Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYL€rrGRMM*i VR EGLWYSi CYLCHGRAWN YR EGLWYSI Agenda 2 Einir Jones Ymateb i Grefydd yr Oes Newydd 3 Geraint Tudur Yr Wythnos Weddi 5 Desmond Davies Bagad Gofalon 7 Y Bugail Cristnogaeth a Dyfodol Ewrop 8 J. Heywood Thomas [ Duw mewn Blwch 10 Morgan D. Jones O'r hyn a glywir 11 E. ap N. Roberts Goleuni Tabor 14 Alun Idris ('Y Brawd Dewi') Golygyddol 15 Blwyddyn Ffafr Trysor a Threialon 16 I Emrys W. Evans Yr Eglwys a'r Bobl Ifainc 17 Peter H. Davies Cerddi 13, 18, 19, 20 Eirian Davies, Olwen Williams Gwyneth J. Evans, Dafydd Owen Adolygiadau 21, 22 Paul F. Quinn, Glyn Tudwal Jones, Denzil leuan John Te Deum 23 Elfed ap Nefydd Roberts Llun y Clawr: Cadeirlan Cöln, yr Almaen Cylchgrawn dau-fisol yw 'Cristion' a gyhoeddir gan Fwrdd Cyhoeddi ar ran yr eglwysi canlynol: Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yr Eglwys Fethodistaidd, Yr Eglwys yng Nghymru, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Golygydd: Dr. D. Densil Morgan, Yr Ysgol Ddiwinyddiaeth, Prifysgol Cymru, Bangor, Gwynedd LL57 2DG. Ffôn: (01248) 382090, Ffacs (01248) 383759. Ysgrifau, llythyrau, llyfrau i'w hadolygu i'r cyfeiriad hwn. Cynllunydd: Aled Davies. Trysorydd: Brynmor Jones, 25 Danycoed, Aberystwyth SY23 2HD. Ffôn: 01970-623964. Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli: John Gwilym Jones Ysgrifennydd y Pwyllgor: D. Hugh Matthews. Cylchrediad a Hysbysebion: Alun Creunant Davies, 3 Maes Lowri, Aberystwyth SY23 2AU. Ffôn: 01970-612925 Argraffwyr: Gwasg John Penri, 11 Heol Sant Helen. Abertawe. Ffôn: 01792-652092 Gwestal Éiwadd: I LAWR Y LÔN GOCH Tua chanol mis Tachwedd oedd hi pan aeth John a finnau (heb y plant cofiwch, felly dyna beth oedd diwrnod o blesio'n hunain!) draw i ddinas hynafol a choeth Caer Faddon am y dydd. Amcan ein cyd-dripwyr oedd siopa ar gyfer y Nadolig wrth gwrs, ond am John a fi, wel, stori arall oedd hi, gan nad ydw i beth bynnag yn hoff iawn o siopa ar y gorau. Na, diwrnod o grwydro (yn y glaw) gawsom ni o amgueddfa i oriel, o amgylch sgwar y fynwent tu allan i'r eglwys ystolig ac angylog a draw i gyfeiriad y gerddi oer a'r rhaeadr rhyfeddol hwnnw sydd dan bont Pultney. Wrth gwrs roedd yn rhaid taro trwyn mewn ambell i siop weith- iau, petai ond i brynu anrheg i'r tri oedd yn aros amdanom ni adref, a dyna sut y daethom ni ar draws y llyfrau. Cynnig Arbennig! Prynwch un llyfr am bris llawn a chewch un arall am hanner pris! Draw â ni, gan ein bod ni'n deulu darllengar, i sbecian, ac wele yno ar gownter Littlewoods yr anrhegion perffaith dau Iyfr ar arlunio i'r ddau ifancaf, ac un ar Nostradamws i'r mab hynaf-gan ei fod yn hoff o ddarllen am ddirgelion o unrhyw fath. Nodaf yma hefyd i mi brynu esgid arbennig i'r ci gan fod honno bob amser yn disgwyl yn y ciw-croeso- adref. (Nid un i'w gwisgo ond i'w chnoi). Beth bynnag ar ôl cael diwrnod hyfryd, adref â ni am chwech, a dadlwytho y rhoddion i'r dwylo a'r cegau eiddgar yn Rhydaman, a dyna i chi lle bu mwynhau wedyn. Ymhen rhai dyddiau ces gyfle i gael cip ar y llyfrau brynwyd (ches i ddim gafael ar yr esgid achos roedd hi wedi mynd lawr lôn goch y ci ers amser) a darllen am broffwydoliaethau y dyn rhyfedd yma, Nostradamws, oedd yn byw ganrifoedd yn ôl ond a allai, yn ôl rhai, weld digwyddiadau'r dyfodol. Yn ôl y rhai sy'n honni gallu darllen ei benillion rhyfedd (amwys, diddiwedd a chym- ysglyd) mae'n sôn am ddigwyddiadau fel y Pla Du a Thân Mawr Llundain, dienyddio Lewis Ffrainc a Marie Antoinette, yr Ail Ryfel Byd, Hitler (ond fe wnaeth fistêc bach gyda'r sillafu medden nhw) a hyd yn oed y Bom Atomig. Mae'r proffwydoliaethau hyn yn apelio yn fawr at lawer o bobl wrth gwrs, oherwydd eu bod yn ymddangos iddynt gael eu gwireddu yn y gor- ffennol. I besimistiaid sy'n edrych ar ddyfodol ansicr ar ddechrau lonawr arall mae'r gybolfa ryfedd yn gallu bod yn achos dychryn, oherwydd fe ddywed yr hen Nostradamws wrthym ni y bydd rhyfel mawr byd-eang yn torri allan ar ddiwedd y ganrif hon, 1999 i fod yn fanwl gywir wel, mor fanwl gywir ac y gallwch chi fod gyda nonsens o'r fath. Na, ar ôl cael cip ar y llyfr a darllen am y dirgelion erchyll sydd wedi dod eisoes neu sydd am ddod i'n rhan, fe drois i 'nôl at Iyfr llawer gwell, ac at farddoniaeth sy'n llawn hyder a phroffwydoliaethau sy'n ennyn gobaith. Do fe drois i at y Beibl. Pryd bynnag y bydd diwedd y byd, neu beth bynnag a ddigwydd eleni yn 1996, mi wn i mai nad Nostradamws ond Duw sydd a'r gair olaf-yr un a wnaethpwyd yn gnawd ac mai Crist yw yr Alffa a'r Omega. Ac am y llyfr, wel, pwy wyr na fydd yn cael dilyn yr esgid i lawr y lôn goch!