Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Er cyhoeddi'r Eikon Basilike, a brintiwyd am y tro cyntaf o fewn ychydig oriau i ddienyddiad y Brenin Siarl I ym mis Ionawr 1648/9, yn agos i hanner cant o weithiau yn Saesneg1, a'i drosi i amryw ieithoedd eraill, y cwbl o fewn blwyddyn i'w ymddangosiad cyntaf, ni chyhoedd- wyd erioed yr un argraffiad Cymraeg ohono. Yn anffodus, rhan yn unig o'r cyfieithiad gan Rowland Vaughan sydd ar gael; dinistriwyd y gweddill, gan leithder yn ol pob tebyg, gan adael y rhan olaf o'r gwaith yn unig ar ol, o ddiwedd y drydedd bennod ar hugain i ddiwedd y llyfr. Dywed Vaughan, Y bras gyf- ieithiad hwn a ddibennwyd yr 16 o fis Ionawr 1649' (h.y. 1649/50, blwyddyn union ar ol y dienyddiad). Cyflwynodd Vaughan ei gyfieithiad i'r [a]nrhyde[ddus] Golonel sir John Owen farchog (un o hynafiaid yr Arglwydd Harlech), rhag- law Castell Harlech, brenhinwr selog arall a dalodd yn ddrud, fel Vaughan, am ei syniadau a'i waith yn hyrwyddo achos y brenin Siarl I yng ngogledd Cymru. Bu cryn drafodaeth ar hyd y canrifoedd ynghylch awduraeth y llyfr Saesneg, a chasglwyd cryn lawer o dystiolaeth o bobtu i brofi ar y naill law mai'r brenin Siarl ei hun oedd yr awdur, ac ar y llaw arall mai John Gauden, Esgob Caerwysg a Chaerwrangon, oedd yn gyfrifol am y gwaith. Ysgrifennwyd llawer ar y mater, ac y mae Edward Almack yn arbennig wedi ei drafod yn helaeth mewn dau lyfr def- nyddiol,2 gan osod y gwahanol resymau yn glir ger bron. Diddorol yn wyneb hyn ydyw darllen yn y llythyr cyflwynol nad oedd dim amheuaeth ym meddwl Vaughan ynghylch awduraeth y gwaith Saesneg gwreiddiol. Y mae'r ffaith fod gwr llengar o'r fath, gwr a oedd ar yr un pryd yn un o ganlynwyr ffyddlonaf y brenin, un a gymerodd ran, yn ol yr hanes, ym mrwydr Naseby lie y dinistriwyd peth o lawysgrif wreiddiol yr Eikon Basilike,3 yn credu'n gydwybodol mai gwaith y Brenin ei hun oedd, yn ddolen ychwanegol yn y dystiol- aeth o ochr y brenin. Fel hyn y disgrifia Vaughan yr Eikon Basilike yn y llythyr cyflwynol a ysgrifennodd o fewn blwyddyn i farw'r brenin- I Gweler Eikon Basilike, or The King's Book edited by Edward Almack, F.S.A., London, 1904, p. xxii, The King was executed on January 30th, 1649, and the first edition was issued within a few hours of this. Copies were eagerly bought and carefully treasured. Forty-six editions of it were issued in English during the first twelve months of its sale, as well as three editions of it in Latin, four in French, two in Dutch, and one in German. Since then, it has been reprinted fifteen times.' 2 A Bibliography of The King's Book or Eikon Basilike (London, 1896); ac Eikon Basilike, or The King's Book (London, 1904). 3 Gweler Almack, A Bibliography of the King's Book.