Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HEN YSGOL RHUTHIN Gan Major HAMLET ROBERTS MI fûm yn ddiweddar yn edrych trwy Statut Ysgol Ramadeg Rhuthin, a sefydlwyd yn 1595 gan Dr. Gabriel Good- man, Deon Westminster, er gogoniant Duw a'r Eglwys hon ac er lles y bobl." Y mae'r Statut yn rhoddi darlun diddorol fywyd yr ysgol yr adeg honno. Ond gair neu ddau i ddechrau am yr hen Goodman ei hun. Yn Rhuthin y ganed ef, tua 1529, yn ail fab i Edward Goodman, masnachwr yn y dref, a'i wraig Cecily, merch Edward Thel- wall, Plas y Ward. Helpu Dr. William Morgan. Fe anfonwyd Gabriel i Goleg Crist, Caer- grawnt, ac yr oedd yn Gymrawd yng Ngholeg Iesu yno hyd 1558. Bu am amser hir yn Gaplan i Syr William Cecil, ac yr oedd y ddau'n gyfeillgar iawn. Fe'i penod- wyd yn Ddeon Westminster yn 1561. Bu farw ar y 17 o Fehefin, 1601, a'i gladdu yng nghapel Sant Benedict yn Westminster Abbey. Codwyd cof-golofn iddo yn Eglwys Bedr, Rhuthin. Fe gymerai Goodman ddiddordeb mawr mewn addysg a materion dyngar. Yn 1590 fe sefydlodd Ysbyty Crist yn Rhuthin, gyda llywydd, warden a deuddeg o drigolion tlawd, ac yn 1595 ychwanegodd yr Ysgol Ramadeg. Rhoddodd help, llenyddol ac ariannol, i Dr. William Morgan, i gyfieithu'r Beibl i Gymraeg. Costau a chosbau. Yn Statut yr ysgol fe welir bod y tâl am fynd i'r ysgol yn amrywio o rôt i hanner coron, a'r cyflogau chwarterol o ddeuswllt i rôt. Yr oedd bechgyn a aned ym mhlwy Llanelidan neu fwrdeisdref Ehuthin i fod yn fechgyn rhydd ar ôl talu grôt. Y mae meistr yr ysgol, meddir, i fod dros 25 oed, ac i fod yn M.A. neu Ddoctor Gramadeg." Y mae'r usher (is-athro) hefyd i fod yn ŵr o ddysg," a'r bechgyn hyn i fod yn monitors neu moderators. Fe fydd dau fonitor yn yr ysgol, dau yn yr eglwys, a thri yn y strydoedd a'r caeau." Ysgol Rhuthin heddiw. Cosbau i'w rhoddi gan y Meistr neu'r Usher am naw bob bore Llun. Fy ewyllys i yw bod rhaid bod yn gym- hedrol. Ni chaniateir trawo bechgyn ar eu clustiau. eu trwynau, eu llygaid na'u hwyn- ebau." Chwech y bore. Y mae'r ysgolorion sy'n byw yn y dref i fynd i'r gwasanaeth i'r eglwys bob bore am chwech o'r gloch. Fe â'r Usher yn gynnar wedi'r weddi o'r eglwys i'r ysgol i ddysgu. a'r Meistr o fewn hanner awr ar ei ôl. Ganol dydd rhaid i'r Usher ddod yn ei ôl mewn hanner awr. Rhaid i bob dosbarth ychydig cyn saith o'r gloch adrodd ar dafod leferydd wersi'r diwrnod cynt. Ychydig amser cyn wyth o'r gloch y mae'r Meistr i roddi i'r pedwerydd dosbarth, a'r Usher i'r trydydd dosbarth a'r ail a'r cyntaf, frawddegau Saesneg i'w troi i'r Lladin, a rhaid eu hadrodd bore drannoeth am naw. Am un ar ddeg y mae'r bechgyn i gyd i fynd i gael cinio. Tuag awr ar ôl tri o'r gloch (os myn) gall y Meistr fynd allan o'r ysgol a dychwelyd o fewn yr hanner awr. Ganol dydd ar ddyddiau Iau y mae'r Usher i wrando ar ei ysgolorion yn dadlau am hanner awr ar Reolau Gramadeg." Os siaradant Gymraeg. Rhaid i'r bechgyn hyn siarad Lladin neu Roeg yn yr ysgol, a bechgyn y dosbarth- iadau isaf Saesneg," ac os