Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PENTREFI CYMRU, IV. Pentref heb un ty tlawd yr olwg GAN BETI LLOYD ROBERTS Athrawes Gymraeg yn Ysgol Dr. John Williams, Dolgcllau. YN ardal ramantus Ardudwy, yng nghesail bryniau godre'r Rhiniog a'r Moelfre, gorwedd pentref bychan tawel a hynod dlws o'r enw Llanbedr. Ymdroella'r afon Artro'n hamddenol (ond adeg llif mawr) drwy ei ganol, wedi crynhoi dyfroedd yr ardal hanesyddol y tu cefn,—nentydd yr Hendre, Cwmbychan a'r Gerddi Bluog-a'u dwyn rhwng ei glannau coudiog i'r dolydd gwyrddion draw tua'r Morfa Mawr a Mochras i Fau Ceredigion. Deutu'r bont. Saif y pentref ar y ffordd fawr rhwng y Bermo a Harlech, Ile y try ffordd lai ohoni am y Gwynfryn. Gellir dywedyd bron mai un heol hir ydyw Llanbedr (gydag un fechan draws), a phont yn ei rannu'n fyny bont a lawr bont." Pont garreg gadarn ydyw hon. Dywedir i'r Brenin Siarl I gerdded dros yr hen bont. Gerllaw iddi y mae sedd bren fel hanner cylch, mewn cornel, ac ar y clawdd y tu cefn iddi y geiriau-" Never cut a fricnd." Y tu isaf i'r bont y mae efail y gôf, tafarn, banc, a dwy siop (y post ydyw un). Dyma'r sgwâr. Yma, ar y bont ac ar Never cut y saif bechgyn y pentref a'r ardal oddi amgylch (sydd yn anffodus, heb feddu ar fotor beics i'w cipio i Harlech neu i'r Bermo) ar nos Sadwrn yn enwedig, nes peri ofn pasio ar aml ferch braidd yn nerfus! Teimla fel pe bai'n barod i'r ddaear ei Uyncu wrth weled yr holl lygaid yn syllu Lleoedd i gael hanes." Y mae yno siopau eraill groser, dau gigydd, haearnwerthwr, seiri a dau weithdy crydd. Lleoedd penigamp am yr hanes diweddaraf ydyw'r olaf. Bydd hwn-a-hwn wedi dvfod i lawr o'r fan-a'r-fan, a chlywir bod hon-a-hon wedi mynd i ffwrdd, neu rywun arall yn mynd i briodi. Eithr nid dyma'r cyfan gan amlaf bydd yr ym- ddiddan o safon uwch. megis. y Llywod- racth, y Cyngor Sir, pris y moch a'r defaid. heb sôn am Gymanfa a Chvfarfod Misol. Tai twt. Gellir dywedyd ar lawer cyfrif mai lle bach aristocrataidd ydyw Llanbedr, ac y mao rhywbeth yn anghyffredin yn ei drigolion, hwythau. Nid oes un tŷ tlawd yr olwg nac adeiladau blêr. Ychydig iawn o dai tebyg hollol, mewn rhês, sydd yno; eithr bron nad oes i bob preswylfod rywbeth nodweddiadol, yn mynegi syniadau a pher- sonoliaeth ei deulu,-gardd flodau fechan i hwn, coed mwy i'r nesaf, a chanllaw yn unig o flaen y llall. Uanbedr, Meirionnydd, ym mro awdur Gweledigaethau'r Bardd Cwsg." Y mae i boh tŷ. bron. o leiaf bwt bach o dir. Tai cerrig llwydion ydynt. gan mwyaf, a'r ychydig diweddar a wnaethpwyd o frics wedi eu gwynnu'n ddeniadol iawn, i gyd- fyned â'r Ilwyd a'r gwyrdd mwynaidd sy'n toi'r fro. Ceir dwfr oer a phoeth mewn aml dy, ac i'r gweddill y mae tap