Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BIOGRAPHICA ET BIBLIOGRAPHICA BEDYDDIO OWEN LEWIS, ESGOB CASSANO, YN LLANGADWALADR, MON Ar air Humphrey Humphreys, (1648-1712), esgob Bangor a Henffordd, a oedd yn rhannol gyfrifol am argraffiad Bliss o Athenae Oxoniensis (Anthony Wood) y dechreuwyd cysylltu Owen Lewis, esgob Cassano, (1533-1595) a Llangadwaladr (Llanfeirian gynt), M6n. Honnai'r achydd a'r ysgolhaig hwnnw i Owen Lewis gael ei eni yn y plwyf hwnnw, ond nid oedd neb, hyd y gwyddys, wedi dod o hyd i dystiolaeth ysgrifenedig, gyfoes a fyddai'n cadarnhau hyn. Beth bynnag, lluniodd J. E. Griffith achres i Owen Lewis ar y dybiaeth hon, gan ei roi yng ngwehelyth Owen ap Huw Owen, Bodeon. (Pedigrees, t. 58). Mae lie i amau cywirdeb y cyswllt teuluol a gynigir ganddo, eithr y mae gennym bellach eiriau Owen Lewis ei hun yn gwireddu honiad Humphrey Humphreys parthed plwyf ei eni, sef Llangadwaladr. Ddwy flynedd yn 61 cyhoeddwyd yn The Venerabile, XXI, t. 293, gopi o lythyr a anfonodd Owen Lewis at Sirleto, Llyfrgellydd y Fatican, yn 1580. Ynddo dywed Owen Lewis ei fod wedi clywed yn ddiweddar fod gweddillion Sant Cadwaladr, un o frenhinoedd anrhydeddus y Cymry, wedi'u darganfod yn y Fatican, a'i fod ef wedi hen arfer ag anrhydeddu'r sant hwnnw, gan ei fod ef wedi'i fedyddio yn yr eglwys blwyf wych a hynafol a gyflwynwyd i'w ofal dwyfol. Dyma'r rhan berthnasol o'r llythyr: 'S. Cadvalladri ultimi Britannorum regis honorandum corpus in Vaticano repertum esse nuper audio, et multum laetor in Domino. Plane enim mihi persuadeo hoc esse sacrum illud corpus quod ego Romae saepe et diligenter quaesivi, datis etiam ea de re Ill. mae D. V. pluribus scedulis, quibus indicari mihi petebam sepulchrum huius sancti regis, quem Britanni omnes summa veneratione colunt, et ego singulariter venerari soleo quod sacro baptismate ablutus fuerim in antiqua et magnifica ecclesia parochiali huic divo tutelari dedicata, quo magis opto Romae me iam esse, huius sancti patroni mei sacra pignora deosculari et ad eius sepulchrum seu memoriam prostratum mihi et genti meae hodie afflictae misericordiam a Deo Opt. Max. per sanctissimam illius intercessionem imprecari.' Os yn Llangadwaladr y bedyddwyd ef, yno, yn yr un plwyf, felly, y ganed ef. GERAINT BOWEN Caerdydd [SUMMARY The statement in Wood's Athenae that Owen Lewis, Bishop of Cassano, was christened in Llangadwaladr, Anglesey, is corroborated by Lewis himself in a letter addressed to the Librarian of the Vatican in 1580.] DR. DAVID POWEL, RHIWABON Dyddiadau Dr. David Powel, awdur enwog yr Historie of Cambria, oedd 1552(?)-1598 yn 61 y D.N.B. [J. E. Lloyd] a'r Bywgraffiadur [R. T. Jenkins]. Fe welir bod yr awdurdodau'n amheus ynghylch dyddiad ei eni, a seilir y cynnig 1552 mae'n debyg ar y ddwy gred ddarfod iddo fynd i Rydychen yn un ar bymtheg oed a thybio iddo raddio yng Ngholeg Iesu yn 1572/3. Eithr credaf fod yn rhaid gwthio blwyddyn ei eni yn 61