Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CANMLWYDDIANT AP CEINWYCH-o dudalen 10. i'w ginio pan oedd ei howscipar i ffwrdd am ddiwrnod wrth lan y môr. Tystiolaeth y rheithwyr ydoedd iddo gael ei wenwyno trwy gamgymeriad. Y dadorchuddio. Yn ddiymdroi casglodd ei henfro ynghyd i arddel ei athrylith fawr. Ffurfiwyd pwyll- gor cryf i benderfynu'r ffurf o goffa iddo. Un prynhawn gwaith o haf ym Mehefin, daeth gwreng a bonedd o bell ac agos i weled dadorchuddio'r tabled coffa ar fur y Felin Fach, sef ei goleg cyntaf, ys dywedir arni. Tynnwyd y llen gan Lady Ynions, priod yr Úchel-siryf. Profodd yr amgylchiad yn drech na'i gallu pan ddyfynnodd bennill o In Memoriam (gan Herring, y bardd Saesneg) Like a comet he appeared In our midst, ignoble soul, Now he's gone and lost for ever Till he hears the trumpet call. Y dorf yn wylo. Torrodd y dorf i wylo'n hidl i ganlyn y foneddiges-gymaint oedd y tristwch a'r golled ar ei ôl. Eilun ydoedd fel cymeriad a bardd, a phwy a wad na all ond gŵr o gymeriad llachar fod yn fardd gwych a disglair? Anerchwyd y dorf gan brif ysgolheigion Prydain, a gof- alwyd am y gweithrediadau gan yr Arch- dderwydd. Ceir dau gwpled ar y tabled gan gyfaill mynwesol Ap Ceinwych, sef Dewi Hesb, nai i fardd enwog arall.- Wele fardd hardd yn ei hyd A'i goron dan y gweryd; Ei grys heddiw ydyw'r gro, Mae'n ymdaith mwy mewn amdo. Cyn cloi fy sylwadau ar ganmlwyddiant y bardd, goddefer imi gyfeirio at dair agwedd bwysig sy'n deillio o'i fywyd. Yn gyntaf, pwysleisiaf bwysigrwydd ei farddoniaeth. Yn ail, ei ddylanwad ar feirdd modern Cymru. Ac yn olaf ei gyfraniad i drysorfa lenyddol ei wlad. Hysbys ydyw iddo ennill dwy a phedwar ugain o gadeiriau. Enillodd y gadair gen- edlaethol gyntaf ym Mynwy ar y testun Tragwyddoldeb." Yn y feirniadaeth dywed Mr. R. T. Jenkins, Bangor,- Llwyddodd y bardd i ddod â ffiniau ei destun at ei gilydd, ac i ddisgrifio gwir ystyr tragwyddoldeb, fel yn llifo nes gweled,- Moroedd a thiroedd a thai A fwrdrwyd gan ei fawrdrai. Siglodd ymaith yr hen syniad cul a rhagfarnllyd nad oes amser i dragwydd- oldeb. Gwych ydyw agoriad yr awdl,- Ymson a wnaf uwch amser, Digychwyn diderfyn hyder; Dichwerw waith yw dechrau Adrodd ardeb tragwyddoldebau. Ymhellach dywed yr Athro o Fangor,- Hon ydyw'r awdl fwyaf gynhwys- fawr a ddarllenais erioed er mwyn gwybod tarddiad y testun. Dilynodd yr holl fan- ylion yn gywir a ffyddlon, ac â'i ddarfel- ydd treiddiodd hwnt i'w derfyn hefyd. Diffyg gofod a bair imi beidio sylwi ar eraill o'i gampweithiau, megis ei awdl Anwyldeb Annyn," a'r cywydd hirfaith i Fae Sgadenod allan o'r Mabinogi. Mae'r beirdd a ennill gadeiriau'r ŵyl genedlaethol yn ystod y ganrif hon bron i gyd yn ddyledus i Ap Ceinwych. Gwelir ei ddylanwad yn amlwg ar awdlau fel Ffarwel Arthur," Aelwyd y Nico," a'r Haf a Gwyliau Eraill. Hefyd clasuron fel Balm i Samon," a'r Noa fel y'i gwelir yn Aberystwyth. Hysbys ydyw mai'r cwpled hwn gan Ap Ceinwych a gymhellodd y deyrnged orau erioed i dymor prin y blynyddoedd hyn,- Clwyfais o dan y clefyd Marw wnaf, a'r haf o hyd Gymaint o wirionedd sydd ganddo mewn llinell. Prentis Ap Ceinwych ydyw pob un o feirdd a llenorion gorau ein hoes. Sylwn fel y mae canu rialistic wedi sierhau ei Ie ac fel y mae barddoniaeth yr ugeinfed ganrif BRO HARRIS A PHANTYCELYN-o dudalen 17 Pentref tawel yw Talgarth heddiw. Yr unig dwrw a glywid yno wyth mlynedd yn ôl oedd ar ddydd marchnad a ffair. Y pryd hwnnw fe gynhelid y ffeiriau ar y stryd. A dyna olygfa! Edrychwn ar y ffair 0 ffenestr y llofft y trigwn ynddi, a gwelwn gymysgedd o dda a cheffylau, moch a defaid a chŵn. Yn gwau trwy'r rheini yr oedd bugeiliaid, ffermwyr a phorthmyn. Rhwng brefiadau'r defaid a'r da, a chyfarth y cŵn, a sgrech y fferm- wyr a'r porthmyn wrthi'n bargeinio, yr oedd yno fedlam. Ar sgwâr y bont, gyferbyn â'r Llythyrdy, safai plismon tew yn stond, -llygad craff y gyfraith yn gwylio'r cyfan. Ar bob dydd arall y mae'n dawelwch llethol yn y lle. Mae drysau'r tafarnau ar agor, a'r siopau a'r banciau hwythau yn gwahodd, ond cerdda pawb o gwmpas yn hamddenol. Gwelir twr o fechgyn diog ar y bont. Mae tipyn bach o gyffro fore dydd Gwener. Dyma ddydd marchnad, ond yn union ar ôl gwerthu'r caws a'r menyn mae'n dawel eto. Y tri math. Prynhawn Sadwrn eto y mae cyffro, ac er mwyn egluro'r cyffro hwn, dylwn esbonio tipyn ar sefydliadau'r lle. Dywed trigolion Talgarth fod tri math o ddieithriaid yn mynychu'r lle, sef inmates, patients, a studients (gyda'r acen ar yr 'i'). Tri sefydliad Talgarth yw'r gwallgof- dy, sanatorium, a'r coleg. Ar brynhawn Sad- wrn, gwelir studîents yn mynd at eu cyhoeddiadau â bag bychan melyn yn llaw pob un, a het bowler ar eu pennau, a chôt ddu barchus. Os bydd yn deg, caiff y patients fynd am dro i'r pentre hefyd ar brynhawn Sadwrn. Ac yn olaf fe welir twr yn oes euraid ein gwlad. Gramadeg yr Ap ydyw llawlyfr efrydwyr ein colegau, a chyf- rwng nid bychan fu hwn i'r ceiliogod esgor ar y cyfnod dihafal hwn yn ein hanes. Ei weithiau eraill. Prin ydyw'r copîau o Ramadeg Ceinwych heddiw, eithr sibrydir y manteisir ar y can- mlwyddiant i gyhoeddi digon o gopïau i'w rhoddi yn llaw pob Cymro a Chymraes. Cyhoeddiadau pwysig eraill gan Ap Cein- wych ydoedd ei draethodau llenyddol ar yr Iawn a Chyfiawnhad trwy flydd," a Clych y Pulpud," sef cyfrol o'i bregethau sy'n dal i ganu o hyd. Meddir, Pwy a rif dywod Llifon?" Gellir gofyn yr un peth am ddoniau Ap Ceinwych. Mae cyfoeth ei iaith hwnt i ríf y tywod o eiriau i'w fynegi. Ni chododd prydydd yng Nghymru eto i'w ddarostwng, nae i'w osod yn fud yn nhawelwch y llwch. Rhoed taw ar safn y gynnau a floeddiai pan anwyd a phan gladdwyd ef, ond deil Ap Ceinwych i siarad ac i'n dysgu o hyd. o wyr a gwragedd mewn gwisgoedd od yn rhodio o gwmpas yng ngofal rhywun cyf- rifol. Ond yn ddiamau y studìents, chwedl y trigolion, yw'r bobl ramantus, gyda'u llyfrau defosiynol liw dydd, a'u campau di- reidus liw nos. Pobl ddi-rodres. Pobl ddirodres iawn yw'r trigolion. Prof- asant bethau mawrion y byd ysbrydol un- waith, ond diflannodd y dylanwad hwnnw ers llawer dydd. Mae capel ac eglwys yn galw yma o hyd, eithr ar gau y mae hen gapel eglwys Annibynnol Tredustan. Nid wyf yn meddwl, ar y cyfan, bod y bobl yma yn well neu'n waeth na'r cyff- redin yng Nghymru. Maent yn rhadlon ac yn garedig dros ben. Mae'r iaith Gymraeg wedi diflannu bron o'r tir, ac ar Bwyllgor Addysg Brycheiniog y mae'r bai am hyn. Tafodiaith bert. Ceir llawer o'r hen bobl yn medru'r Gym- raeg, a'r trueni yw bod tafodiaith cyn berted yn cael marw. Ond y mae tafodiaith newydd Saesneg yn tyfu yn ei He, ac y mae honno yn ei ffordd ei hun yn brydferth. Ceir llawer o eiriau Cymraeg ar dafod leferydd y ffermwyr, ond ni wyddant am- genach nad Saesneg ydynt. Profais hynny lawer gwaith fy hunan. Ni ddywedir cart, eithr ciart, a'r syndod mwyaf a gefais un dydd oedd clywed clamp o fenyw yn dweud, They be sayin that the preacher be stayin with we next Sunday." Mae'n hyfrydwch gennyf ddweud ar ddiwedd hyn o ysgrif, bod yr atgof am y pentref, ei bobl, a'i dai, a'r wlad oddi amgylch yn felys dros ben; ac i mi y mae Talgarth yn bentref ar ei ben ei hun yng Nghymru.