Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y mae ei fydriad o'r unfed salm ar ddeg a deugain, er enghraifft, yn gampwaith Erglyw, O Dduw, fy llefain i, Ac ar fy ngweddi gwrando Rhof lef o eitha'r ddaear gron, A'm calon yn llesmeirio. Dwg fi i dollgraig uwch na mi, Ac iddi bydd i'm derbyn Cans craig o obaith, twr di-fost Im fuost rhag y gelyn. O fewn dy babell y bydd byth Fy nhrigfan dilyth, dedwydd A'm holl ymddiried a fyn fod Yng nghysgod dy adenydd. Ei glust dda. Y mae salmau Prys fel mwynglawdd i'r neb a fynno gael cywreindeb geiriau yn null gorau'r cywyddwyr, ond gydag ys- twythder ychydig mwy nag a geir yn eu gwaith hwy. Nid y Salmau Cân yw unig waith Prys yn y mesurau rhyddion ceir ganddo hefyd ddarn hir o'r enw Cytgan y Cerddorion yng Nglyn Helicon," a ddengys lawer o allu mydryddol, ac sydd o ddiddordeb arbennig i hanes y mesurau Cymreig. Ef yw'r darn cyntaf a ganwyd yn ddi-bennül efallai mai dylanwad barddoniaeth dramor yw, ond dengys fod gan Brys glust dda a gallu i sgrifennu darn gweddol hir mewn dull hollol newydd yn Gjmraeg Llwyn nid pell nodau heb pallu, Llwyn Ebrillaidd Uawn briallu A'r blodau a'r drwynau'r drain A'r fedwen fain a'r glasddail Gloyw yw'r ffynnon, glân yw'r fan Sy'n codi dan y gwiail. Y croywddwr, gloywddwr, Lle teg yw ein llwyddiant, Lle i gysgu, Ue i ddysgu Holl felys gwir foliant. Yn y darn hwn gan Rhys, gwelir cyfuniad o reolan barddoniaeth rydd gyda phrif atyniad yr hen ganu Cymraeg, sef cyng- hanedd, a'r ddau beth hyn yw prif nod ail gyfnod canu rhydd Cymreig. Bu Edmwnd Prys faiw yn 1623 a ganed Huw Morys yn 1622, felly er bod gwahan- iaeth mawr a gagendor rhwng y cyfnod cyntaf a'r ail yn hanes canu rhydd, eto mewn amser y mae'r ddau yn agos iawn i'w gilydd. Edward Morys a Huw Morys yw dwy golofn yr ail gyfnod a barhâ o 1640 hyd 1700, pan ddaw'r trydydd cyfnod, sef y canu diweddar a ddechreuwyd gan yr emyn- wyr ac yn enwedig gan Williams Pantycelyn. Cywreinder Huw Morys. Erbyn amser Edward a Huw Morys, yr oedd yr hen draddodiad barddonol wedi darfod o'r bron-yr oedd o hyd rai lleisiau tebyg i rai'r oes o'r blaen ond diflanasai'r grym a'r gallu. Lie ceid gynt gywydd, gallesid yn awr ddisgwyl englyn. Ganed Huw Morys yn amaethdy Pont- y-meibion, Dyffryn Ceiriog, yn 1622, ac yno y bu fyw ar hyd ei oes faith hyd 1709. Claddwyd ef wrth fur Eglwys Llansilin, cartref Morus Kyffin, un o ysgrifenwyr cynharaf rhyddiaith oes Elisabeth yng Nghymru. Brenhinwr selog. Yr oedd Huw Morys yn eglwyswr a brenhinwr selog, ac ni allai na deall na charu'r Pengryniaid a'r Piwritaniaid. Fel y gwyddys yr oedd dilynwyr y Stiwartiaid yn gryf iawn yng ngogledd Cymru hyd i 1745, ac yn enwedig yn ardal Wrecsam a'r cyffiniau, felly nid anodd deall pam yr oedd Huw Morys yntau o'r un duedd. Y mae ganddo felly nifer o gerddi politic- aidd, ond nid ydynt hwy mor bwysig na diddorol â:i gerddi bob dydd, ei ganeuon serch, ei farwnadau a'i gerddi gofyn. Fe welir bod sylfaen barddoniaeth Huw Morys yn mynd yn ôl i oes y cywyddwyr-yr un modd y mae dosbarth ei ganiadau â Thudur Aled neu Lewis Glyn Cothi dyweder. AWDUR "HELYNT Y GLOCH" Mrs. M. S. Roberts, Dinbych, awdur y slori "Helynt'y Gloch" yn Y FORD GRON y mis diwethaf. Ond er tebyced eu dosbarth, arall yw'r wisg. Ni cheir arafwch y cywydd a'r awdl gan Huw Morys. O rywle daeth dylanwad canu i'w waith, ac fe welir ar ddechrau pob cerdd enw'r dôn oedd i'w chanu gyda hi. "Fy nghariad i." Yn naturiol felly y mae ystwythder a symud