Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

profiad qua profiad o weld ystyr mewn bywyd-dadl Wittgensteinaidd gyfar- wydd. Amlygir dylanwad y duw goruwchnaturiol orau yn y penodau ar ddiolch ac ymofyn. Os yw Duw'n oruwchnaturiol, ni chawn ddweud fod ein diolchgarwch iddo yn dibynnu ar y gred fod rhywbeth da wedi digwydd, ac mai Duw a oedd yn gyfrifol. Rhaid i'n diolchgarwch fod yn annibynnol ar y ffaith fod A, ac nid B, wedi digwydd. Ceir dehongliad cywir o ddiolch i Dduw yng ngwaith Kierke- gaard a Simone Weil. Yr un gweithgarwch yw diolch i Dduw, caru Duw, gweld ein bywyd fel aberth iddo, a gweld ystyr yn ein bywyd. Diolchwn i Dduw am ein bod, nid am inni gael ffafr ganddo (tud. 96, 105). Profir ar dir cyffelyb mai ofergoel yw meddwl ein bod yn gofyn i Dduw wneud rhywbeth drosom. Yn hytrach, gofynnwn iddo am gael cadw ein gobaith yn wyneb y perygl sy'n deillio o'n hamryw ddyheadau y perygl yr awn i gredu fod digwyddiadau ffafriol yn cadamhau ystyr bywyd, a rhai anffafriol yn tanseilio hynny. Ni all Cristion ond diolch i athronydd a luniodd, mewn iaith fodern, ddadan- soddiad sy'n llawn cydymdeimlad â'r pwnc hollbwysig hwn. Ar yr un pryd, rhaid nodi rhai bylchau yn y ddadl. (a) Y pwynt pwysicaf, ond odid, yn nadl Mr. Phillips yw'r anghysondeb tybiedig rhwng y syniad fod Duw'n oruwch- naturiol a'i fod yn gweithredu yn y byd. Rhagdybir hyn, yn hytrach na'i brofi. (b) Ni ddadansoddir ychwaith y syniad o ystyr bywyd. Fel canlyniad, nid yw'r berthynas rhwng gweddïo a'r profiad o weld ystyr mewn bywyd yn cael ei datgelu yn ddigonol. Tybiaf y dywedai Mr. Phillips fod y profiad yn dilyn y weddi, ond yr ateb cyfriniol Cristnogol yw mai gweddi yw ystyr bywyd. Nid damcaniaeth uniongred sydd gan Mr. Phillips. Byddai'n rhaid i Gristion sy'n credu yn yr Ymgnawdoliad wrthod yr anghysondeb sy'n sail i gymaint o'r ddadl. Yn wir, tanlinellir anhawsterau Mr. Phillips gan ei osodiad ef ei hun mai rhodd Duw, yn ateb i weddi, yw gobaith (tud. 67, 75). Gan bwysiced testun y llyfr hwn, nid yw diddorol' yn gweddu fel dis- grifiad ohono. Y mae'n wallus mewn mannau, ond yn fyw drwyddo. Aberystwyth. J. I. DANIEL. THE PHILOSOPHY OF RELIGION, H. D. Lewis Teach Yourself Series, 1965, tud. x + 338, 10s. 6ch. Gan fod gofyn am wireddu pob cred yn nhermau profiad dynol, ac oherwydd y veto ieithyddol ar gredoau crefyddol sy'n dilyn yr empeiriaeth hon, ceir llawer o athronwyr cyfoes yn ildio anhepgorion crefydd yn eu dadansoddiadau. Gwêl H. D. Lewis ddylanwad Wittgenstein yn hyn i gyd. Rhydd yr Athro yr argraff mai syniadau Wittgenstein ei hun a adlewyrchir yn y dylanwad a gafodd. Nid yw hyn yn wir. Dywed H. D. Lewis na ellir esbonio ein profiad o Dduw yn nhermau profiad dynol. Dirgelwch yw Duw. Cyrhaeddwn at argyhoeddiad o realiti Duw trwy sythweliad. Realiti y tu hwnt i brofiad dynol yw Duw, ond cyfeiria'r profiad hwnnw tuag ato. Gan mai un yw realiti, cyfeiria popeth tuag ato crefydd, moeseg, estheteg, hunan-adnabyddiaeth, gwyddoniaeth, ac yn y blaen. Ond awgrymaf nad rhywbeth sy'n rhoi ystyr i'r cyd-destunau uchod yw realiti. Ceir realiti yn yr ystyr sydd iddynt. Penderfynir beth sydd yn real ac yn afreal gan safonau mewnol priod pob cyd-destun. Diystyr yw sôn am yr un realiti sy'n trosgynnu'r cyd-destunau i gyd, oherwydd pa ystyr sydd i'r un realiti yn y cyswllt yma ? Cais H. D. Lewis gyfiawnhad o'r cyd-destunau fel y cyfryw. Dyma gais anghyfreithlon am gyfiawnhad. Dangosodd Wittgen- stein hyn unwaith wrth gyfeirio at ddadl yr Hynafiaid, sef gan fod y