Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

chyfrwys, yn ogystal ag fod y bywyd, yn aml, yn fwy agored i berygl, ac yn hawdd- ach ei frifo, neu ei ddiffodd yn hollol, gan mor egwan ydyw. Cymerwch y gwybedyn bach, y mae yn byw a symud a bod yng- hanol rhyw berygl na'i gilydd o hyd, bob dydd, ar hyd ei oes. Gymaint hawddach cymeryd ei fywyd ef, rhagor bywyd y goeden, y dderwen gref Mor ofalus y mae y fam yn cuddio yr wyau A pha- ham? Onid am fod peryglon lawer yn eu hamgylchynu ? Nid oes diogelwch llawn i fân wyau y gwybed hyd yn oed yn eu nyth ac felly y mae yna ddyfal, llafurus, a chyf- rwys guddio arnynt,-rhai pryfed yn torri tyllau dyfnion yn y pren neu'r goeden yn nyth clyd i'w hwyau; rhai yn eu claddu yn ddwfn yn y pridd; rhai mewn mawr drafferth yn gweu math o hosan neu gwdyn o we sidan yn gryd iddynt; rhai, megis copyn-y-dwr (icater spider) yn ym- suddo i waelod y llyn i wneyd nyth rhy- fedd a diogel i'w wyau yn y llaid; rhai yn gwneyd nyth hirgrwn fel ciyar o'r ddeilen grog ar y pren yn gryd bach del iddynt llawer iawn yn eu cuddio mewn clydwch sych mewn agenau yn y mur, neu yn y clawdd pridd. Rhyfedd, onide, y dra- fferth, y llafur a'r gwaith y mae pob peth yn myned iddo i ddiogelu ei hâd a'i epil. Peryglon, felly, sy'n gorfodi dyn, yn ogys- tal a'r pryfyn bach, i gyflawni llawer o'r gwaith y rhaid ei wneyd; gorfod gweithio, felly, mewn trefn i ddiogelu a chadw bywyd. O'r geni hyd y marw, mawr yw y dra- fferth, yr ymdrech, a'r llafur i gadw ac am- ddiffyn bywyd. Y prif beth, ynte, sydd yn ein gorfodi i lafurio a thrafferthu yw y bywyd; teimla pawb a phopeth, o'r gwybedyn i fyny at yr angel, fod yn rhaid amddiffyn y bywyd; dyna'r reddf neu'r egwyddor ddyfnaf, gryfaf, fwyaf deffro, fwyaf ffyrnig, fwyaf di-ildio, ym mhob creadur byw-y duedd i amddiffyn ei fywyd; pob peth a rydd am ei fywyd. Gwelwch, felly, ar sylfaen mor ddofn, mor gadarn, y mae y Duw mawr wedi gosod yr angenrheidrwydd arnom, 011 i weithio. Os wyt ti a minnau am fyw rywfodd, am fod o gwbl, RHAID GWEITHIO; nis gall BYWYD fod o gwbl ar wahan i WAITH. Yn yr ysgrif hon y mae y gair rhaid wedi cael ei arfer yn fynych, sef fod yn rhaid gweithio. Nid pwnc o ddewis yw gweithio, gan hynny, — gorfod yw. Tybed. gòrfod? "Gorfod," yn wir Tybed nad all y dyn cyfoethog wrthod gwneyd dim; tybed fod unrhyw raid i orfodi y brenin neu'r ymherawdwr? Gadewch ini weled ac ystyried pethau dipyn. Bodd neu an- fodd, lle y mae bywyd y mae gwaith. Yn y lIe cyntaf canfyddwn fod yn rhaid i bawb byw anadlu. Nid pwnc o ddewis yw anadlu-rhaid i chwi gymeryd eich anadl. Nis gellwch ddal eich gwynt" am bum munud, nac am ddau funud, nac am un munud; camp fawr fydd ei ddal am hanner munud, gwnewch y cais, gan edrych ar y cloc Methiant fu hi, onide? Gwir fod rhai o'r soddwyr yna, fydd yn myned i waelod y môr i gasglu cregyn, ysbwng, cwrel, cregyn perl, &c., yn dysgu dal eu gwynt ychydig yn hwy, wedi hir ddisgyblaeth ac ymdrech. Hyd yn oed y pysgodyn yn y dwfr, rhaid iddo yntau anadlu gwir mai ychydig iawn o awyr wna'r tro iddo ef. Yn y dwfr-pob dwfr, ond dwfr wedi ei ferwi-y mae yna awyr yn gymysg; a dyna mae'r pysgodyn yn ei wneyd yn barhaus, sef hidlo yr awyr o'r dwfr, trwy ei dynnu i mewn i'w enau, a'i ollwng allan yn ffrwd trwy ei dagellau; a phan y mae'r ffrwd dwfr ar ei thaith fellv y mac yntau yn sugno, neu yn hidlo, yr awvr a'lan o hono. Ond nid yw anadlu yn rhyw gymaint o waiih, medd rhywun. Tybed? Gadewch ini weled. Deg anadliad, dyweder mewn munud-tua deng mil ar hugain mewn di- wrnod-tua deng miliwn a hanner mewn blwyddyn Gellwch weithio allan sawl anadliad roes y bachgen deuddeg oed, a'r hen wr pedwar ugain. 0 oes! y mae yna waith mawr wedi ei wneyd. Ond y mae'r peiriant-sef yr ysgyfaint-wedi bod yn gweithio mor ddistaw, mor esmwyth, mor ddi-drafferth i ni, fel nad ydym wedi sylwi ar y gwaith, na rhoddi gwerth priodol ar y llafur. Mor berffaith, mor gwbl ber- ffaith, a rhyfeddol yw y peiriant all weithio mor reolaidd ac mor dra distaw am bedwar ugain mlynedd, a hynny hefyd ddydd a nos heb orffwys moment. Ie, heb dwrw, dyna gamp ynddo'i hun. Un o'r pethau anhawddaf i ddyn, i'r peirianydd dynol, yw gwneyd i'w beiriannau weithio yn ddistaw. Y gelfyddyd uchaf yw yr un fedr weithio ddistawaf, gyda lleiaf o dwrw. Er mai dyn yw coron y cread, creadur bach digon tyrfus yw. Tyrfus ddigon hefyd yw y rhan fwy o'i beiriannau. Am ein tref-