Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Coil Gwynfa myfyrdod lyfryddol ar gyfieithiad William Owen Pughe. GAN J. HUBERT MORGAN, M.A., University College, Cardiff. Tybiaf y dylwn ddcchrau'r Ilith hon drwy gyffesu mai ffrwyth anwybodaeth ydyw. Yn wir, diffyg gwybod a ddylwn am y llyfr Coil Gwynfa a'm cymhellodd i chwilio tipyn i'w hanes yn llyfryddol a cheisio ysgrifennu amdano yma.1 Dechrau'r ymchwil oedd gofyniad ynglyn a dau argraffiad Coll Gwynfa. Ni chofiwn i ond am un argraffiad, er y gwyddwn fod dau gopi o'r llyfr yn Y Salesbury a'r rheini'n gopiau a gyflwynodd y cyfieithydd i ffrindiau. Wedi imi cu gweled, nid bach oedd fy syndod wrth graffu ar y geiriau o ail- argraffiad' ar ddalen deitl y ddau gopi. Yna, cefais weled copi Mr. G. J. Williams, a sylwi nad oedd y gair ail ar ei ddalen deitl a bod gwahaniaethau rhyngddo a'r ddau gopi arall. I lawr A mi wedyn i'r Ystafell Gyffredin, gweled yr Athro W. J. Gruffydd a gofyn iddo: Oes gyda chi gopi o argraffiad cyntaf Coll Gwynfa William Owen Pughe ? Oes," meddai, copi a roddodd Pughe i Clough oedd yn Gymrawd o Goleg yr Iesu.' Tybiwn fy mod ar y llwybr iawn erbyn hyn, ac y cawn weled, efallai, gopi da o'r llyfr fel y daeth gyntaf o'r wasg. Ond bore drannoeth sylwais ar unwaith fod y gair ail ar ddalen deitl hwn eto. Wrth ei gymharu a'r copiau eraill, ni bum yn hir cyn sylweddoli bod nid yn unig wahan- iaethau rhyngddynt ond hefyd anghysonderau. Nid oedd dim amdani ond gweled pob copi a allwn, yn enwedig y rhai a anfonwyd at y tanysgrifwyr yn y byrddau gwreiddiol neu wedi eu rhwymo. Gwelais ar 61 hyn yn Llyfrgell y Ddinas, Caerdydd, nifer o gopiau o'r ddau argraffiad, a rhai ohonynt mewn byrddau. Wedi imi eu cymharu'n frysiog fe sylwn fod rhai o'm tybiadau am gyhoeddi'r cyfieithiad yn cael eu dryllio'n ffradach. Ysgrifcnnais at y Dr. Tom Richards i holi a oedd yn Llyfrgell Coleg Bangor (neu ymhlith y sypyn o lyfrau E. R. G. Salisbury a aeth yno drwy amryfusedd !) gopi tanysgrifiwr neu un yn y byrddau cysefin. Synnwn glywed nad oedd yno, mwy nag yn y Llyfrgell Genedlaethol, gopi o'r naill na'r Hall.2 Ymfodlonais, felly, ar dybied y deuwn o hyd i ryw ddamcan-