedyddwyr lle mae'n well gan y gynulleidfa i bregethwyr beidio â defn- yddio'r pulpud. Tŷ cwrdd gwledig yn perthyn i'r Bedyddwyr Cymraeg fu'r capel hwnnw am ganrif a mwy ac roedd yr achos ar ddirwyn i ben ychydig flynyddoedd yn ôl pan ddechreuwyd datblygu'r pentref cyfagos a chwyddwyd y gynulleidfa gan nifer dda o'r di-Gymraeg a ddaeth fyw yn y tai newydd. Erbyn hyn y mae'r hen dy cwrdd ar gyrion treflan fechan ac mae'r eglwys sy'n addoli yno yn dra llewyrchus wrth wasanaethu Saeson uniaith, llawer ohonynt yn newydd yn y Ffydd. Ystyrir yr adeilad yn hen-ffasiwn gan fwyafrif y gynulleidfa bresennol a'r gobaith yw cael adeilad modern, canolog, maes o law. Mae'n annhebyg y rhoir pulpud yn y ty cwrdd newydd pan ddaw, ac yn y cyfamser awgrymir i bregethwyr ar ymweliad ei bod yn fwy cyfeillgar ac agos-atoch i beidio â dringo i'r pulpud i gyhoeddi'r Efengyl! Y cwestiwn sy'n codi yw, a ddylai pregethu fod yn rhywbeth cyfeillgar ac agos-atoch? Os barnwn wrth y ferf a gysylltir amlaf yn y Testament Newydd gyda'r gair EUANGELION (efengyl, newyddion da), yr ateb pendant i'r cwestiwn yw, Na ddylaii Y ferf honno yw KERUSSO (cyhoeddi), berf a welir yn fersiwn Mark o'r comisiwn mawr: "Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i'r greadigaeth i gyd" (16.15, BCN). Berf yw KERUSSO a ffurfiwyd o'r enw KERUX (herald. herodr, rhagflaenydd, rhagredegydd, cyhoeddwr). Yn yr hen fyd yr oedd y KERUX yn wr o awdurdod a ddygai genadwri swyddogol at y bobl oddi wrth y brenin neu'r awdurdodau sifil neu filwrol. Yr oedd yn swyddog o bwys a gyhoeddai neges y disgwylid i'r bobl wrando arni ac ymateb drwy ufuddhau iddi. Ystyr KERUSSO, felly, yw "cyhoeddi gydag awdurdod mewn ffordd a fydd yn ennyn ymateb ac ufudd-dod"-a dyna hefyd a ddisgwylir o bulpud. Ni wnâi'r Piwritaniaid y camgymeriad o feddwl am bregethu fel rhywbeth cyfeillgar ac agos-atoch! Cyngor Richard Baxter bregethwr un tro oedd: "Screw the truth into men's minds"; a thro arall: "If a hardened heart is to be broken, it is not stroking but striking that must do it." A thebyg oedd syniadau John Flavel am bregethu: "An hot iron, though blunt, will pierce sooner than a cold one though sharper. Ac meddai James Stewart yn ein dyddiau ni: "The Gospel is declaration, not a debate." Ond er y flaenoriaeth a rydd y Testament Newydd i gyhoeddi'r Efengyl gydag awdur- dod (KERUSSO), nid dyma'r unig ferf a gysylltir ag EUANGELION. Sylweddolodd awduron y Testament Newydd nad oes pulpud neu Iwyfan ar gael bob amser, ond nid yw'r cyhoeddi i beidio oherwydd diffyg felly. Dwy ferf ddiddorol sy'n ymwneud â chyhoeddi a arferir gyda EUANGELION yw DIAMARTUROMAI yn Actau'r Apostolion a LALEO yn yr Epistol Cyntaf at y Thesaloniaid. MARTUS (tyst, merthyr) yw gwreiddyn y gair DIAMARTUROMAI a ddefnyddiodd Paul deirgwaith tra'n ffarwelio â henuriaid Effesus yn Actau 20:18-35 gan gydio'r ferf ag EUANGELION yn adnod 24 wrth iddo sôn am ei awydd gwblhau ei yrfa a'r weinidogaeth a gafodd gan Grist "i ddwys dystiolaethu am efengyl gras Duw" (Cyfieithiad Prifysgol Cymru). Y mae ffurf y ferf Groeg ynghyd â'r rhagddodiad DIA yn dwysáu yr ystyr ac yn awgrymu gwneud rhywbeth yn drylwyr. Yn wir, byrdwn y paragraff ar ei hyd yw i fywyd yr Apostol Paul ategu tystiolaeth ei bregeth. Yn ei dro lled-awgryma hyn fod bywyd Paul hefyd yn bregeth, a daw i gof gwpled William Morris i Tom Nefyn, un o bregethwyr mawr Cymru yn y ganrif hon: Ac o'i bregethau i gyd Y fwyaf oedd ei fywyd. Rhaid i fywyd pregethwr ategu ei bregethau fel y mae bywyd pob aelod o'r Eglwys i ategu ei gyffes. Dichon y gellid dadlau fod KERUSSO a DIAMARTUROMAI yn tueddu i bellhau aelod cyffredin oddi wrth unrhyw gyfrifoldeb am gyhoeddi'r Efengyl; nid felly LALEO. Mae'n wir mai Paul sy'n defnyddio'r gair wrth ddwyn i gof i'r Thesaloniaid y modd y bu iddo "lefaru wrthych efengyl Duw" (I Thes. 2.2, cyfieithiad William Edwards) er gwaethaf eu gwrthwynebiad, ond gair yn perthyn i gyfathrach feunyddiol y werin yw LALEO-yn cyfateb i sgwrsio, ymgomio, clebran, chatting (Dyma'r ferf a ddefn- yddia'r Testament Newydd yn aml pan yw'n sôn am bregethu'r lesu). Nid oes amheuaeth y byddai'r Efengyl yn cael lle mewn ymgom a sgwrs gan y Cristnogion cynnar, ac hyd yn oed os na feddwn ni'r ddawn i lunio pregeth na sefyll o flaen cynulleidfa, ni ddylai hynny fod yn rwystr inni chwilio cyfle i "ddweud gair" o blaid yr Arglwydd mewn sgwrs. Wedi'r cwbl, y mae pob math o ddigwyddiadau a diddordebau yn cael lle yn ein sgyrsiau-rygbi, pel-droed, rhaglenni teledu, gwleidyddiaeth, gwyliau, y teulu, ac ati; pam na ddylai'r Efengyl gael ei chrybwyll yn ein sgwrs hefyd? D. Hugh Matthews Ga'i roi 10c cyfa' 'run fath â Dadi?