Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

'Mae'r eglwys yn well am roi elusen nag ydyw am uniaethu gyda phobl: gwell gennym roi i'r digartref nag eistedd gyda hwy'. 'Ni allwn rannu'r bara toredig heb dderbyn cyfrifoldeb am fyd toredig'. 'Nid oes rhaid inni chwilio am Dduw yn unman, oherwydd y mae gyda ni. Nid oes llwybrau tuag at Dduw; yr unig Iwybr yw ei Iwybr ef tuag atom ni. Felly y mae pob person yn fod sanctaidd, wedi ei greu ar ddelw Duw: dyna fan cychwyn pob dealltwriaeth o'r Cymun.' CRISTNOGAETH A'R CREFYDDAU Yn ddiweddar cyhoeddodd Eglwys Bresbyteraidd Cymru ddogfen wedi ei pharatoi ar y cyd rhwng y Panel Athrawiaeth a Bwrdd y Genhadaeth yn ymwneud â'n perthynas â chrefyddau eraill, a chefais gyfle i'w gyflwyno yn y Grwp; roedd gwerthfawrogiad mawr o'r gwaith hwn, a gellir cael copïau ohono o brif swyddfa'r Presbyteriaid yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Testun rhyfeddod i lawer o aelodau TUG oedd bod Panel Athrawiaeth a Bwrdd Cenhadol wedi gallu dod i un meddwl ar bwnc mor ddadleuol â hwn! Yn sicr ni allwn osgoi'r cwestiwn hwn ymhle bynnag rydym yn byw heddiw, oherwydd bydd deiliaid crefyddau eraill y byd yn siwr o fod yn gymdogion inni. Gan hynny, nid mater diwinyddol yn unig mohono bellach, ond sut i fyw a gweithio gyda'n gilydd o fewn un gymuned. O leiaf rhaid inni barchu'n gilydd a cheisio dysgu oddi wrth ein gilydd, ac fel yr ydym wedi gweld yn ddiweddar, mae camddeall a cham-bortreadu'n gilydd yn gallu arwain at ddrwg deimlad a hyd yn oed derfysg ar ein strydoedd. Ond ni allwn droi o amgylch y cwestiynau hyn yn hir nes i'r cwestiynau diwinyddol ddod i'r golwg. Sut ydym ni i ystyried y genhadaeth Gristnogol heddiw? Ayw'n iawn ein bod yn ceisio troi Moslemiaid, er enghraifft, at Gristnogaeth? Ai un Duw sydd, a bod syniadau pobl amdano'n amrywio yn ôl y datguddiad a gawsant? Os nad ydym yn barod i dderbyn hynny, rhaid inni un ai ddadlau bod llawer o dduwiau'n bod, neu bod pobl eraill yn addoli'r hyn sydd gau. A fyddem yn barod i ddweud hynny wrth Foslem sy'n llawer mwy defosiynol ei grefydd na ni? Dechreuodd un pregethwr amlwg annerch cynhadledd aml-ffydd yn ddiweddar trwy ddweud: 'Felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd Moses yn ddeddfwr; felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd Mohamed yn broffwyd; felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd lesu'n waredwr'. Cofiwn mai o'r un cyff y tarddodd y tair crefydd honno. Yn sicr mae gennym ffordd bell i fynd eto cyn y medrwn ffurfio barn aeddfed yn ein meddyliau'n hunain ar y cwestiynau hyn, heb sôn am eu trin a'u trafod mewn ffordd gyfrifol o fewn ein heglwysi. Ond mae yna elfen o frys inni dyfu mewn dealltwriaeth o'n gilydd o fewn y gymuned ehangach yn ogystal. Un gair i gloi Mae TUG newydd gyhoeddi geiriadur defnyddiol iawn o dermau eglwysig ('Ecumenical Glossary'), sef geiriau yr ydym yn eu defnyddio mewn ffyrdd gwahanol o fewn ein traddodiadau gwahanol. Er enghraifft, nid yw'r gair 'eglwys' yn golygu'r un peth i bawb ohonom, na'r gair 'diacon', neu 'presbyter'. Mae hwn yn adnodd gwerthfawr iawn, ac yn adeiladu ar lyfryn tebyg a gafodd ei baratoi gan Cytun rai blynyddoedd yn ôl. Dyna enghraifft arall, dybiwn i, o Gymru'n dangos y ffordd i weddill Prydain! DECHRAU CANU DECHRAU CANMOL pob nos Sul S4C Green Bay 029 20 642387 dechraucanu@green-bay.tv