Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

WRTH AFONYDD BABILON. I. YM MAGHDAD. TYDI offeiriad Arab Ar do dy demel dlos Yn galw ar dy frodyr Trwy hedd sidanog nos, Pa falm sy gennyt heno I un a ddaeth ymhell ?— Sicir y llais o'r meindwr: Na chwsg! Mae gweddi'n well. Yr Allah holldosturiol Rw'r unig gyfaill gwir Na chwsg Dos ar dy ddeu/in, Cymuna ag ef yn hir A'r ysbryd sy'n cyniwair Trwy eitha'r cread mawr A ddyd ei fendith arnat Fel dyfal wlith y wawr." Wr mwyn o Arab, hwde Fy llaw a'm calon i, Cans nid di-ystyr ynof Neges dy osber gri; 'R wyf innau'n un o genedl Hen ac uchel ryw A wybu yn ei thlodi Ddirgelion dyfnion Duw.