Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

FFASIYNAU'R GAEAF 'Sanau a Menig yn DYLFYLLACH Gan MEGAN ELLIS. Y MAE pob siop ffasiynol y dyddiau hyn yn rhoddi sylw mawr i'r mân bethau sy'n gwneud y fath wahaniaeth rhwng gwisgo da a gwisgo gweddol. Rhaid i'r esgidiau a'r hosanau a'r menig, wrth gwrs, gyfateb â Uiw'r ffroc a'r het a'r handbag, a rhaid bod yn ofalus hefyd ynglyn â manion y wisg neu'r gôt ei him. Rhaid gofalu am y gwregys, rhaid i'r bwclau siwtio, a rhaid peidio â dewis mwclis a thlysau rywsut rywsut. Y mae'r pethau yma i gyd i fod i doddi'n dawel, fel petai, i'r effaith cyffredinol. Un o'r ffasiynau newydd tlysaf ydyw gwisgo tuswau bach o flodau ar wisgoedd dawnsio. Os bydd yr ystafell ddawnsio'n fawr, heb berygl iddi fynd yn rhy dwymn, gwisgir blodau iawn-rhyw gwlwm bach ohonynt ar flaen V y gwddw, neu ar un ysgwydd, neu wrth y meingorff. 'SANAU DI-WNIAD. Menig brown sy'n addo bod yn hoff y gaeaf yma, yn hytrach na rhai llwyd. Y mae hosanau hefyd yn mynd yn dywyllach ac yn dywyUach. Ychydig iawn o bine a lliw cnawd sydd i'w gweld ymhlith y lliwiau mwyaf newydd. Lliw tebycach i liw pres ydyw'r lliw poblogaidd. Mi wnaeth un gwneuthurwr ei orau i ddyfod ag hosanau du i'r flasiwn, ond methu. 'Does dim gwnïad yng nghefn yr hosanau newydd, ac mi fydd pob merch yn falch o hyn. Ar un pryd, 'doedd yr hosan ddi-wniad ddim BREUDDWYD DU A GWYN. Cap o felfed-shiffon du yn cael ei wisgo gyda gown satin gwyn. Tynnir plygion y cap yn gnoten ar y gwegil, a bandô melfed ijori gwyn ar draws y talcen. yn thero 11 glyd rownd y troed a'r ffêr, ond y mae'r peiriannau yn awr wedi eu gwella, a'r 'sanau'n ffitio fel rhyw ail groen. Y mae cotiau bach gyda'r nos yn dal mewn bri. Mi welais un gown georgette hyfryd, plaen, o liw rhosyn, wedi ei dorri'n glasurol, a heb unrhyw addurn ond un llinyn o berlau llaethog. Yr oedd y gôt fach oedd gyda'r gown yma wedi ei gwneud o'r un deunydd â'r gown, ond yn drymach, a phatrwm rhosynnau arni wedi ei dorri o rosliw dyfnach. Nid oes olwg chwaith fod gwisgo bere (beret) am y pen yn mynd o'r ffasiwn, ac y mae'n debyg y bydd mynd mawr arno'r gaeaf yma. DYMA dri syniad am gotiau bach i godi calon ambell wisg bob dydd. Y mae gwisg satin du'n edrych yn hynod o dda gyda chôt o georgette tryloyw jel yr un ar y chwith. Gellir rhoddi bywyd newydd i ffroc grêp du trwy wisgo cardigan giêp a phrint coch, du, neu aur arni. Dacw hejyd gôt satin du, gyda choler sgarff, i'w wisgo gyda gown o unrhyw ddeunydd neu liw, bron. TRIMIO A HEN HET. Peidiwch â thaflu heibio'ch hen het ffelt nes eich bod wedi trîo'r ffordd newydd o drimio pethau â ffelt. Torrir yr het yn stripiau o wahanol led, ac yna'u pwytho ag edafedd disglair ar y sylfaen. Y mae hyn yn addurn swynol i glustog, neu liain cul bwrdd, neu hem cyrtens, neu gwilt neu gefn cadair. Mi gewch ddigon o fîelt i addurno clustog yn yr het salaf. Glanhewch yr het a'i thorri'n stripiau hanner modfedd o led. Medrwch wastatáu'r deunydd trwy dynnu ar y corun a'r cantal wrth dorri, ac ond ichwi bwyso amo wedyn â chadach llaith, fe'i gwneir yn hollol fflat. Fe welwch yn y.darlun ffordd dda o ddefn- yddio'r trimin. Gosodir y stripiau ar hyd ymyl y tudded, a'i ddal yn ei Ie gan bwythau- twll-botwm mewn edafedd lliw, fel y gwelwch yn y darlun B. Fe wna hyn ymylwaith effeithiol, ac nid yw'n cymryd fawr o amser. Trefnir stripiau lletach yn groes ar wyneb y tudded, a'u dal yn eu lle â'r bwyth a ddangosir yn y darlun A. Y mae'r bwyth hon yn peri bod cyfres o ffigurau teir-ochr deniadol ar draws y ffelt. Os nad oes gennych ddigon o ffelt unlliw at yr ymylwaith, trîwch gyfuno rhyw ddau liw neu dri. Mi fedrwch guddio'r man cydio dan y gwaith edafedd. IELI TOMATO. At bob peint o sudd tomato, rhaid cael pwys o siwgr mân, un lemon, a thipyn o essence sinsir. Torrwch domatos aeddfed yn slisiau, heb eu plicio. Eu rhoddi mewn sosban wen a'u cadw ar y tân nes bod y sudd wedi dyfod allan, gan droi o hyd rhag iddynt losgi. Tywallt y cwbl i gwdyn jeli, neu ogor myslin, a gadael iddo ddiferu dros y nos. Drannoeth, mesur y sudd i sosban wen, lân, rhoddi'r siwgr am ei ben, rhoddi croen y lemon (wedi ei blicio'n denau) i mewn mewn bag myslin, a sudd y lemon hefyd. Rhoddi'r oyfan ar y tân a throi nes bod y siwgr wedi toddi yna berwi nes bod y jeli wedi sadio, ac ychwanegu tipyn o'r essence sinsir i wneud blas. Tywallt y cwbl i botiau bach, a rhoddi caead arnynt ar ôl iddynt oeri. PASTIOD RWDINS(Maip) Dau wy halen, pupur mint blawd i pwys o rwdins onionyn mawr. Torri'r wyau mewn bowlen, rhoddi halen a phupur amo, a'i gnocio'n dda. Cymysgu tipyn o fint wedi ei falu iddo, a rhoddi'r blawd i mewn yn araf bach nes bod y cyfan yn does. Rowlio hwn nes ei fod yn denau, denau, a thorri damau tua 4#ILL E# modfedd sgwâr ohono. rRIMINS HEN HET. Clustog 0 liain orange wedi ei rhwymo â ffelt brown a'i strapio'n ddu, a'r cyfan wedi ei wnio ag edajedd melyn. Dengys y darluniau bach y pwythau.