Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYFROL f, RHIF 6 EBRILL 1931 APRIL Yn y Rhifyn Hwn Castell y Waun (Chirk) tudalen 10. DIGON O WAITH YNG NGHYMRU (W. Eames). RHYFEDDODAU'R LLYFR DU (Edward Francis). A DDAW CYMRU'N GATHOLIG ETO? (Y Parchn. S. O. Tudor, W. O. Evans, T. Alban Davies, a D. Myrddin Davies). STORI O'R WYDDELEG (Padraic o'Conaire). PAN OEDD CYMRY'N YSGOLFEISTRI EWROB (Timothy Lewis). CHWARAE TEG I'R ORGAN (W. Albert Williams). MODURO AR LWYBRAU'R PERERINION (T. I. Ellis). RHAMANT DRIST GORONWY (Dr. G. Hartwell Jones). MERCHED COLEG YN ACTIO ANTERLIWD (Rhys Puw). Ffasiynau, Golff a Biliards, Hanes Cymry'r Byd, Chwerthin yr Ysgol Sul, Llythyrau, ac Ymysg Pobl Syr Bedwyr. The Popular Monthly of Wales and the Welsh People throughout the World PRIS 6D. Llythyr Agored at y rhai drwg eu nerfau NERFAU dirdynedig ydyw un o gosbedigaethau oes chwim ei chynnydd. Y mae'n bywyd bob dydd yn gofyn mwy o chwimdra o ran corff a meddwl. Y mae'r rhuthr a'r brys-y drafferth a'r gor-weithio-yn arwain at golli bywiogrwydd ac at nerfau drwg. Yr ydych yn mynd yn wannaidd ac yn nerfus. Yr achos ydyw nad oes dim iawn yn cael ei wneud. trwy fwyta bwyd adfywiol, am y gwastraff ar gelloedd y nerfau. Ar adegau cyffredin fe fyddai'r bwyd beunyddiol yn ddigon i ail-adeiladu'r nerfau a'r ymennydd. Ond ar adegau trafferthus, pan fo straen ar y meddwl, y mae'r gwastraff yn anghyffredin ac nid yw'ch bwyd beunyddiol yn rlioddi digon o faeth i adeiladu'r nerfau. Nid oes dim gwell na symlach ffordd o wneud y nerfau'n iach na thrwy yfed Ovaltine blasus. Gwneir y diodfwyd maethlon hwn o fwydydd gorau Natur-brag haidd, llaeth newydd hufennog, ac wyau newydd o'n ffermydd dethol ni'n hunain. Y mae wyau yn arbennig o bwysig, gan fod ynddynt y phosfforus organig sy'n hanfodol at adeiladu ymennydd a nerfau. Prisiau ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon, 1/3, 2/- a 3/9 y tun. P882