prysur, di-reol miwsig ym mardd- oniaeth y bardd o Ddyffryn Ceiriog llinellau byr yn gymysg â llinellau hir, llawer o odlau a chyrchodlau yng nghorff y llinellau yn ogystal ag ar eu diwedd. Pan gân i'w gariad, cân ar fesur tôn Pêr Oslef ac y mae nwyfiant yn ei linellau heini Fy nghariad i, Teg wyt ti, Gwawr ragori, lili lawen Bêr winwydden fwynedd feinwen, Y gangen lawen lun. Er teced ydwyt ti, Y galon fach A gadwa'n iach Pe baet glanach gwynnach gwenfron Nid â trymion caeth ochneidiau Dan fy nwyfron i. Ysgafnder. Y mae'r un medrusrwydd ar fydr i'w weld yn holl waith y bardd a'r un ysgafnder geiriau, yn enwedig yn ei ganeuon serch Liw alarch ar y llyn, Lliw'r eira gwynna gwyn, Lliw'r lili, heini hyn, Yn siwr, 'rwy'n syn o'th serch. A'th frig a'th fron fel meillion Mai, Neu wenith gwyn i un a'th gai, Câr a'th garo, er rhuo rhaid, Di-feth, di-fai dy fyd. Gwendid mwyaf canu serch Huw Morys yw'r ffrwd eiriau sydd ganddo. Y mae'r nifer o ansoddeiriau ac o gymariaethau byr, yn blino os darllenir gormod ohonynt-nid yw'n cymryd digon o ofal i ddirwyno cym- hariaeth hir a chain, ac yn hyn o beth fe gollodd aUu beirdd y Cywydd, oedd yn fedrus ar roddi llun cyfansawdd gorffenedig. Un o'r goreuon. Ond na feddylied neb mai barddoniaeth lem delynegol yn unig a ysgrifennodd Huw Morys. Yr oedd weithiau'n sgrifennu dan deimlad dwys iawn, megis yn amryw o'i farwnadau a'i ddychanau, a phan wnai hyn, rhoddai ei allu mydryddol lymder a phryd- ferthwch mawr i'w waith. Er enghraifft, ym Marwnad Barbra Miltwn, Ue ceir dadl rhwng y byw a'r marw, ceir mawredd teimlad a mynegiant a'i gwna yn un o farwnadau gorau'r ganrif Addewid ddyfal, ddianwadal, Ar gadw a chynnal gyda chwi, Drwy bur gariad diwahaniad, Ar fyr siarad a rois i. Hyd oni ddele Ange â'i gledde I dorri amode clyme clau, A hwnnw o'n hanfodd a wahanodd, Er nas dygodd, einioes dau. 'Rwyf fy hunan mewn ty bychan Heb le diddan, heb liw dydd, Na lle i symudo troed na dwylo- Ond chwith fy rhwymo a chwithe'n rhydd ? neu ym Marwnad y Ferch o'r Plas Newydd, ceir gofal arbennig am y mesur lle mae'r llinellau hirion ar ddiwedd bob pennill yn arafu a dwysáu'r meddwl a'r teimlad Ces 'i chwmni hardd orchafieth Wawr wen annwyl er yn eneth Pan aeth y camrig gwyn i'r ddaear. Fel y melfed, cofus weled, cefes alar. Gwell i mi oedd golli mywyd Na llwyr golli i chwmpeini, och o'm bywyd. Marw yw'r marw, er galw ac wylo Blode'r dyffryn nid yw'n deffro. Ni wybûm i erioed mo'm geni Na pheth oedd hireth, du elyniaeth, hyd yleni Diodde a archodd Duw yn dirion Deuda finne bob dydd gole, Diodde galon." Bugeilio'r Gwenith Gwyn. Y mae'r ysbryd sydd y tu ôl i'r llinellau hyn yn llawn mor glasurol â hwnnw a geir er enghraifft yn yr hen gywyddau neu yn ddiweddarach yn Englyn Marwnad Plentyn gan Edward Richard. Ni all unrhyw hanes am farddoniaeth rydd y ganrif fforddio anghofìo'r lliaws caneuon a gyfansoddwyd yr adeg hon megis Bugeilio'r Gwenith Gwyn," a llu o gerddi eraill sydd yn ffodus wedi eu cadw hyd heddiw ar laiar gwlad. Hwy yw asgwrn cefn llên y cyfnod: caneuon llawn swyn, llawn bywyd, yn anil yn well na gwaith beirdd adnabyddus ac yn dangos bod y traddodiad Cymreig eto'n fyw er gwaethaf holl helyntion politicaidd a chrefyddol yr adeg honno. Ynddynt hwy ac yng ngwaith beirdd fel Huw Morys y cafodd barddoniaeth ddi- weddar ei dechreuad hwy yw'r gwreiddyji o'r hwn y tyfodd blodau canu'r canrifoedd a ddUynodd ac am hynny, ac am eu swyn cynhenid, y mae iddynt eu Ue yn hane" ejn llên.