Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

pwysig diweddar yn odidog a chan fod rhai ohonynt yn ddieithr i ni a feithrinwyd yn nhraddodiad ynysig Prydain, ni ellir gwerth- fawrogi Berdyaev fel y dymunem. Eithr ar Hartmann, er enghraifft, teimlir bod ei feirniadaeth yn deg a threiddgar. Yn ysbrydol y bernir dyn, a'i dynged, yn ôl Berdyaev. A'r golau mwyaf llachar hyd yma, a gaed arno yw golau Cristnogaeth. Mentraf ddweud bod ei bennod fawr ar Ddyn yn un o'r pethau mwyaf gorchestol ymhlith gweithiau pennaf ein hoes. Rhaid darllen y llyfr proff- wydol (yn ogystal ag athronyddol) hwn droeon. Fe dâl i'r sawl a gymer hamdden i wneud hynny. STEPHEN O. TUDOR. VALUE AND ETHICAL OBJECTIVITY a study in Ethical Objectivity and the Objectivity of Value. By GORDON S. JURY. London: George Allen and Unwin, Ltd. 1937 258. 7/6. UN o ddisgyblion Urban yw'r awdur, yn trafod yn y llyfr bychan, maethlon hwn y pwnc canolog mewn moeseg beth yw "gwerth", ac i ba bethau y perthyn gwerth ? Y mae moeseg, meddai yn ei gyflwyniad, yn astudiaeth sy'n annibynnol ar fetaffiseg, seicoleg a chymdeithaseg; y mae iddi faes arbennig i'w astudio oblegid barn arbennig (unique) yw'r farn foesol. Perthyn yr awdur i'r un ysgol â Moore, Broad, Ross, Urban, a Hartmann. Yn ei ddadansoddiad o'r ymwybyddiaeth o werth deil yr awdur fod pob gwybod yn cynnwys elfen o ddewis a dethol, nid o angen- rheidrwydd dewis i ryngu bodd personol, oblegid medr fod yn ddewis sy'n deillio o'r hymwybyddiaeth o werth fel y cyfryw, a'r ymwybydd- iaeth hon yw maes astudiaeth arbennig moeseg (tud. 39-46.) Prif gyfraniad gwreiddiol y llyfr yw'r awgrym i rannu moesegwyr yn dri dosbarth yn ôl fel yr esboniant berthynas gwerth moesol a'r gwerthoedd honedig di-foes (non-moral) 1. Y dosbarth a elwir ganddo yn inclusive theories," h.y., y rhai a ddadlau mai'r un yw "gwerth" pa Ie bynnag y'i ceir, mai'r un ydyw natur hanfodol gwerth mewn cysylltiadau moesol neu ddi- foes (Moore, ar dir moesegol, Urban, ar dir metaffisegol). 2. Restrictive" y mae gwerth moesol i'r dosbarth hwn yn wahanol i'r gwerthoedd di-foes, eithr fe'i ceir bob amser yn gysyllt- iedig â'r gwerthoedd eraill, neu'n hytrach yn ddibynnol arnynt (Hartmann, Laird.) 3. Exclusive" y rhai sy'n honni bod gwerth moesol, fel y cyfryw, yn hanfol wahanol i bob gwerth arall (Kant, er enghraifft, iddo ef yr ewyllys dda yn unig sy'n wir dda.)