Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gweddi agoriadol Arglwydd helpa ni i ddechrau eleni gyda'th Efengyl Di. Hon yn unig all ein hysbrydoli i ddechrau all roi inni awydd dechrau, all wneud y dechrau yn gadarnhaol, yn ystyrlon, yn obeithiol, all gadw gwefr y dechrau, gan ddelio â'r pryderon. Yn enw lesu Grist Mab Duw, Amen. Diolch iti, ein Tad grasol am Iyfr eto, newydd sbon, i groniclo ein holl hanes ar y bererindod hon. Carem gael cofnodi ynddo lawer argyhoeddiad mawr, a gobeithiwn gael ei lenwi er dy glod, o glawr hyd glawr. Dewis o ddarlleniadau Beiblaidd Salm 96 Canwch i'r Arglwydd gân newydd. Tymor i Bopeth. Llyfr y Pregethwr 3 adnod 1- 11. Gofal a Phryder. Luc 12, adnodau 22 34. Colosiaid 3 adnodau 12-17. Myfyrdod Emyn a Myfyrdod ar Ddechrau Blwyddyn gan D Hughes Jones. Ar drothwy blwyddyn newydd, Nefol Dad, gweddïwn am d'arddeliad di-nacâd i gynnal y Dystiolaeth yn y tir, a'n cynnal ninnau i'w chyhoeddi'n glir. Wrth fyw o ddydd i ddydd rho inni'r gras i ddilyn lesu heb fradychu'n tras, a throi cymwynas yn gymundeb gwiw trwy leddfu loesau ac iacháu pob briw. D'arweiniad dyro inni ar ein rhawd a sicrwydd ffydd i goncro breuder ffawd. Ym mhob diflastod deued ateb Duw i fwrw golau ar broblemau Byw. Cerfiwch Dduw o'r tywyllwch gyda ffydd, fel glowr yn cloddio glo o bwll. Cerfiwch Ef â ffydd, yr unig art sydd ar ôl yn y tywyllwch a fodola is y ddaear, ar waelod y pwll. Unwaith y canfyddwch Dduw yno, ni fydd raid pryderu. Fe wyddoch wedyn bod modd canfod Duw ym mhob man. Deunydd defosiwn ar gyfer yr eglwys gyfan gan Aled Lewis Evans. DECHRAU BLWYDDYN Cerddi a darlleniadau Addasiad o eiriau Minnie Louise Haskins GiâtyFlwyddyn Newydd. Meddwn i wrth y gwr a safai wrth giât y flwyddyn. "Dyro olau i mi er mwyn mi gamu'n ddiogel i'r anwel". Ac atebodd yntau "Dos allan i'r tywyllwch a rho dy law yn llaw Duw. Fe fydd hynny'n well i ti na golau ac yn fwy diogel na ffordd gyfarwydd." Felly ymlaen â mi, ac o ganfod llaw Duw, camais yn fodlon i'r nos. Ac fe arweiniodd yntau fy nghamau at y bryniau, a gwawrio'r dydd yn unigrwydd y Dwyrain. WEITHIAU Weithiau dydy pethau ddim yn mynd o ddrwg i waeth wedi'r cwbl: Ambell flwyddyn mae'rgrawnwin yn troi'r rhew heibio; mae gwyrdd yn llewyrchu, y cnydau heb fethu, weithiau bydd un â nod uchel, ac fe gaiff rhwydd hynt i'w gyrraedd. Weithiau bydd cenhedloedd yn troi'u cefn ar ryfel yn ethol un geirwir; penderfynu eu bod yn hidio digon fel na allant adael rhyw ddieithryn heb fwyd. Bydd rhai yn canfod y pwrpas y'u ganwyd iddo. Weithiau bydd ein hymdrechion gorau ddim yn mynd o dan draed, weithiau rydym yn llwyddo fel y bwriadom. Bydd yr haul weithiau yn meirioli cae o ofid a edrychai wedi rhewi'n gorn boed i hyn fod yn brofiad i ti. (Rhydd addasiad o eiriau Sheenagh Pugh a ganfyddais yn rhan o gynllun Barddoniaeth ary Trên Tanddaearyn Llundain.) Cân gyfoes Côr, Parti neu Unawdydd GRYM CARIAD. (Geiriau gwreiddiol aryr alaw Power of Love a genir gan Celine Dion a Jennifer Rush.) Mae'r byd yn llawn cysgod drwgdybiaeth ym mhob man a dyn yn ymladd dyn o hyd a'rgwirion yn cael cam. Aeth arfau yn bwysicach na dyfeisgarwch dyn a grym y bom yn herio yddaearwerddeihun. CYTGAN Down at ein gilydd