Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CANFOD. τ. DIFFINIAF ganfod fel math neilltuol o ymwybod â gwrthrychau, sef yr ymwybod hwnnw sydd wedi ei seilio ar synhwyro, yn enwedig gweled a chyffwrdd. Fe gyfyd anhawster ar unwaith A rydd y glust, y ffroenau a'r tafod eu gwrthrychau hwythau fel y rhydd y llygad a'r cyffwrdd ? Nid wyf yn sicr. Soniaf am rosyn pêr ei aroglau ac am afal melys, ond gwelaf a chyffyrddaf â'r rheini. A fyddai gwrthrychau canfod yn bodoli i un heb allu i weled a chyffwrdd ? Ni wn. Fe'm cyfyngaf fy hun yma i'r canfod hwnnw sydd yn gysylltiedig â gweled a chyffwrdd. Diffiniaf ganfyddiad yn nhermau canfod. Canfyddiad yw'r gwrthrych a ganfyddaf. Yn aml defnyddir y gair canfyddiad am y weithred o ganfod, rhywbeth goddrychol, ond defnyddiaf ef drwy'r papur hwn i olygu'r gwthrych a ganfyddaf. A oes gwahaniaeth rhwng canfod a synhwyro ? Tybir yn gyffredin gan athronwyr fod gwahaniaeth, a chymerais hynny yn ganiataol wrth ddifhnio canfod. Golygir yn gyffredin wrth y term synhwyro broses corfforol-meddyliol. Symbylir y corff o'r tu allan, ymetyb y nerfau â'r symbyliaid, rhônt eu neges i'r meddwl, a chaiff hwnnw yn ei dro'r synhwyriad. Ond yn ôl y ddamcaniaeth arferol ni chafwyd eto ganfyddiad. Cymerwn enghraifft. Y foment hon canfyddaf afal coch. Ond cyn imi ganfod synhwyrais drwy'r llygaid gylch coch, a theimlais â'm llaw y llyfndra a deimlir wrth gyffwrdd â chroen afal. Dyma'r synwyriadau a roddir imi. Rhywbeth a ddigwydd wedi hynny yw'r canfyddiad. Yn awr, nid wyf yn hollol sicr fod y gwa- haniaeth hwn yn wahaniaeth real. Onid oes naws academaidd arno ? Onid un profiad cyfan yw canfod afal, nid ein bod yn gyntaf yn synhwyro ac yna'n ail canfod, fel dwy weithred hollol wahanol ? Tybed ai ffrwyth dadan- soddiad yw'r ddeupeth ar wahân ? Rhaid wynebu'r cwestiwn anodd hwn yn yr erthygl hon. Ond y mae'r modd y defnyddiwn y gair canfod yn glir. Nid synhwyro yn yr