Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ALUN TUDUR YN TRAFOD HER Y SECT I'R ENWAD CARFANAU CREFYDDOL Yn ddiweddar bu dau ddigwyddiad yn y 'cylchoedd cref yddol' a dynnodd sylw'r cyfryngau torfol. Y cyntaf oedd y digwyddiadau trist ym mhencadlys sect y Branch Davidians yn Waco, Texas, yr Unol Daleithiau, carfan grefyddol a arweiniwyd gan David Koresh. Yr ail ddigwyddiad oedd y gyflafan fu yn Cheiry yn y Swistir lle y gwnaeth aelodau o gwlt 'Teml yr Haul', amdanynt eu hunain. Yr hyn a dynnai sylw'r cyfryngau oedd eithafrwydd ymddygiad y bobl hyn, ac ni fyddai unrhyw syndod gyda dyfodiad y flwyddyn 2000, a chyfaredd pobl gyda rhifau arbennig, gweld llawer mwy o gwltiau eithafol yn ymddangos cyn diwedd y milieniwm. Ond yr hyn sy'n ddiddorol i ni yng nhyd-destun yr erthygl hon yw'r defnydd a wneir o dermau neilltuol sef Sect a Chwlt. Ein tuedd yw defnyddio termau fel hyn yn anystyriol heb fyfyrio ar eu harwyddocâd. Yr ydym ni yng Nghymru yn fynych yn defnyddio termau cyffelyb. Geilw'r Ymneilltuwyr eu hunain yn Enwadau, gelwir yr Eglwys yng Nghymru yn Eglwys Sefydledig a gelwir y Tystion Jehofa, Y Mormoniaid a'r Bahaiyddion yn Sectau. Egyr hyn y drws i drafodaeth ddiddorol, sef y terminoleg a ddefnyddir gennym wrth ddisgrifio gwahanol garfanu crefyddol. Beth yw eu natur a'u prif nodweddion? Beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt? Bwriadwn edrych ar hyn yng ngweddill yr erthygl. CYMDEITHASEGWYR Religion in Sociological Perspective Ers blynyddoedd y mae cymdeithasegwyr crefydd e.e. J. Milton Yinger, Werner Stark, R. Mehi, Bryan R. Wilson, H. Richard Niebuhr, Ernst Troeltsch ac eraill wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn astudio carfanu crefyddol gan eu didoli yn gategoriau arbennig. Chwiliant am batrymau ymarweddiad neilltuol o fewn i gyrff crefyddol gan eu dosbarthu yn ôl eu rhywogaeth. Y mae hon yn astudiaeth werthfawr a rydd olwg newydd i ni ar gyfundrefnau crefyddol a strwythurau eglwysig. Ond gwendid mawr y cymdeithasegwyr crefyddol yw eu bod yn amlach na pheidio yn seciwlar eu hagwedd, ac yn anwybyddu'n llwyr y dylan- wadau diwinyddol ac ysbrydol sydd ar waith i gyrff cref- yddol ffurfio, datblygu a darfod amdanynt. Ceisiant ganfod rhesymau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol sy'n peri i bobl ymateb yn grefyddol. Yn sicr, y mae angen llawer mwy o astudiaeth yn y maes hwn o safbwynt Cristnogol. Gadewch i ni felly edrych ar y prif dermau a ddefnyddir wrth ddidoli carfanau crefyddol gan gofio mai dim ond codi cwr y llen y byddwn yma gan fod llu doreithiog o ddosbarthiadau eraill yn cael eu defnyddio. Yn fras, fe ddosbarthir cyrff crefyddol yn 5 carfan sef, Eglwys Gyffredinol, Ecclesia, Enwad, Sect a Cwlt. YR EGLWYS GYFFREDINOL Y dosbarth cyntaf ar linyn mesur y cymdeithasegwyr yw'r Eglwys Gyffredinol. Mae'r Eglwys Gyffredinol yn gorff o faintioli mawr, gall fod yn fyd-eang neu'n genedlaethol, gydag un cyfundrefn ganolog. Mae'n llwyddo i raddau i uno'r gymdeithas ac i ddigoni llawer o ofynion personol unigolion ymhob dosbarth o'r gymdeithas. Ynddi fe gynhwysir tueddiadau sectyddol ac eglwysig yn gyfundrefnol. Ystyrir pob un a enir o fewn i ardal arbennig yn aelodau o'r Eglwys. Patrwm ffurfiol a thraddodiadol sydd i'w hawdurdod, ac mae'r awdurdod hwnnw'n offeiriadol a chanolog. Tros- glwyddir yr awdurdod o'r brig i'r bôn a hynny mewn dull hierarchaidd. Mae ei haddoliad yn litwrgiaidd a ffurfiol ac fe rydd bwyslais mawr ar draddodiad. Ei thuedd yw cyd- ymffurfio â'r status quo. Nid yw'r Eglwys Gyffredinol ddelfrydol yr Eglwys Gyffredinol fydeang erioed wedi bodoli mewn gwirionedd. Fe ddaeth yr Eglwys Gatholig yn y drydedd ganrif ar ddeg yn eithaf agos i'r ddelfryd, ond nid oedd hi hyd yn oed yn cynnwys y cyfan o wledydd cred y Gorllewin. Heddiw mae'r Eglwys Gatholig yn parhau i'w hystyried ei hun fel Eglwys Gyffredinol.