Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYFROL III, RHIF 4 Yn y Rhifyn Hwn: ATHEN A CHYMRU (Herbert Morgan) POBL RYFELGAR YDYW'R CYMRY (A. 0. H. Jarman) Y PULPUD, Y COLEG, A'R LLEILL (Brinley Richards) DAFYDD HUWS A'R BEIC DWBL BARDD HEB EI DEBYG (R. Williams Parry) STORI: HELYNT Y GLOCH (Mrs. M. S. Roberts) Y PAPUR NEWYDD A'I RYM (J. Williams Hughes) FY NGHARIAD (Sarnicol) Y PIBYDD 0 LYDAW (H. Hughes Roberts) DRAMA YR ALLTUD (Meredydd J. Roberts) a'r holl atyniadau arferol The Popular Monthly of Wales and the Welsh People throughout the World CHWEFROR 1933 FEBRUARY PRIS 6D. 'DOES un bwyd a all gystadlu â maeth naturiol babanod. Felly fe ddylai pob mam wneud popeth a all i gael cyflawnder o laeth mam. Y mae meddygon, mamaethod a mamau'n tystio bob dydd am werth rhyfeddol Ovaltine i feithrin llaethiad. Y mae'r diodfwyd dantaith hwn yn ateb tri diben y mae'n gynhorthwy i wneud maeth addas i'r baban y mae'n cynnal nerth y fam wrth fagu, ac mae'n sicrhau y daw iechyd cyffredin yn ôl yn gyflym adeg diddyfnu. Fe wneir Ovaltine â'r rhiniau uchaf mewn brag haidd llaeth ac wyau. 'Does ynddo ddim starts anudd ei dreulio, na defnyddiau rhad. Yn bendifaddau 'dyw efelychiadau, sy'n cynnwys cyfartaledd mawr o siwgr a choco er mwyn lleihau'r gost, ddim 'run fath ag Ovaltine." 'OVALTINE' GALLUOGA FAMAU I RODDI BRON I'W BABANOD' Prisiau ym Mhrydain Fawr a Gosledd Iwerddon 1/1, 1/10, a 3/3 y tun. P703