Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR YSBRYDOLRWYDD A GOLLWYD Trwy ymwrthod a'r Ysbryd, sef bywyd yn ei gyflawnder, y mae'r byd mewn galanas llwyr; yn llawn marwolaeth a distryw, rhyfeloedd, colli gwaed diniwed, newyn, chwant am rym, ac ofn. Erfyniad am i ni gydnabod yr Ysbryd sydd ynom yw hwn fel y byddwn yn rhydd. Y mae'r byd 'rydym yn byw ynddo yn adlewyrchiad, fel mewn drych, ohonom ni ein hunain. Dengys y rhyfeloedd niferus y rhyfel mewnol sy'n digwydd oddi mewn i ni. Y mae newyn y 'trydydd byd' yn adlewyrchiad o'r newyn mewnol yn y Gorllewin, ac y mae hyn oll yn ganlyniad i'r ffaith ein bod ni wedi cefnu ar yr Ysbryd a'i waith ynom. Y GWRAIDD TYWYLL Onid yw'r Eglwys wedi troi i'r ffordd anghywir wrth geisio condemnio a mygu'r 'drygioni', yr ochr dywyll mewn dyn? Gall unrhyw un sydd wedi astudio'r natur ddynol o ddifrif weld nad trwy waharddiadau y cawn y gorau allan o bobl. Nid yw gorfodi rheolau caeth allanol arnynt yn gweithio. 'Does ond rhaid edrych ar y sustem filitaraidd i gael enghraifft o hyn. Mae pob sowldier ufudd yn berson anhyblyg; nid yw'n 'fyw' bellach, peiriant ydyw. Oni fyddwn yn rhwygo'r gwraidd tywyll ohonom, sut y medrwn garu eraill, gan gasáu neb, bod yn hwyrfrydig i ddig ac ymwrthod â chenfigen? Gwelir grwpiau- gweithredu dros y byd yn ymladd sum- tomau anghyfiawnder yn y byd ond heb gael gwared â'r gwraidd y tardda'r sumtomau ohono. Y mae'r gwraidd hwn ymhob un ohonom; y rhyfel mewnol rhwng daioni a drygioni, pwerau'r goleuni a'r tywyllwch. Ni ellir concro'r ochr dywyll ond trwy ei chydnabod; trwy ddarganfod o b'le y mae'r fath bwerau yn tarddu, trwy gydnabod y gwraidd ac ail-fyw y profiadau. Yn y broses hon y mae'r Ysbryd yn chwarae rhan allweddol. Mae'n ein harwain trwy'r twnel tywyll tuag at y goleuni. CYFRIFOLDEB Y mae'n golygu bod rhaid i ni dderbyn cyfrifoldeb dros ein bywydau. Nid ar ddam- wain y mae popeth sy'n digwydd inni yn digwydd; mae yna fwriad ynddo, mae'n fodd i ni ddysgu rhywbeth ac os byddwn yn agored i'r Ysbryd mae gennym siawns o'i weld a'i ddeall. Pan fyddwn yn gwylltio NIA RHOSIER neu'n bwrw rhywun rhaid i ni ystyried ein cymhellion gofyn i ni ein hunain beth yw ein rhan NI yn y digwyddiad oherwydd 'rydym i gyd yn chwarae ein rhan. Dylem feddwl yn ddwys ynglŷn â sut y mae'n bosibl i ni syrthio i fagl hunanoldeb a thrais. Trwy ein meddyliau 'rydym yn teimlo'n bwysig/annigonol; da/drwg; prydferth/hyll; uwchraddol/israddol. Mae ein meddyliau yn creu disgwyliadau ynom; hiraeth, cenfigen, diffyg ymddiried, ofn, tristwch, casineb, iselder. Mae pawb ohonom yn coleddu hunan-ddarlun, ond yn aml 'rydym yn ddall i ddarluniau pobl eraill. Yn y cyflwr caeëdig hwn mae hi'n amhosib i'r Ysbryd ddod i mewn atom. Dim ond pan fyddwn ni yn wirioneddol ddi-ragfarn y gall yr Ysbryd weithio ynom. Rhaid i ni agor ein calonnau, ein meddyliau a'n heneidiau a pheidio â bod ofn y canlyniadau; mewn geiriau eraill, rhaid i ni fod yn hyglwyf (vulnerable) ac mae hynny'n gofyn am ddewrder mawr. Ond i bob un a Iwyddodd i wneud hyn, mae'r Ysbryd Glân wedi dod i mewn i'w bywydau ac wedi