Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Siom o'r mwyaf oedd gweld y Pab a'i esbonwyr yn hawlio mai yn y traddodiad Catholig yn unig y cawn yr hyn sy'n ddwyfol Nid oes gennyf draffei th o gwbl gyda hyn ac yn wir dim ond camddealltwriaeth o'r traddodiad Diwygiedig sy'n pwysleisio ffydd unigolion ar wahân i fywyd eglwysig. Felly siom i mi oedd darllen yr hyn a ddywed Saward ymhellach. Dadleua'n hollol gywir ζtt.63-4) fod yna oblygiadau eciwmenaidd i unrhyw Gristoleg am fod pob dadl eciwmenaidd i raddau'n ddadl Gristolegol. Calonogol hefyd oedd geiriau'r Pab yn yr Almaen yn 1980: `.. speaking of the persisting difficulties between Catholics and Lutheran, the Holy Father said that if they were only 'ecclesiastical prescriptions of human institution', as the Augsburg Confession claims, they could and should be elimated immediately.' (Saward t.64) Da yw gweld y fath ddealltwriaeth o'r gwahaniaeth hanfodol rhwng yr hyn sy'n wirioneddol ddwyfol a'r holl bethau dynol a berthyn i hanes yr eglwys. Fwy na hynny, mawrygwn wroldeb y Cristion a ddywed y dylwn daflu i'r naill ochr bopeth dynol sy'n rhwystro bywyd eciwmenaidd. Ond siom o'r mwyaf oedd gweld y Pab a'i esboniwr yn hawlio ar unwaith mai yn y traddodiad Catholig yn unig y cawn yr hyn sy'n ddwyfol. Mae rhai diwinyddion fel Karl Rahner yn anghytuno â'r fath safbwynt. Ond honna'r Pab fod pob credadun Protestannaidd wrth beidio â cyfystyru Corff Crist â'r sefydliad eglwysig yn gwrthod rhywbeth sy'n ymwneud â Christ ei hun. Mae sôn am yr Eglwys fel rhywbeth sydd wedi ei ymgnawdoli ym Mair Forwyn (`: the great Catholic Doctors see the Church embodied in Mary' (t.67) yn ddim namyn dryswch syniadol dan gochl rhamant. EWCHARIST Yn yr un modd mae pwyslais y Pab ar yr Ewcarist yn rhywbeth gwbl iach ond ar yr un pryd yn hynod broblematig am ei fod yn tybio mae dim ond yn yr Eglwys Gatholig y mae'r Ewcarist i'w gael. Mewn un ystyr fe gytunwn â'r hyn a ddywed Saward, fod diwinyddiaeth y Pab yn Gristganolog am ei bod yn gweld yr Iesu byw ynghanol yr Eglwys. Yn wir mae geiriau'r Pab ei hun yn drawiadol iawn: Jesus is not an idea, a sentiment, a memory. Jesus is a person, always alive and present with us. Love Jesus present in the Eucharist'. (t.69). Cytunwn nad Iesu absennol sydd gennym a chofiwn ei fod yn addo i ni ei bresenoldeb hyd ddiwedd byd. Felly Mae yma wers bwysig i Anghydffurfiaeth am ein bod wedi colli'r ddisgyblaeth o ymarfer â phresenoldeb Crist yn y sacrament John Heywooa Thomas gwerthfawr yw anogaeth y Pab inni ganolbwyntio'n sylw ar yr Ewcarist. Mae yna wers bwysig i Anghyffurfiaeth am ein bod wedi colli'r ddysgyblaeth o ymarfer â phresenoldeb Crist yn y sacrament. Éto i mi mae dadl y Pab yn mynd ar gyfeiliorn pan fynn gyfystyru presenoldeb Crist â digwydd iadau mythegol. Dyma a ddywed Saward: 'He has restated the Council of Trent's teaching on the Eucharistic Sacrifice with particular verve. In the Mass, he says, 'the Bloody Sacrifice of Christ is continually renewed and is once more made present' (t.70). Diwinyddiaeth hen-ffasiwn dros ben yw hyn, hyd yn oed i Babydd. Nid oes yna gytundeb ar y modd y mae Crist yn bresennol yn elfennau'r Ewcarist dim mwy nag y mae cytundeb ar eu ystyr aberthol. Yn fy marn i, dyma'r fan fwyaf amwys yn y ddiwinyddiaeth Gatholig. Ond os felly dyma'r man hefyd lle mae yna fwyaf o bosibilrwydd o gynnal deialog clir a ffrwythlon. Diwinyddiaeth hen-ffasiwn dros ben yw hyn, hyd yn oed i Babydd CYFLE x n yr amnneiiiad hwn ceisiais ddangos y fath broblemau mae diwinydd o Brotestant yn cwrdd â nhw wrth ystyried Catholigaeth heddiw. Roeddwn yn awyddus hefyd i nodi gymaint sydd yn niwinyddiaeth y Pab a all annog deialog eciwmenaidd. Yr hyn rwyf am ei bwysleisio yw'r cyfle mawr sy'n ein wynebu. Fe glywn yn gyson fod yr eglwysi'n colli tir. Yn hytrach na meddwl am eciwmeniaeth fel rhyw gyfaddawd rhwng y gwan fe ddylem ei ystyried yn ymgais newydd i ddod o hyd i'r hen wirionedd. Rhywbeth a berthyn i'r ganrif o'r blaen yw meddwl am Gymru fel caer o Anghydffurfiaeth. Rhywbeth llawn mor ofergoelus yw synio am ei dyfodol fel y gwnaeth Saunders Lewis mewn darlith a glywais flynydd- oedd yn ôl yn Aberystwyth. 'Wales', meddai, 'was made a nation by Nonconformity. Its future is where its ancient origins lie- in MotherChurch'. Mewn ysbryd hollol agored dylem gydnabod fod rhaid i'r dyfodol fod yn wahanol i'r gorffennol ac nid esgus i ni beidio ag ymgodymu a sialens hen draddodiad i ddeialog newydd.