Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

1. Llewelyn E. Jenkins, Craig-cefn-parc, Hanes Bywyd y Gwir Anrhydeddus William Ewart Gladstone (Ystalyfera: 'Argraffwyd gan Ebenezer Rees, Llyfr-werthydd', [1888]), 164 tud. Nid oes dyddiad ar wyneb-ddalen y gyfrol hon, ond dyddir y rhagymadrodd 'Craigcefnparc, Medi, 1888'. Brodor o ardal Merthyr Tudful oedd Llewelyn Edward Jenkins. Adeg cyhoeddi'r llyfr yr oedd yn weinidog gyda'r Annibynwyr ym Mhant-y-crwys (yn agos i flaen Cwm Clydach ym mhlwyf Llangyfelach). Yn 1886 yr oedd wedi priodi merch o Ystalyfera, man argraffu ei lyfr. (Ar Jenkins, gw. T. Stephens, gol., Album Aberhonddu, 1898, tt. 282-3; Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, 2, tt. 94-5, 264, a 5, tt. 140). Yn ei ragymadrodd, dywed Llewelyn Jenkins fel a ganlyn: 'Hyd y gwyddom, nid oes yn meddiant ein cenedl yn yr iaith Gymraeg, lyfr bychan na mawr yn rhoddi hanes, yr anfarwol William Ewart Gladstone Y mae yn ddiau yn golled i Gymru Ryddfrydol ei bod heb gymaint a llawlyfr bychan yn rhoddi braslun o hanes a gweithrediadau Arweinydd Mawr y Rhyddfrydwyr.' Ym- ddangosodd y gyfrol hon yn wreiddiol yn gyfres o erthyglau y Y Gweithiwr Cymreig yn 1885, o rifyn 4 (19 Chwefror) hyd rifyn 36 (1 Hydref), dan y ffugenw 'Leolin', a dywed Llewelyn Jenkins i nifer bwyso arno i'w casglu ynghyd i gyfrol. 2. John Owen Jones ('Ap Ffarmwr'), William Ewart Gladstone (Caernarfon: Swyddfa'r Wasg Genedlaethol Gymreig, 1898), iv + 122 tud. Dyddir rhagymadrodd y llyfr hwn 'Swyddfa'r "Daily Express," Nottingham, Mehefin, 1897'. Mewn nodyn ar gefn dalen y rhagymadrodd, dywedir: 'Fe wel y darllenydd fod gwahaniaeth rhwng amseriadau y berfau yn nhudalenau cyntaf y llyfr a'r rhanau dilynol. Yr eglurhad yw fod y tudalenau hyny wedi eu hargraphu cyn marwolaeth Mr. Gladstone [ym Mai 1898].' Bu 'Ap Ffarmwr' ar staff y papurau a gyhoeddwyd gan y Wasg Genedlaethol Gymreig yng Nghaernarfon yn 1884-5, ac yna eto rhwng 1890 a 1894. Oddi yno aeth i Ferthyr Tudful i olygu'r Merthyr Times. Yna, yn 1897, aeth yn ysgrifennydd erthyglau blaen i'r Nottingham Daily Express, ac yn Nottingham y bu farw ym Mawrth 1899 yn 38 oed. (Ar 'Ap Ffarmwr', gw. yr atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig, 1970, 1. 118. Ceir erthygl ar ei yrfa gynnar gan R. Maldwyn Parry a Cyril Parry yn Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Mon, 1967, 72-108, erthygl arno gan David A. Pretty yn YFaner, 15 Mehefin 1984, tt. 12-13, a llawer o son amdano yng nghyfrol David Pretty, The Rural Revolt that Failed: Farm Workers' Trade Unions in Wales, 1889-1950, 1989 — cyfrol sydd a llun o 'Ap Ffarmwr' yn wyneb-ddarlun iddi.)