Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Mr. A. O. H. JARMAN yn dal mai POBL RYFELGAR ydywr Owain Glyn Dwr. FE gyhoeddwyd yn Y Ford GRON dro'n ôl erthygl gan Mr. Hywel D. Roberts ar Henry Richard i'r oes hon." lle dywedwyd bod cymdeithas Henry Richard wedi ei sefydlu yng Ngholeg y Brifysgol. Aberystwyth. Y mae'r erthygl hon yu enghraifft o duedd neilltuol sydd yng Nghvmru ar hyn o bryd,- sef dweud mai Cymry o bob cenedl sy fwyaf hoff o heddwch, ac mai traddodiadau hedd- ychlon a fu gan Gymru ers pedait canrif Y mae hyn yn syniad llywodraethol gan yr Urdd, ac fe gred Mr. Ifan ab Owen Edwards mai bandit oedd Owain Glyn Dŵr, ac mai anffawd oedd ei ddewis yn arwr cenedlaethol fel y gwnaed. Credaf fod y dull hwn o edrych ar Gymru yn wyrdroad ar hanes, neu, beth bynnag, yn gam-ddehongliad ar hanes, ac yn syniad afiach a pheryglus iawn i'w ddysgu i Gymry ifanc. Bu rhyfel yn rhan o fywyd Cymru am fil 0 flynyddoedd. Y mae yn yr iaith Gymraeg eirfa lawn a chwbl gymwys i diin yr hen ddulliau o ymladd. Yn yr hen lenyddiaeth, megis Llyfr Aneirin, y Llyfr Du a'r Gogynfeirdd, y mae pethau sydd ymysg y darnau gwychaf o farddoniaeth ryfel, a'r holl deimladau cymysg sydd ynglýn â hynny. Mewn rhyfel nau anghytgord rhwng dynion ceir y profiadau dyfnaf a eill ddigwydd i ddyn, ac fe redir yn ysgubol-gyflym drwy deimladau dyn-o gariad at gasineb, oddi wrth falchder at lwfrdra a chywilydd, drwy bangfeydd hiraeth ac anfadd- euant. Yn y neb a ddêl trwy'r pethau hyn fe feithrinir cymeriad fel dur. Yr ymerodraeth. Yn y cyfnod pan gollodd Cymru ei hannibyniaeth fe gychwynnodd Lloegr ar ei gyrfa ymerodrol. Gwnaeth hynny trwy ryfeloedd o ormes nad oes gyfiawnhâd posibl iddynt. Dywedin np bu gan Gymru ond rhan fechan yn y ceisiadau hynny i feddiannu'r byd. Os gwir hynny, gellir yn dra rhwydd ei esbonio. Nid un- rhyw lwfrdra na heddychaeth gynhenid yn y Cymro a'i hachosodd, eithr yn syml nad oedd gan Gymru ddiddordeb mewn ffurfio ymerodraeth. Yr oedd ei holl reddfau yn Ewrop- eaidd. Ymbellhaodd Lloegr oddi wrth y cyfandir y perthynai'n naturiol iddo o ran diwylliant a daear, a ffurfiodd dan ei hawdurdod raniad cwbl annaturiol ar y byd, a elwir yn Ym- erodraeth na fachlud yr haul arni." Tyn- nwyd Cymru gymaint ag a ellid ar ôl yr un cerbyd, eithr nid i'w boddhâd. Eto, yn ddigon llwyddiannus i Gymro gael y fraint yn 1916 o achub yr ymerodraeth honno yn ei hawr dywyllaf. Yr effaith. Beth oedd effaith hyn ar Gymru ? Nid oedd ganddi na byddin na llynges. Yr oedd y Brifddinas a'r canolfan ariannol a gyn- haliai'r ymerodraeth ymhell tu hwnt i'w ffiniau. Gan hynny, hanes Cymru ers 1500 yw hanes y pethau a ddigwyddodd y tu mewn i'w ffiniau-llenyddiaeth, newid y drefn grefyddol a chymdeithasol, diwygiadau ym- neilltuol, addysg, diwydiant. Collwyd golwg ar y Cymry a ymladdodd dros yr ymerodraeth gan mai Prydeinwyr oeddynt yn swyddogol. CYMRY Eithr ni chollwyd y reddf ymladd уn y Cymro. Ni ellir dileu'r reddf honno yn unrhyw ddyn. Nis trowyd yn llwyddiannus i unrhyw gyfeiriadau eraill, ychwaith. Yn y cyfnod diwethaf, y mae ymraniad yn nodwedd mor amlwg ym mywyd cym- deithasol y Cymro ag ydoedd ymraniadau milwrol yn yr oesoedd canol,-a hynny, cofier, yn yr oes wedi'r Dadeni, pan dueddai'r cenhedloedd Ewropeaidd eraill i ymuno fel cenhedloedd. Ymrannu. Rhannwyd Cymru gan enwadau crefyddol, gan Gymry Cymreig a rhai Seisnig. gan y syniad fod gwahaniaeth mawr rhwng gogledd a de. Diffyg Cymru yn y pedair camif a aeth heibio a fu diffyg unoliaeth, sef syniad am genedl i fod yn ffyddlon iddo. Yr amlygiad mwyaf pendant o'r ffeithiau annaturiol hyn yw'r duedd bresennol i ddweud mai neges Cymru i'r byd yw heddwch, mai Henry Richard a gynrych- iola'r ysbryd Cymreig, a'r holl frolio sydd ar yr adrannau Cymreig o Gynghrair y Cenhedloedd, nad ydynt mewn gwirionedd yn mynegi unrhyw ddull Cymreig cenedlaethol o feddwl. Y Pagan a'r Cristion. Bu dau ddull mawr o synio yn Ewrop am sut y dylid ymddwyn vn gymdeithasol. Un yw'r dull Cristnogol delfrj-dol, sef troi'r rudd arall os trewir un gan elyn Dibynna hvn ar wrthodiad llwyr o'r byd, peth nad yw'n bosibl i fwyafrif plant dynion. Y llall yw'r peth a elwir yn sifahi." Yn ôl y dull hwn o ymddwyn, urddas dyn yw'r elfen bwysicaf yn ei gymeriad, ac ni dderbyn sarhâd heb daro'n ôl. Rhinwedd balchder. Mynegwyd y ddau symad hyn yn 11 wn yn llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol. Yn y Llyfrau Gwyn a Choch ceir y rhamantau sifalrïaidd Ffrengig lle dyrchefir syberwyd," sef balchder, a'i wneud yn bennaf rhinwedd. Eithr yn y llyfr Cristnogol Cymraeg- Llyfr yr Ancr "—y mae syberwyd yn bechod. Balchder personol a bydol yw gwraidd pob pechod yn ôl Cristnogaeth. Balchder, o fewn terfynau neilltuol, yw hanfod haelioni cymeriad yn ôl sifalri. Hyn yw gwreiddyn y gwahaniaeth rhwng Cristnogaeth a phaganiaeth. Dyry'r pagan bwys ar bethau'r byd hwn a honni hynny'n onest, ni ddyry'r Cristion bwys arnynt; ar y gorau, nid ydynt ond moddion i gyrraedd amcan iddo ef. [I dudalen 96.