eu harwain tuag at bobl newydd, sefyllfaoedd newydd a bywyd newydd yng Nghrist. Y mae neges i ni yn hyn oll: nid oes dim yn digwydd heb reswm. YMDDIRIEDWCH gyda'ch holl galon a'ch holl enaid ac ni chewch eich cam- ddefnyddio. ILDIWCH! Cymerwch risk! Mentrwch yn yr Ysbryd ac fe gewch eich harwain trwy bob math o sefyllfaoedd anodd a dryslyd. Byddwch yn AMYNEDDGAR gadewch i chi eich hunan gael eich arwain gan yr Ysbryd, oherwydd fe ddigwydd pethau yn amser Duw. Pan fyddwch yn y lle iawn ar yr amser iawn, gan ddweud y geiriau iawn, neu cadw'n ddistaw rydych yn rhan o'r cynllun dwyfol. Mae bywyd fel rhyw jig-saw mawr: pawb a phopeth yn gweddu neu'n ffitio i mewn i'w Ie yn yr harmoni cywir sy'n ein gwneud yn un. YSBRYDOLRWYDD REAL Nid peth anelwig yn hongian yn yr awyr uwchben yw ysbrydolrwydd, neu rhywbeth y medrwch ei arddel am awr bob dydd trwy synfyfyrio neu mynd ar gwrs 'T.M.Myfyrdod Trosgynnol. I'r gwrthwyneb, y mae ysbrydolrwydd yn gynhwysedig ym mywyd cyflawn pob un ohonom. Ar gymdeithas fodern y Gorllewin y mae'r bai na chafodd ysbrydolrwydd lawer o gyfle i wneud argraff ar fodau dynol. Da yw inni gofio i'r Eglwys Fore roi pwyslais mawr ar yr Ysbryd Glân ym mywydau pobl. Fel y cawn ein hatgoffa yng nghyfrol Gwynfor Evans, 'Heddychiaeth Gristnogol yng Nghymru', eglwys basiffistaidd oedd hi yn y canrifoedd cyntaf ar ôl Crist, hynny yw ar yr adeg pan oedd hi agosaf at lesu Grist o ran amser a meddwl. Dyna pryd y gwelwyd y cysondeb mwyaf rhwng proffes Cristionogion a'u bywyd. Er dioddef cyfnodau o erledigaeth erchyll yn ystod y canrifoedd hyn, gwrthodent ddefnyddio arfau ar ran yr Ymerodraeth nac i am- ddiffyn eu hunain. Cariad Duw yng Nghrist oedd sail eu hargyhoeddiad bod rhyfel yn bechod na allai'r Cristion ei gyflawni. Mae hi'n hen bryd i ni, Gristnogion heddiw, ysgwyd ein hunain o'n trwmgwsg a chydnabod bod yr Ysbryd Glân ar waith ynom a dianc oddi wrth yr hualau y mae ein cymdeithas fodern yn gosod arnom. Na, tydi ysbrydolrwydd ddim yn rhywbeth yn y gofod; mae'n rym real gyda geiriau allweddol iddo fel cyfrifoldeb, ymddiried- aeth, mentro, amynedd a bod yn ddiragfarn Os yw tangnefedd i dreiddio i'n byd, rhaid mynd i'r afael yn gyntaf â'r rhyfel mewnol. Pan yw person wedi canfod tangnefedd mewnol mae ganddo nerth a grym rhyf- eddol, ac unwaith y mae yn un â'r Ysbryd Glân, mae'n gallu cyflawni mwy o ddaioni na miloedd o bobl sy'n amddifad ohono. Siarad o brofiad ydw i, ac os medr ddigwydd i mi fe all ddigwydd i chwi ac i bawb o bobl y byd. Gadewch i ni ddysgu oddi wrth frodorion gwledydd eraill y byd. Y mae gan yr Indiaid yng Ngogledd America a'r Aborigineaid eu Great Spirit, fel y mae gennym ninnau ein traddodiad Celtaidd Cristionogol. Mae digon o gyfle i ddysgu mwy am gyfoeth ein traddodiad gan fod arweinyddion Cymraeg eu hiaith ar gael i arwain encilion. Bûm i mewn cynulliad o'r fath ym mis Awst 1991 yn Nhy Ddewi a chyn bo hir, gobeithio y bydd modd i Hen Gapel John Hughes, Pont- robert gael ei ddefnyddio fel canolfan addysgu yn null yr Eglwys Fore er gweithio tuag at weld holl bobl Cymru yn un yng Nghrist.