Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ger y Groes Drama Funud EMYR EDWARDS* Milwr: I ffwrdd a thi, nawr. Cliriwch y lie yma. Spif: Pwy yw hwn? Milwr: Ymlaen a'th gert i rywle arall, was. Spif: Olreit, does dim rhaid iti wylltio. Milwr: I ffwrdd a thi, ddwedais i. Spif: Ond own i'n credu taw i bawb oedd y sioe hon. Milwr: Does gen ti ddim permit i fod yma. Spif: Oes rhaid cael permit i weld dyn dan hoelion? Milwr: Dyna ddigon o'th dafod. I ffwrdd a thi. Spif: (gan droi at butain) Oes gen ti bermit i weithio ar y bryn, dywed? Mae bois y fyddin 'man meddwl taw nhw yw'r hollalluog y dyddiau hyn! Pah! ymosod ar hawliau'r dyn cyffredin. Putain: Permit? Mae nhw i gyd yn f'adnabod i. Y fi yw doli r gwersyll, was. Spif: R wyt ti'n lwcus. Putain: Wyddost ti, mae'r boi yna sydd newydd dy herio di yn hen gyfarwydd a 'ngwely i. 'D wyt ti ddim yn gwerthu'r pethau iawn boi. Weli di hon? (gan ddangos ei choes) Dyna 'mhermit i. Spif: Diawl. Gret w. Pwy yw'r boi 'ma sydd dan yr hoelion heddiw? Mae'n ymddangos ei fod yn eitha poblogaidd. Bois fel hyn sy'n helpu'r trad. Piti na fuasai mwy fel hwn i dynnu'r dyrfa. Putain: Y ffwl parasitig ag wyt ti. Spif: Ha, chdi'n dweud hynny. Putain: Hoffwn i ddim fod yn ei le, ta beth.