siaradant Gym- raeg fe'u cyfrifir yn o feius, ac fe roddir penydwers." Ni chaiff unrhyw fachgen ddyfod i'r ysgol os bydd dros 16 oed, nac aros yn yr ysgol pan fyddo dros 19. Y mae'r anghjímwys i adael yr ysgol wedi iddo gael blwyddyn o brawf. Yr unig ddarpariaeth at chwarae ydyw dyddiau Sadwrn ar ôl dau o'r gloch, oni bo'r Meistr yn anghymeradwyo hynny." Esgob Bangor gaiff ddewis y Meistr, a bydd yr holl hawl i ddewis Usher yn nwylo'r Meistr." Shakespeare yn dod adre (o dad. 223) Ac am y llwyfan ei hun, y mae yn rhyfeddod o beirianwaith, gyda'i oleuadau cyfrin, a'i lenni yn dod ac yn diflannu ar gyffyrddiad llaw, a'i hanner o'r neilltu yn barod i'w wthio i'r blaen ar olwynion cyn gynted ag y bo golygfa arall wedi gorffen ei gwaith. Pwy na fyddai'n actiwr yn y chwaraedy hwn y breuddwydiodd pob actiwr am dano? Tu cefn i'r llwyfan y mae ystafelloedd gwisgo â'u cysur yn debycach i balas Swltân nag i fyd y theatr. Fy nghipio innau. Wel, meddyliwch am fachgen o Gymro yng nghanol holl ddifyrrwch y nosweithiau Arabaidd hyn! 43 Fe'm cipiwyd i ymaith ar garped hud>ar amrantiad. Anghofiais na fyddwn yn hoffi Shakespeare yn yr ysgol, fy mod yn casáu Mark Antony a Wolsey, ie, ac Owen Glyn Dwr (" Glendower," gwared ni!) a'u har- eithiau hir-wyntog yr oedd yn rhaid i mi eu dysgu ar gof pan oeddwn yn blentyn. Geiriau, geiriau, yn rhaeadrau! Gwelwn o'm blaen gefn pen Bernard Shaw, a'i wallt yn codi mewn gwrthryfel er yn teneuo erbyn hyn. Gwelwn gefnau pen- aethiaid pendefigaeth a gwreng. Beth deimlent hwy, tybed? Yr oedd Shakespeare yn ei fedd ers tros dri chan mlynedd; anodd credu bod ganddo ddim i'w ddweud wrth yr oes gynhyrfus, arwynebol hon! Glyndwr a'r ysbrydion. Gallaf wysio ysbrydion o'r dyfnderoedd maith," ebe Glyn Dŵr. A minnau hefyd, ac unrhyw ddyn, ond a ddônt ar yr alwad?" ebe Hotspur, yn wawdlyd. Yn nrama Harri'r Pedwerydd geilw Shakespeare holl ysbrydion dynion i'r llwy- fan, ac y maent yn dod-cariad a chasineb, ofn a gwroldeb, y ffraeth a'r ffôl, uchelgais a gostyngeiddrwydd, y gwir a'r gau. Drama dynoliaeth drwy'r canrifoedd. Dyma egluro gweledigaeth y dyn a ysgrifennodd Duw gadwo'r Brenin! Anesmwyth ben, yn wir, a wisg goron. Dyma ddatguddio sut y creir gwrthryfel- wyr, fel y ffynnant yn nhir amheuaeth ac eiddigedd ac anghyfiawnder. I frenin Lloegr, gẃr i'w sarháu-a'i ofni oedd y Glyn Dŵr hwnnw. A dyma ddadleniad hefyd o oferedd bywyd-y brwydro a'r crwydro, i ba bwrpas? Ac eto. Melys dod adre ar ol dysgu. Teimlwn drwy'r cwbl oll fod gan y dyn a'r bardd Shakespeare rywbeth i'w ddweud wrth Gymru. Onid gweld dynoliaeth fel y mae ydoedd ei gryfder, a sylweddoli mai chwilio am waredigaeth yw problem yr holl ddaear ? Mae'n rhaid i Gymru er hadnabod ei hun: a thrwy adnabod, ennill ei henaid. Mae'n rhaid i Gymru adnabod y byd hefyd. Tu draw i ffiniau pentre a thre a gwlad mae aml ysbrydoliaeth. Melys dyfod adre wedi dysgu gwersi goddefgarwch, ac addfwyn- der, a gobaith. Dante, dos i'w ddilyn Shakespeare, tro i'w fyd; Cofia Bantycelyn yr un pryd.