Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BETH YW CALFINIAETH? gan y Parch. Stephen Owen Tudor, Caer- narfon Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd 1957 tt. xii, 94, 1957. Dyma'r drydedd gyfrol yn y gyfres A Wyddoch Chwi ? a gyhoeddir gan Lyfyrfa'r Methodistiaid Calfinaidd. Llawlyfr yn trafod elfennau canolog gwaith Calfin ydyw, ac fel y dywaid y Parchedig J. D. Vernon Lewis, M.A., B.D., yn ei gyflwyniad ar y dechrau, byddai yn anodd llunio ei well. Wrth gwrs, ni ellir ond codi cwr y llen ar ddysgeidiaeth amlochrog Calfin mewn gofod mor fyr. Nid oes gyfle i esbonio na manylu. Y dasg mewn llawlyfr fel hwn ydyw ennyn diddordeb y darllenydd yn nysgeidiaeth Calfin, rhoi inni flas arni, a chodi awydd ynom i wybod mwy am Galfin a'i waith. I gyflawni tasg felly rhaid wrth awdur sydd, nid yn unig yn hollol gyfarwydd â'i faes, ond hefyd yn edmygydd mawr o'r gwrthrych. Daw'r Parch. Stephen O. Tudor i fyny â'r amodau yn gampus. Fe roddir inni ambell gip ar y cefndir hanesyddol yn y gyfrol, ond nid yw'r awdur yn dilyn cynllun hanesyddol fel y cyfryw. Yn hytrach fe draethodd yn ddiddorol ar brif bynciau diwinyddiaeth Calfin, gan gyfeirio'n gynnil at gefndir a dylanwad yn ôl y galw. Y mae'r awdur yn cywiro'r fam boblogaidd ar ambell athrawiaeth, ac yn dwyn ar gof inni lawer o agweddau yn nysgeidiaeth y diwygiwr na chofir amdanynt yn aml. I lawer ohonom nid yw enw Calfin yn sefyll dros ddim ond syniadau eithafol am benarglwyddiaeth Duw ac etholedi- gaeth. Ond y mae awdur y llawlyfr hwn yn ein gosod ar lwybr diogel ynglyn â dysgeidiaeth Calfin am Dduw drwy egluro nad penarglwyddiaeth Duw ydyw'r unig wirionedd a bwysleisir. Gwirionedd arwyddocaol ydyw, sydd yn gosod y cyweirnod i ddiwinyddiaeth gyfoethog ac amlochrog. Y mae'r ddiwinyddiaeth honno wedi ei seilio ar yr Ysgrythur, ac fe ystyriai Calfin fod yr Ysgrythur yn ddatguddiad ysgrifenedig o ewyllys Duw. Eithr Gair, ac nid geiriau Duw sydd yn yr Ysgrythur, ac y mae'n bwysig cofio hefyd na fedrwn dderbyn y datguddiad heb dystiolaeth fewnol yr Ysbryd Glân. Y mae tystiolaeth yr Ysbryd yn uwch na gweithgarwch ein rheswm, (Tud. 16). Ceir pennod daclus yn trafod yr hyn a ddywed Calfin am ddyn a chym- deithas. Ceisiodd Barth ein hargyhoeddi fod dyn yn gwbl lygredig, ond cysur yw cofio nad dyna ddysgeidiaeth Calfin ar y pwnc. Credai fod delw Duw ar ddyn mewn dwy wedd. Yn gyntaf, y mae delw Duw yn cael ei hadlewyrchu ynom ni megis yn yr holl gread, ond yn ail, y mae dyn yn dwyn delw arbennig o Dduw sydd yn ffrwyth yr Ysbryd Glân. Nid meddiant naturiol yw'r ddelw hon-rhaid ei haileni ynom trwy'r Ysbryd Glân. Dyma unig obaith dyn gan iddo gael ei lygru drwyddo draw, er nad yn llwyr, gan bechod. Anghofir yn fynych fod agweddau cymdeithasol i waith a dysgeidiaeth Calfin, a gwnaeth y Parch. Stephen O. Tudor waith da yn dwyn i'n sylw ei ddylanwad mewn gwleidyddiaeth a byd masnach. Nid enaid hollol arallfydol oedd y diwigiwr, ond gwr a gredai fod Duw am sancteiddio a chysegru holl fywyd dyn yma ar y ddaear. Cefnogai Calfin y celfau cain, cerddoriaeth, drama a barddoniaeth. Yn y bedwaredd bennod cawn olwg ar ddysgeidiaeth Calfin am yr Eglwys. Creadigaeth barhaus yr Ysbryd Glân ydyw, cymdeithas y credinwyr, parhad o'r Ymgnawdoliad. Er sicrhau ei ffyniant dylid rhoi lIe pwysig i Athrawiaeth bur, y Sacramentau, Disgyblaeth ac Addoliad. Y drefn Bresbyteraidd a gefnogai Calfin, ond gwelwn ei fod mor eciwmenaidd ei ysbryd a neb, a bu yn ddigon eang ei fryd i gynnig cynllun i uno'r Eglwys Brotestannaidd ag Eglwys Rufain. Ceir trafodaeth glir a chryno ar ddiwedd y bennod ar syniadau Luther, Zwingli, a Chalfin ar ystyr Swper yr Arglwydd. Yn y bennod ddilynol y mae'r awdur yn rhoi inni olwg decach nag a feddwn yn am1 o arhrawiaeth etholedigaeth.