Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

yn ein plith, oherwydd ei gerddi ef-sef Daw haul ar ôl y glaw a Taw piau hi, bois." Cyngor i "glwb yr heol." Mynnai ddysgu gwersi bob amser, a'r rheini'n rhai nid anfuddiol. Gwasgodd ar rieni am ymdrechu i wneuthur eu plant yn ddarllenwyr, a dyma'i gyngor i glwb yr heol Rhowch fwy o waith i'ch pennau, A llai o waith i'ch traed. Ei ffordd effeithiol o ddysgu dynion oedd dychanu, a hynny'n ysgafn a ffraeth yn amlach nag yn drwm a marwol Os bydd arnoch eisiau cael Pob hanesion hynod, Ceisiwch swp o wragedd haeì I gael te ryw ddiwrnod. Daw'r cybydd o dan y fflangell yn aml. A roddwyd hi iddo'n waeth na hyn Mae'i enaid yn ei boced, A'i galon yn ei bwrs. Methu goddef rhodres. Ni allai Mynyddog oddef unrhyw rodres. Diddorol yw'r ergydion a rydd i arferion llenorion y cyfnod. Geilw ragymadroddi yn 101 di-les," a hawdd gweld mai chwerthin y mae, pan sonia mewn nodiad i gân hir, ei fod yn ei chyhoeddi ar daer anogaeth lliaws o gyfeillion (fci y bydd yr awduron enwog yma'n dweud) Cymerwch chwi'r caneuon, cymeraf innau'r pres yw ei ffordd o gyflwyno'i gyfrol gyntaf. Y beirdd sydd o dani pan gân yn ei rieingerdd i'r Ferch o Gefn Ydfa Mae hanes carwriaeth ceubrennau 'mhob llun Yn hen. ac yn ddiflas i'w ddarllen. Y mae ganddo nodyn ar y dechrau Gallwn sylwi yn y fan hon fod y drychfeddwl o guddio llythyrau mewn Y LLYSFAM—o dudalen 251. Wedi ei hangau hi, pan dynnodd i mewn iddo'i hun, meddyliais amdano fel un ar goll mewn niwl,­mwg yn codi o uffern ei galon ef ei hun. Y mae'r ddrama olaf a sgrifennodd cjm ei farw yn gyforiog,­yn dorrog,-o gyffesion am erchylltra ei gorff lluddedig a'i galon glwyfus. Nis cyhoeddwyd eto. PAN oedd ar ei wely ac yn gwybod agosâu'r diwedd, treuliais brynhawn poenus gydag ef, yn gwrando ar waelodion ei gyfrinach. Gofynnais ganddo dewi, ond mynnai siarad. Edrych yma, Idwal," ebr ef, ma'n rhaid i-fi weud wrth rywun. 'Dwy-i ddim wedi gneud hyd 'n hyn. Ma-fe'n gwasgu arna-i. 'Wyt-ti'n bodlon gwrando ? Ni allwn lai, o'i glywed. Wrth gwrs, Glyn bach, os wyt-ti'n mo'yn i-fi." Odw. Ma-fe'n gwasgu arna-i." Ond ma pawb yn gwbod ma anffawd odd-e. Ma pawb yn cydymdeimlo â thi. Darllen y llythyron gest-ti ar y pryd. Os dim ise iti fecso o gwbl." 'Os dim ots gen-i beth ma pobol yn feddwl," oedd ei ateb, ma dedfryd y cwest yn ddigon clir. Anffawd oedd e'. Nid hynny sy'n fy mlino i." ceubrennau wedi dyfod yn fath o public property gan feirdd y rhiain- gerddi, ac y mae hynny efallai'n ddigon o esgus dros ei ddefnyddio yn y gân hon. Druan o Fynyddog yn ceisio cwympo'r beirdd ac yn ei gwympo'i hun ar y pryd, wrth ganu fel y gwnaeth uchod. Ond ef a gafodd y wobr yn eisteddfod Castell Nedd Efelychu Burns. Condemnia hel straeon ac anghofio rhoi chwarae teg mewn llys a llan. Djrma'i ddarlun diweddar iawn o orfoledd Satan am fod chwarae teg wedi ei lorio A Lucifer roddodd orchymyn ar frys Am illuminatio Gehenna. Yr oedd yn efelychu cryn dipyn. Y mae ei gerdd Beth sydd Ddewr ? wedi ei llunio ar batrwm Beth sy'n Hardd ? Efelychodd Burns ac eraill, ond nid erioed yn well na chân Burns yn Paham mae'r blodau, fach a mawr, Yn chwerthin ar y lili wen ? Dengys rhai o'i syniadau glyfrwch rhyfedd a rhyw wreiddioldeb trawiadol, er 1a wna hynny hwynt yn farddoniaeth, wrth gwrs. Cymhara'r ffynnon i fam a'r gornant i ferch, a'r gyntaf yn dweud wrth yr ail Fy nghofion serchog at y môr, dy dad. Tristwch weithiau. Er ei holl ffraethineb a'i hoywder, ceir tristwch yn ei waith ar dro Paid