Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

EHANGA' MRYD EHANGA' MRYD Cristnogion yn erbyn Poenydio GWLEDD I DDATHLU RHYDDID gan Robin Gwyndaf Gofynnodd rhywun un tro i'r Fam Teresa: sut roedd hi'n gallu gweithio yng nghanol baw a thlodi dinas Calcutta. Hithau'n ateb: 'Dal ar y cyfle i wneud gweithred brydferth dros Grist'. Crëwyd dyn ar lun a delw Duw. Meddai'r Salmydd: 'Gwnaethostef ychydig is na'r angylion ac a'i coronaist â gogoniant ac â harddwch'. Rhoed iddo'r gallu i gynnal a datblygu'r harddwch hwn i garu a thrugarhau. Diolchwn ninnau am bawb ar hyd y canrifoedd a fu'n gynheiliaid y prydferth a'r gwâr. Ond, yr un modd, cofiwn gyda thristwch am y rhai sy'n dinistrio'r prydferthwch dyn yn camddefnyddio'i alluoedd, yn peri poen a dioddefaint. Yn ôl Amnest Rhyngwladol, y mae cymaint â chant o wledydd yn y byd heddiw ie, heddiw yn euog o arfer poenydio. Bu i Grist ei hunan gael ei boenydio a'i groeshoelio. Daeth i'r byd i osod gwerth ar fywyd dyn. Y mae rheidrwydd arnom ninnau i wneud yr un modd. Cofiwn eiriau'r Proffwyd Eseia a ddarllenwyd gan yr lesu yn y Synagog yn Nasareth: 'Ymae[yrArglwydd]wedi f'anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharoriorí (Luc 4:18). Ac felly'r geiriau gan awdur yr Epistol at yr Hebreaid (13: 3): 'Cofiwch y carcharorion, fel pe byddech yn y carchar gyda hwy, a'rrhai a gamdrìnir fel pobl â chyrff gennych eich hunain'. Rhoddamhrisiadwyywrhyddid. Cofiaf yn hir eiriau Mehdi Zana pan gafodd Eleri, fy mhriod, a minnau'r fraint fawr o'i groesawu i'n cartref, 21 Rhagfyr 1991,areiymweliadâChaerdydd. Bu ef yn gyn-faer Diyarbakir yn nwyrain Twrci ac yn ymladdwr brwd o blaid hunaniaeth ddiwylliannol i'r Kurdiaid. Fe'i harteithiwyd yn y modd mwyaf creulon a gwelodd rai o'i gyd- garcharorion yn marw wrth gael eu poenydio. Roedd dagrau yn ei Iygaid wrth ddweud: 'Rwyf i yn rhydd, ond ni allaf lawenhau tra bod cannoedd o'm cyd-Gurdiaid yn parhau yn gaeth mewn carchar'. 'A minnau'n gorff wrth wal 0 rew. Yr un modd, cofiaf yn hir ddwyster angerdd ac apêl daer Irina Ratushinskaya, y bardd ifanc o'r Wcraen, yn yr hen Undeb Sofietaidd, pan ddaeth hi yn 1995 i Abertawe i ddarllen ei cherddi ac i gyd-ddathlu ei rhyddid. Yn 1983 roedd hi wedi'i dedfrydu i saith mlynedd o garchar. Ei throsedd oedd ysgrifennu cerddi yn beimiadu'rwladwriaeth. Ond parhaodd i farddoni yn y carchar. Ysgrifennai ei cherddi ar ddarnau sebon gyda choes matsien, yna dysgai hwy ar ei chof cyn eu dileu. Rhyddhawyd Irina ym mis Hydref 1986 wedi ymgyrch daer ar ei rhan gan Amnest a Christnogion yn Erbyn Poenydio. Yn fuan wedi'i rhyddhau a'i halltudio i'r Gorllewin, ysgrifennodd y gerdd hon i ddiolch i'r cannoedd o bobl a fu'n ymgyrchu drosti, llawer ohonynt o Gymru. Dyma rydd- gyfieithiad o'rgerdd honno. Credwch fì, â ninnau mewn celloedd unig ar nosweithiau gaeafol, teimlem o'r newydd ryw orfoledd a chynhesrwydd, rhyw nodyn sicr o gariad. A minnau'n gorff wrth wal o rew yn methu â chysgu, mi wyddwn fod rhywun yn meddwl amdanaf ac yn deisebu'r Arglwydd ar fy rhan. Fy nghyfeillion annwyl, diolch i chwi oll am ddyfalbarhau, am ddal i gredu ynom. Ar yr awr fwyaf brawychus yn y carchar, prin y byddem wedi gallu cario ein holl faich o'r dechrau i'r diwedd dal ein pennau'n uchel- heb gymorth eich calonnau dewri oleuo ein llwybr. Brecwast ı Tamaid Canol Bore Cinio Canol Dydd Cinio Nos Swper • Pam Plant befecfc Griedd Rhyddid, d/o M Wiliams, 16 Pendragon Close, Draenen Pen-graig (Tomhill), CFM 9BD (teà: 029 2061 6110) Ymgyrch ar ran eglwysi yng Nghymru yw Cristrogion yn Ertyn Poenydio. Ym mis Hydref eleni y gobaith yw y bydd cannoedd lawer o Gristnogion ledled Cymru yn ymuno â'i gilydd mewn gwledd i ddathlu rhyddid carcharorion, megis Irina, ac i gofio am y miloedd o garcharorion eraill mewn sawl gwlad sy'n parhau yng ngharchar ac amryw ohonynt wedi'u poenydio. Rhowch wybod i Judi Williams neu Wendy Richards (cyfeiriadau isod) ac fe drefnir i anfon atoch becyn yn cynnwys: cyfarwyddiadau pellach ynglŷn â chynnal y wledd; gwybodaeth am Gristnogion yn Erbyn Poenydio a'r modd i weithredu, ynghyd â gweddïau. Dyma'r datganiad a baratowyd ar gyfer y wasg yn gynharach eleni: