Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YMAE hen ddywediad fod milltir yn y wlad yn hwy na milltir yn y dref Yr oedd yn haws i mi gredu hynny, un diwrnod o haf, pan gerddais o un o bentrefi gweithfaol Sir Gaerfyrddin. am Fryn Grongar a Phlas Aberglasni, yn Nyffryn Tywi. Gofynnais droeon ar y ffordd faint o ffordd oedd gennyf суп cyrraedd pen fy nhaith, a'r ateb o hyd oedd—" tua milltir Modd bynnag, o'r diwedd fe ddaeth y filltir hir i ben, ac mi eisteddais ar garped o rug ar gopa Bryn Grongar. Dyma'r olygfa dlysaf a gefais erioed o Ddyffryn Tywi a'r ardaloedd oddi amgylch. Haws fyddai galw'r dyffryn yn Ddyffryn y Castelh, oherwydd wrth droed y Grongar oedd Castell y Dryslwyn, yna yn uwch i fyny Dynefwr, a draw draw ymhellach, hen gastell Carreg Cennen. Yn ymyl y man lle'r eisteddwn yr oedd olion gwersyllfa filwyr. Fe ddywedir mai ar Fryn Grongar yr ysgrifennodd y bardd John Dyer ei gân The Prospect." Mi gerddais i lawr hen lwybr igam ogam a chyrraedd o'r diwedd y ffordd sy'n arwain i Bias Aberglasni, neu fel y'i gelwir gan rai o bobl y cylch-Plas yr Ysbrydion. Mi gyrhaeddais dy gofaiwr y plas ac yn union, dyma ddyn byr, tua chanol oed, yn dyfod ataf gan ofyn fy neges. Mi ddywedais wrtho yr hoffwn gael mynd drwy'r plas. Cael caniatâd, ac arweinydd da yn y gwr byr. Hawdd gweld wrth gerdded drwy'r ardd shon lle prydferth a haws credu geiriau fy arweinydd, i'r ardd unwaith fod yn un o îrddi prydferthaf Cymru. Ond bellach tra- trglwyddiaethai dant-y-Uew a'i gwmni dros popeth. Fe adeiliwyd y plas gan Esgob Rudd, ic yma yn 1700 y ganwyd John Dyer, y pardd. Heddiw, un o'r enw Mrs. Mayo, ) Lundain, yw ei berchen, ac y mae hithau ers blynyddoedd bellach wedi symud oddi mo gan adael y cyfan, yn ddodrefn, llestri dillad gwelâu ar ôl ac y mae'r hen blas, u gynt yn addurn y fro, yn cyflym ldirywio. Fe ddangosodd inni amryw ystafelloedd, nd dyma ni i mewn i ystafell wely eang. lc ebe'r gŵr byr wrthyf yn dawel: Dyma'r Gan IFONWY H. THOMAS Blue Room yma y bu farw'r saith morwyn — dyma ystafell yr ysbrydion." Dyma'r stori'n fyr am farw'r merched. FLYNYDDOEDD mawr yn ôl yr oedd teulu'n byw yn y plas â chanddynt wyth o forynion. Un haf fe aeth y teulu ar eu gwyliau a gorchymyn i'r morynion yn y cyfamser i beintio'r Blue Room." Fe anghofiodd y brif-forwyn am orch- ymyn ei meistres ac un diwrnod fe gafodd lythyr yn ei hysbysu fod y teulu'n dych- welyd ymhen diwrnod neu ddau. Peintiwyd yr ystafell ar unwaith a chludo'r gwelâu yno i'w hawyro. Yna cynnau tân gan gau pob ffenestr a drws, a chysgodd y morynion yn yr ystafell, oddieithr y brif-forwyn. Fore trannoeth, pan aeth y brif-forwyn i edrych am y morynion, fe'u cafodd hwynt wedi marw. Y mae'n debyg i'r paent ffres eu gwenwyno. Fe'u claddwyd hwynt ill saith ym mynwent hen eglwys Llangathen. MI ofynnais i'm harweinydd a oedd wedi gweld ysbryd. Do," meddai'n dawel, "un tro, gyda min hwyr yn 1912. Yr oeddwn yn aros o flaen y tŷ ac mi welais ddyn tál, mewn gwisg ddu, yn cerdded yn araf tuag ataf yna, pan oedd bron yn fy ymyl fe ddiflannodd ’' Yr oedd y lle mor dawel ac oerllyd nes bron i minnau weld ysbryd neu rywbeth tebyg i un Mi ddiolchais i'r gŵr byr am yr hanes a chychwyn am gartref. Ar fy ffordd, mi gwrddais â hen ŵr o ffermwr oedd wedi ei eni a'i fagu a byw am dros bedwar ugain mlynedd yn yr un Lle. Ymffrostiai nad oedd wedi bod tu allan i Sir Gaerfyrddin erioed! Mi fûm yn gweled hen blas Aberglasni," meddwn wrtho. Gwiriondeb i gyd yw stori'r ysbrydion." "Fy machgen bach, paid â siarad mor ffôl. Wyddost-ti fod y gymdogaeth hon yn gartre'r ysbrydion. A glywaist-ti am Fanc- y-ddawns, Bwci Allt-y-gar a Chathan ? Dirgelwch Y sbryd y Dlue Room Naddo," meddwn innau, beth am- danyn' hw' ? Ar Fanc-y-ddawns y mae Bendith y Mamau'n dyfod i ddawnsio, ac yr oedd 'mamgu'n dweud iddi weld pethau rhyfedd yno. Ac am Cathan, cartref Olwen Cathan ydyw. 'Roedd 'mamgu'n dweud i Olwen fyw am dros ddeugain mlynedd gyda Bendith y Mamau (y Tylwyth Teg). A phan ddychwelodd i'w chartref. yr oedd yn hen wraig a'i gwallt yn wyn. Fe ganodd rhywun amdani fel hyn Ond yn Llangathen y mae torf O'r gytorf yn trigiannu A dawnsio maent wrth olau'r lloer Ar lennydd oerion Tywi; A chyda hwy yn swyn y gân Aeth Olwen lân i golli. Mi fethais argyhoeddi'r hen frawd mai ysbrydion dychymyg oedd y cyfan. Ac eto, efallai fod rhyw gymaint o wir yn y storïau. Ebe Parry-Williams Yr oedd fy nain wedi gweld ysbryd a thylwyth teg, ac wedi clywed canu yn yr awyr Nis gwelais ac nis clywais i, hyd y gwm. Eto rhaid imi roi coel ar ei geiriau hi Nos a Bore. UN noswaith ddrycinog mi euthum i rodio Ar lannau y Fenai, gan ddistaw fyfyrio; Y gwynt oedd yn uchel, a gwyll oedd y wendon, A'r môr oedd yn lluchio dros waliau Caernarfon. Ond trannoeth y bore mi euthum i rodio Hyd lannau y Fenai, tawelwch oedd yno; Y gwynt oedd yn ddistaw, a'r mor oedd yn dirion, A'r haul oedd yn t'wynnu ar waliau Caernarfon. HEN BENILLION (Y Flodeugerdd Gymraeg.)