dwfr oer mewn man cyfleus wrth ddrws y cefn. Saif "reservoir" y pentref ychydig i fyny'r bryn y tu ôl iddo. Hei lwc Yr hyn a'n tery wrth gerdded ar hyd y ffyrdd ydyw gweled eu cadw mor dda a glân. Ceir bod y dreiniau. hwythau mewn cyflwr iawn. Daw trol y Local Bôrd o gylch unwaith bob wythnos. Ni cheir llawer o oleuni ar hyd y ffyrdd yn y gaeaf. a lampau a ddefnyddir fel rheol yn y tai. er fod i rai pobl eu trydan eu hunain. Hei lwc y daw trydan Ilyn Maentwrog heibio'n fuan! Nid oes weithfeydd yno, eithr amaeth- yddiaeth sydd fwyaf cyffredin. Y mae'n wir bod chwarel yn agos i'r pentref. ond fe'i caewyd ers amser. Y bobl ddieithr. Dibynna pentrefwyr lawer iawn ar bobl ddieithr. Dont yno'n yr haf i fwynhau môr a mynydd, ac i bysgota yn afon Artro. Y mae'n gyrchfan pobl wedi riteirio, yn Gymry a Saeson. Daw eraill er mwyn eu hiechyd, oherwydd dywedir gan feddygon yn Lloegr fod aroglau'r pinwydd yn dda at y nerfau. Cymer y Saeson ddiddordeb ym mywyd y pentref ynglyn á Sefydliad y Merched a chlybiau pobl ieuainc. Ceir gwnio, gwaith lledr, gwneuthur basgedi ac ambiwlans yn eu tro. Er bod cynifer o Saeson wedi ymgartrefu yno, chwarae teg iddynt, rhoddant enwau Cymraeg ar eu tai, fel y Cymry,—eithriadau prinion iawn ydyw tai yn dwyn enwau Saesneg yu Llan- bedr. Deil y pentref bach yn Gymreig, er, gwaetha'r modd, nad oes yno eto gangen o'r Urdd. Ffyddlon i'w gilydd. Fel pob pentref, gwyr y trigolion hanes ei gilydd yn hynod dda! Deil pobol Llambad yn ffyddlon i'w gilydd, ac yn nhrefi mawr Lloegr ceir bod yr hen blant sydd wedi gado cartref yn ym- weled â'i gilydd. a holi a dilyn hanes yr hen ardal yn ffyddlon. Rhai iawn am eu mwynhau eu hunain ydyw'r pentrefwyr. Os cymanfa, trip Ysgol Sul neu drip rhâd i Lerpwl fydd ar dro, gellwch fentro y bydd yno nifer wedi troi allan am spri iawn. Hoffir y Marine Lake yn Rhyl gan rai mewn oed gystal ag unrhyw blentyn. Canu. Y mae ochr arall i'w bywyd. Gwelir y bechgyn ieuainc yn casglu tua'r Rŵm i ddarllen ar noson o aeaf. yna'n cael gêm o biliards cyn myned adref. Cynhelir cyfarfodydd crefvddol a llenyddol mewn eysylltiad â'r capeli. (Y mae dau gapel,— Methodistiaid a Bedyddwyr), a cheir dad- leuon, dramâu a chyfarfodydd amryw- iaethol hynod o ddifyr yn ystod y gaeaf, gyda sosial adeg y Nadolig. Arferid cynnal eisteddfod fawr bob blwyddyn tua'r Pasg, ond yn ddiweddar cyngerdd sydd fwyaf poblogaidd. Cymerir diddordeb mawr mewn cerddor- iaeth led-led yr ardal, ac anfonir côr cymysg i gyfarfod Castell Harlech bob blwyddyn. Y mae i'r pentref gôr merched o fri sydd wedi cipio gwobrau lawer o fewn milltiroedd o amgylch. Ý mae yn Llanbedr ysgol elfennol gyda thri athraw. A'r plant oddi yno i'r Ysgol [I dudalen 122.