Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

THE" KOUND TABIE CYFROL I, RHIF 7 MAI 1931 MAY PRIS 6D. Yn y Rhifyn Hwn Castell Tredegar (tudalen 18). TOILI PARCMELYN (Waldo Williams). GWELL RADIO I GYMRU (J. Hugh Jones). Y MORMONIAID CYMREIG (D. J. Ll. Davies). MAWREDD EIN MABINOGION (Edward Francis). TY GWAITH A GOBAITH (F. Wynn Jones). HANES GODIDOG CRWTH CYMRU (Timothy Lewis). ACTIO DRAMAU HEB GELFI LLWYFAN (Ellen Evans). JOHN WILLIAMS, ARCHESGOB (Y Parch. Ddr. G. Hartwell Jones). YMLAEN I'R GOGLEDD (T. I. Ellis). UN O'R HEN DEIP (Henry D. Edwards). EWROB AR Y GROESFFORDD (J. T. Jones). Ffasiynau, Golff, Ymysg Pobl," Hanes Cymry'r Byd, etc. The Popular Monthly of Wales and the Welsh People throughout the World C YDNABYDDIR mai llaeth y fam ydyw'r bwyd i'r baban. Nid oes ynddo hadau afiechyd, ac y mae ei gyfansoddiad yn gywir. Nid oes unrhyw beth arall cystal ag ef at adeiladu sylfaen sicr iechyd i ddyfod ac at ddiogelu'r un bach rhag afiechydon. Dylai pob baban fwynhau'r fantais fawr o gael y bwyd a ddarperir gan Natur. Ac, i sicrhau hyn, fe geir bod Ovaltine yn amhrisiadwy at feithrin llaeth yn y fam fydd yn gyfoethog ei ansawdd. Ar yr un pryd fe helpa Ovaltine y fam i wella'n fuan ar ôl geni'r baban, a'i galluogi hi i gadw ei nerth yn ystod y cyfnod sugno. Y mae meddygon, nyrsiau a mamau yn tystio bob dydd am werth rhyfeddol "Ovaltine i helpu mamau i roi'r fron i'r baban. Paratoir y diodfwyd blasus hwn o frag haidd, llaeth hufennog. ac wyau o'n ffermydd dethol ni'n hunain. Ym mhob cwpanaid o Ovaltine y mae'r maeth godidog o feysydd heulog a ffermydd yn barod i roddi o'u rhin i helpu pob mam i gael baban iach a hapus wrth y fron. Prisiau ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon, PFH Llythyr Agored at famau plant sugno 1/3, 2/- a 3/9 y tun.