mynd i gwrdd gofidiau'n awr. Mae hynny'n duedd ffôl Os daw rhyw ofid, odid fawr Na ddaw heb fynd i'w nôl. Cynghora'r ieuanc i beidio â dychmygu am bethau gwych i ddyfod yn ei ddyfodol, Wel, os wyt-ti'n gwybod ma anffawd odd-e, pwy ise iti flino sy ? Tro i orwedd yn dawel 'nawr, a phaid â meddwl dim amdano." Ie ond Idwal nid dyna'r gwir i gyd Beth wyt-ti'n feddwl A chefais ber- fedd ei ofnau ganddo. Cyffesodd drachefn mor gas oedd ei lys- fam ganddo. Ni soniwyd am hynny yn y cwest. Gwyddai pawb ddaed y bu ef i'w dad wedi i hwnnw, fel cynifer eraill, golli ei waith. Nid ar olwg y gwelid y gwirionedd aflan ychwaith, gan fod Glyn yn ŵr bonheddig ac yn gallu ymddwyn yn weddaidd at y fenyw fach pan ddigwyddai hithau a'i dad alw. Nid dicter dialgar, taeogaidd, yn bodloni ar fân anghysuron, a'i daliai; yn nwfn ei fod yr ydoedd, yn llunio osgo'i feddwl. Digwyddodd hi a'i dad alw y diwrnod enbyd hwnnw, wedi croesi o'r naill gwm i'r llall mewn bws cawsant gymaint croeso nes ei gadael yn rhy hwyr, ac i'r bws olaf ddychwelyd hebddynt. Nid oedd wahan- iaeth mawr am hynny, gan fod beic modur gyda Glyn ac un arall gyda Bob, priod ei chwaer. Soniwyd yn gynnar y prynhawn [I dudalen 264. rhag mai croes i hynny y deuant. Ac â i ormodedd wrth ddisgrifio galar yn aml, fel am eneth amddifad yma Môr o dristwch ydyw'r ddaear, Mwy i'r eneth gu. Ond yr oedd ei ysbryd yn rhy hoyw i aros yn hir gyda phethau trist a hiraethus. Buan y daw ysgafnder yn ôl iddo. Ei gerddi poblogaidd. Ceir esboniad rhannol 0 leiaf ar ddawn Mynyddog-ei ffraethineb a'i symlrwydd di,rodres-yn y ffaith iddo gadw'n fyw ysbryd y plentyn a oedd ynddo. Ceir adlais mynych yn ei gerddi o'r dymuniad am gadw hoen ieuenctid. A'n ôl dros helyntion ei blentyndod gyda blas, a hoffa'r pethau syml. Bu am gyfnod yn enwog trwy Gymru ac yr oedd galw mawr amdano, fel datgein- iad, beirniad ac arweinydd, am bymtheng mlynedd olaf ei fywyd. Erys rhai o'i gerddi ar arfer o hyd, yn arbennig mewn cyngherddau syml yn rhannau gwledig ein gwlad, megis Cartref, Dacw'r Bwthyn Gwyn y'm Ganwyd," Gwnewch Bopeth yn Gymraeg," Ond," a geiriau'r anthem Haul ar ôl y Glaw." Bu farw yng nghanol ei oes ar Orffennaf 14, 1877, a chladdwyd ef ger Hen Gapel enwog Llanbrynmair. PRIFYSGOL CYMRU YSGOL FEDDYGOL CYMRU DECHRAU'R TYMOR NESAF HYDREF 3, 1933. Cynhelir Cyrsiau Hyfforddi ar gyfer graddau Prifysgol Cymru mewn Meddygiaeth a Llaw- feddygiaeth (M.B., B.CH.), ac y maent yn agored i fechgyn a merched. Cynnwys y cyrsiau hyn yn ogystal hyfforddiant priodol ar gyfer graddau a diplomâu meddygol eraill. Cynigir Ysgoloriaethau i fyfyrwyr newydd. Am fanylion ymofynner am y Prospectus arbennig. Rhoddir Hyfforddiant ymarferol yn Ysbyty Brenhinol Dinas Caerdydd Ysbyty Llety'r Ddinas, Caerdydd Ysbyty Anhwylderau Meddwl, yr Eglwys Newydd (Whitchurch); Sanatorium Dinas Caerdydd Ysbytai Dar- fodedigaeth Cefn Mabli a Glan Elai, ac yn Ysbyty Tywysog Cymru (Triniaeth Traed), Caerdydd. Y mae cyfleusterau digonol i'w cael ar gyfer pob cangen o astudiaeth. Cynhelir hefyd Gyrsiau Hyfforddi cyflawn i rai gradd- edig gogyfer â'r Diploma yn Iechyd y Cyhoedd (D.P.H.), ac ar gyfer y Ddiploma yn y Clefydau Darfodefligol (T.D.D.). Y mae'r Ysgol yn gywair a chyflawn i wneuthur gwaith ymchwil ym mhob adran o Feddygiaeth a Llawfeddygiaeth. Cynigir Ysgoloriaethau i rai wedi graddio, yn amrywio yn eu gwerth, o £ 150 i fyny hyd £ 250 y flwyddyn. Am fanylion pellach, ymofynner â'r Ysgrif- ennydd, Ysgol Feddygol Cymru, Y Rhodfa (The Parade), Caerdydd.