Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DEDDFGRAWN WILLIAM MAURICE Ymhlith y llawysgrifau a roddwyd yn adnau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan Syr H. Ll. Watkin Williams Wynn o Wynnstay yn 1934 y mae dwy gyfrol fawr wedi'u rhwymo mewn croenllo garw-Wynnstay 37, sy'n nf* x 91 a phum modfedd o drwch, a Wynn- stay 38, sy'n 1 2 1" x8j" a phum modfedd o drwch. Y mae iddynt ddiddordeb arbennig am mai ynddynt hwy y ceir yr ymgais gyntaf, hyd y gwyddys, i ddosbarthu cynnwys llawysgrifau cyfraith Hywel. William Maurice, Llansilin, a luniodd y cyfrolau yn y blynyddoedd 1660-3 I y Deddfgrawn neu Corpus Hoelianum" oedd ei enw ef arnynt, ac o lawysgrifau Hengwrf yn bennaf y codwyd eu cynnwys ganddo ef a'i weision. Copi a wnaed yn 1660 (ffolio 43 verso) dros William Maurice p amanuensem tyr- onem (5v) o un o lawysgrifau John Jones o'r Gelli Lyfdy, yn awr Peniarth 224, yw cnew- yllyn y gyfrol gyntaf. Ni bydd a wnelom ni a thudalennau 796 i 926 o Peniarth 224; sgrifennwyd hwy'n ddiweddarach na'r gweddill, oblegid ni cheir cyfeiriad o gwbl atynt yn Byrddan y prif bynkiav ar ddechrau'r llawysgrif, a chynhwysant destun Cymraeg o Status Rhuddlan," a manion cyfreithiol ereill. Ond heblaw'r rhain, y mae'r llaw- ysgrif yn cynnwys dau brif destun o'r cyfreithiau, a nifer o ychwanegiadau. Y mae testun tud. 1-423 yn cyfateb i eiddo'r llawysgrif Cotton Titus D. II yn yr Amgueddfa Brydeinig, a thestun tud. 424-751 i eiddo Peniarth 34; daw^ ychwanegiadau ar dudalennau 774-93 o lawysgrif Cotton Caligula A. III. Ai copio'n syth o'r llawysgrifau hyn a wnaeth John Jones ? Credaf iddo gopio'r ddau destun (1-423 a 424-751) o lawysgrif yn llaw Roger Morris, nad yw'n awr ar gael, a'r ychwanegiadau'n syth o Cotton Cali- gula A. III. Dywed ef ar ddechrau'r llawysgrif iddo ei chodi o lyfrey ynghar Risiart langfford o Drefalvn y Maelor y naill lyfr a ysgrifenasse Roesier Morys ar llall oedd hen lyfr memrwn a ysgrifenasse Jerwerth ap Madawg ap Rahawt ag ar ol llaw Roesier Morys ydd ysgrifennis i y llyfr hwnn ag a ysgrifennis y diffig oedd yn llaw Roesier Morys allan o law Jerwerth ap Madawg ac ar dud. 774, Wrth keryddv y llyfyr hwnn a adysgrif- ennis i o law Rosier Morys wrth ddarn o hen lyfr memrwn yr hwn a esgrifenassei Jeworth ap Madawg o law rrvfeinaidd ag a weleis bot fy llyfr i yn ddiffygiol o swrn o bethev ar a oedd yn y llyfr hwn ag wrth hynny mi a ysgrifennis yma a oedd ddiffygiol or blaen." Gan hynny yr ychwanegiadau (774-793) yn unig a godwyd o'r hen lyfr memrwn a ysgrifennase Jerwerth ap Madawg a daeth y gweddill i gyd o lawysgrif Roger Morris.2 I (Dymunwn gydnabod dyled yr ysgrif hon i Schedule deipiedig y Llyfrgell o law- ysgrifau Wynnstay, ac i gymorth parod Mr. Evan D. Jones. D.J.). 2 Gwelodd Dr. Gwenogvryn Evans (Rep. i. 1047 n) mai Cotton Caligula A. III oedd ffynhonnell yr ychwanegiadau hyn-darnau sy'n nodweddiadol ohoni hi yw'r ychwaneg- iadau a hi yn unig sy'n galw Iorwerth ap Madawg ap Rahawt ar wr a enwir gan amryw o'r llawysgrifau. Ond aeth Dr. Evans i gryn benbleth wrth geisio penderfynu pa lawysgrifau ereill a gopiodd John Jones. Dywed am dud. 1-423 o Peniarth 224 eu bod except in the matter of orthography, a faithful transcript of MS. Titus D. II", ac am Peniarth 34 (Rep .i. 367) a copy may be seen in Peniarth MS. 224, which states that this MS. was written by Roger Morys fel pe credai mai Titus D. II oedd llyfr Iorwerth ap Madog, ac mai Peniarth 34 oedd llyfr Roger Morris. Ni all hynny fod yn gywir; llawysgrif o'r bymthegfed ganrif (nid o'r unfed ar bymtheg fel yr awgryma Dr. Evans) yw Peniarth 34, ac felly ni ddichon mai Roger Morris a'i sgrifennodd. Ymhellach, y mae'n glir oddi wrth gopi'r Deddfgrawn fod y testun cyntaf yn llyfr Roger Morris e.e., ceir nodyn gan William Maurice ar ddiwedd y copi hwnnw o'r testun cyntaf, finis Cod. Rog. Mor." Ond ni chredaf fod yn gywir casglu oddi wrth hynny mai'r testun cyntaf yn unig oedd yn llyfr Roger Morris, gan fod William Maurice yn cyfeirio at y llyfr hwnnw sawl gwaith mewn nodiadau ar ei gopi o'r ail destun. Hefyd cawn ar dud. 770 o Peniarth 224 nodyn gan