Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y SYNIAD O GENEDL Gan Lywydd yr Adran, 1959-60. CYMUNDOD o bobl yw cenedl. Nid cymundod hiliol na llwythol, canys cymysgwyd hiliau a llwythau yng ngwneuthuriad cenhedloedd, Eithr onid rhaniad ar ddynion o fath yr hil neu'r llwyth yw cenedl, ym mha ffordd y daeth hi ? Yr ateb yw mai cymundod gwneuthuredig ydyw, nid o wneuthuriad dyn wrth gwrs, ond o wneuthuriad Amser. Cymundod yw cenedl a luniwyd gan hanes allan o ryw gymysgwch cyntefig, hiliol neu lwythol. Gwnaed un o'r ychydig geisiadau i'w dadelfennu gan Stalin yn ei National and Colonial Question. Ac medd ef yn y cyswllt hwn c Nation is a historical, not an ethnographical, category [A nation] is a historically constituted community of people." Gellid gofyn ai nid difíìnio'r wladwriaeth a wneir yma — y cymundod gwleidyddol? Gwél Stalin yr anhawster a gofyn: "What distinguishes a national community from a political community? Gwthir ef gan y cwestiwn hwn i lawr at y clymau gwaelodol sy'n uno dynion yn un bobl. Bydd y rhain yn bwysig i'n trafodaeth ac yr wyf am eu galw (er mwyn hwylustod) y clymau crai". Y cwlwm crai cyntaf yw'r cwlwm iaith. A national community," medd Stalin, is inconceivable without a common language." Gesyd ef, felly, yn ei ddiffiniad o genedl, ei bod hi'n gymundod iaith. Nid na cheir enghreifftiau o genhedloedd gwahanol yn siarad yr un iaith, megis yr Ellmyn a'r Awstriaid, y Saeson a'r Gwyddelod. Yr hyn a wêl Stalin yn an- hepgorol yw fod pawb o fewn i'r un genedl yn siarad yr un iaith. There is no nation which at one and the same time speaks several languages." At ei gilydd, hwyrach, y mae hyn yn wir. Eithr onid oes eithriadau arwyddocaol ? Beth am genedl y Belgiaid ? A beth am Gymru ? Siaredir dwy iaith yng Nghymru. A oes yma, gan hynny, ddwy genedl wahanol ? Dyma gip eisoes ar beth a ddaw fwyfwy i'r amlwg fel y symudwn ymlaen, sef bod y sefyllfa yng Nghymru yn un gymysglyd. Gofyn Stalin ymhellach, Pam nad ystyrir pobl sy'n siarad yr uniaith, fel, er enghraifft, y Sais, yr Americanwr a'r Gwyddel, yn un genedl ? A'i ateb yw am nad ydynt yn byw ar yr un diriogaeth. Ychwanega, gan hynny, at ei ddiffiniad o genedl ei bod hi'n gymundod tiriogaeth (' community of territory'). Mae ganddo frawddeg i'w nodi yma ar y modd y clymir yr hyn sy'n wasgaredig mewn amser, sef olyniaeth y cenedlaethau, gan undod gofod. A nation is formed as a result of the fact that people live together from generation to generation. But people cannot live together for lengthy periods unless they have a common territory." Ond y mae ynglyn â'r pwynt hwn eto gymhleth- dod. Canys y mae o leiaf un eithriad pwysig i'r diffiniad o genedl fel