Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Dyma ddadansoddiad Geraint Tudur or arolwg 'Yr Her i Newid a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Ystrydeb yw dweud y gellir defnyddio ystadegau i gadarnhau neu i gyfiawnhau unrhyw osodiad, a diau y bydd rhai am ddefnyddio cynnwys Yr Her i Newid, llyfryn a lansiwyd gan Gymdeithas y Beibl, Cytûn a'r Cynghrair Efengylaidd ar 28 Chwefror eleni, i ddibenion felly. Wedi dweud hynny, a thra'n ymwybodol fy mod innau yr un mor debygol â neb arall i syrthio i'r un bai, rhaid imi gyfaddef fy mod wedi ei gael yn llyfryn eithriadol ddiddorol. Wrth reswm, nid yw'n bosibl cyfeirio yma at bopeth a ddywed bydd yn rhaid i ddarllenwyr Cristion brynu eu copi eu hunain er mwyn cael y manylion yn llawn ond yn yr erthygl hon, carwn dynnu sylw at rai o'r pethau y credais i eu bod o ddiddordeb neilltuol. Y Cefndir Ar wahoddiad Cymdeithas y Beibl y daeth cynrychiolwyr 34 o'r enwadau Trindodaidd yng Nghymru at ei gilydd yn Llandarcy ar 28 Medi 1993, a rhoi cefnogaeth i'r syniad o gynnal arolwg manwl o bresenoldeb eglwysig dros gyfnod o flwyddyn. Nid y bwriad oedd casglu gwybodaeth yn unig am rif aelodaeth yr eglwysi, na chrynhoi ystadegau am nifer neu gyflwr eu hadeiladau. Nid oedd yn fwriad chwaith i gynnwys unrhyw ddimensiwn ysbrydol na moesol yn yr arolwg, dim ond gofyn ychydig gwestiynau am y sawl oedd yn cymryd rhan yng ngweithgareddau eglwysi ein gwlad. Lluniwyd holiadur i ddarganfod beth oedd eu niferoedd, pa fath weithgarwch yr oeddent yn ei gynnal, eu nodweddion fel cynulleidfaoedd a'u bwriadau ar gyfer y dyfodol. Rhoddwyd yr atebion yn nwylo ystadegydd profiadol, a'r gobaith oedd y byddai darlun clir yn ymddangos o sefyllfa'r ffydd Gristnogol yng Nghymru yn ystod degawd olaf yr ugeinfed ganrif. Digwyddodd yr arolwg rhwng dechrau Mawrth 1995 a diwedd Chwefror 1996, ac union flwyddyn yn ddiweddarach, ar ddydd olaf Chwefror 1997, cyhoeddwyd adroddiad yn seiliedig ar yr hyn a ddarganfuwyd, sef y Ilyfr y cyfeiriwyd ato eisoes, Yr Her i Newid. Nid yw ei gynnwys yn peri unrhyw siom na syndod i'r sawl sydd wedl bod yn ymhel â gwelthgarwch Gristnogol yng Nghymru dros y blynyddoedd dlwethaf; i'r gwrthwyneb, mae'n cadarnhau yr hyn yr oeddem eisoes yn ei wybod. ı Ond da o beth yw cael tystiolaeth ystadegol er mwyn medru trafod y sefyllfa yn ddeallus; da hefyd yw gweld y dystiolaeth yn cael ei chyflwyno'n wrthrychol, oherwydd nid yw'r awdur wedi ceisio cynnig unrhyw atebion i'r llu cwestiynau sy'n codi yn sgil dadansoddi'r ffigurau. Yr hyn a gawn ganddo yw'r ystadegau ar ffurf tablau gydag esboniad syml o'r hyn y maent yn ei olygu, ac os oes unrhyw beth allasai beri syndod inni yn y llyfr, mae'n debyg mai'r ffaith syml ei bod wedi bod yn bosibl i ddarganfod cymaint trwy ofyn dim ond un-ar-bymtheg o gwestiynau yn yr holiadur yw hwnnw. Cysylltu â'r eglwysi Pan aethpwyd ati i gyfrif eglwysi Trindodaidd Cymru, darganfuwyd fod 5021 ohonynt mewn bodolaeth ar ddechrau cyfnod yr arolwg. Yr oedd y cyfanswm hwn 731 yn llai nac yn yr arolwg diwethaf a wnaethpwyd ym 1982. Yr oedd, felly, ostyngiad o 13% wedi digwydd yn nifer yr eglwysi mewn cyfnod o dair-blynedd-ar-ddeg, cyfartaledd o 1 y flwyddyn. O'r 5021 o eglwysi y cysylltwyd â hwy, cafwyd ymateb gan 4235, sef 84%. Mae hwn yn ffigwr syfrdanol o uchel i unrhyw arolwg. Oherwydd hynny, rhaid mynegi gwerthfawrogiad diffuant o ymdrechion dau grwp o bobl. Yn gyntaf, y swyddogion eglwysig hynny oedd mor barod i gydweithredu er mwyn sicrhau fod yr arolwg yn un trylwyr, ac yn ail, y rhai hynny a fu wrthi mor ddyfal yn cysylltu â'r swyddogion er mwyn cael yr wybodaeth ganddynt. Ni fyddai neb yn disgwyl i bob swyddog eglwysig deimlo'n frwdfrydig wrth dynnu'r holiadur o'i amlen. Cofiaf, pan oeddwn yng Nghaerdydd yn ystod yr '80au, i minnau geisio gwneud arolwg o eglwysi Annibynnol Cyfundeb Dwyrain Morgannwg. Anfonwyd holiaduron allan yr adeg honno hefyd, a daeth amryw yn ôl gyda geiriau fel, "Beth yw'r pwynt? Nid yw holiadur fel hwn yn mynd I newid dim!" wedi eu hysgrifennu arnynt. Er mwyn cyrraedd ffigwr o 84%, rhaid fod y casglwyr wedi dyfalbarhau gydag amynedd anghyffredin. Diolchwn iddynt, a chan ein bod yn awr yn medru defnyddio ffrwyth eu llafur, cydnabyddwn ein dyled fawr iddynt. Lleoliad a chyflwr yr eglwysi Nid yw'n syndod fod yr ystadegau yn dangos nad yw lleoliad yr eglwysi bellach yn cyfateb i leoliad y boblogaeth (Tabl I). Gwyddom fod symudiad yn digwydd ym mhoblogaeth pob gwlad wrth iddi ddatblygu, ac yn ystod y ganrif ddiwethaf datblygodd Cymru mewn modd dramatig. Bu diboblogi yn yr ardaloedd gwledig, a chynnydd ym mhoblogaeth y trefi a'r dinasoedd. O ganlyniad, gellid dweud fod y capeli a'r eglwysi erbyn hyn yn y mannau anghywir, rhywbeth na allasai ein cyndadau fod wedi ei ragweld wrth iddynt godi'r adeiladau. Er bod cymaint â 27 o wahanol grwpiau neu enwadau Trindodaidd yn bodoli yng Nghymru yng nghyfnod yr arolwg, yr oedd 80% o'r cynulleidfaoedd yn perthyn i'r enwadau a adnabyddwn ni fel rhai 'traddodiadol' (Ffigwr 2).