Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Bardd y Gadair yn Cofio Gan y Parch. T. Eurig Davies Yma y mae'r "Ford Gron" yn cyhoeddi barn bardd buddugol y goron ar lên ac areithiau yr eisteddfod eleni. Wedi ei fagu ar fferm yng Ngwern- ogle, Caerfyrddin, bu'r Parchedig T. Eurig Dames yn efrydu yng ngholeg Bangor; cafodd ei urddo'n weinidog a dyfod yn un o bregethwyr mwyaf ei enwad. Ef a eniUodd y goron yn Aberafan ddwy flynedd yn ôl ac y mae hefyd wedi ennill am awdl ar Syr Owen M. Edwards ac am draethatod ar Wilym Hiraethog. RHIFIR yr Eisteddfod hon eto gyd â'r rhai a fu, a daeth yr adeg i fwrw bras olwg dros y cynhaea cyn ei nithio a'i ogryn yng nghwrs y blynyddoedd beirniadol y sydd ar ddyfod. Beth a saif wedi i'r rheiny ddyfod ar eu treigl, ni pherthyn inni heddiw ond dyfalu'n ostyng- edig iawn. Dylai'r Eisteddfod, yn anad dim, fod yn ganolbwynt diwylliant priod y genedl, ac yn gyfle inni ein hadnabod ein hunain, a darganfod ein cynnydd neu ein dirywiad ym myd llên, a chân, a chrefft. Bu'r Eisteddfod yn rhy aml, mi dybiaf, yn achlysur gormod canmol, a churo ein cefnau ein hunain, eithr ni chredaf y cofir am ŵyl Castell Nedd fel un fu'n rhy hael ar ei sebon, a'n gadael yn lled ddiflas wedyn pan gawsid hamdden i drin a thrafod y pethau a folid. Prin o glod. Sylwais mai prin oedd clod y llwyfan i'r rhan fwyaf o'r pethau a wobrwyid yn yr adran lên, a bod barn y wasg yr wythnos yn dilyn dipyn yn fwy haelfrydig a chynnes. Gwell yw hyn o lawer na chodi disgwyliadau i'w hyrddio wedyn i'r llawr yn lled ddisyfyd. Sonnir llawer am ddiwygio'r Eisteddfod, ond fe gafwyd un diwygiad pwysig iawn eisoes-sef y Babell Lên. Mr. Arthen Evans oedd yr arloesydd yn Eisteddfod y Barri yn 1920. Byth wedi hynny y mae'r babell hon yn ganolfan lenyddol wresoca'r wythnos. Nid oedd y babell ei hunan, eleni'n, deilwng o'r gwaith a wnaed ynddi o dipyn. Gwelais gadair mwy nag un yn rhoi ffordd o dano, ac yntau'n dal ambell ergyd chwimwth o lwyfan y beirniaid. Ond fe gofir yn hir am rai pethau a gafwyd ac a welwyd eleni. Yr oedd beirniadaeth Castell Nedd Dr. Thomas Richards ar y nofel yn un o'r pethau mwyaf meistrolgar, yn ddiau. Bu ef yn traethu am yn agos i awr o amser, a phawb yn dal ar ei eiriau a'i hiwmor yn ddi- ollwng hyd y diwedd. Os yw'r ddwy nofel, y rhannwyd rhyngddynt, cystal â'r feirniad- aeth ar y gystadleuaeth, yna gorau po gyntaf inni eu cael i'n dwylo. Bu i feirniadaeth y Goron gan y tri beirniad, dynnu tyrfa fawr ynghyd-yr oedd lawn mwy o'r tu allan i'r babell nag a oedd o'r tu mewn, pan oedd Ben Davies wrthi ar lawn hwyl, fel pe bai ar faes cymanfa. Sylwasom fod cryn wahaniaeth yn lleoliad rhai o'r cystadleuwyr vm meirniadaeth y tri beirniad. Y mae'n hvsbvs bellach mai'r Parch. Simon Jones oedd Ar y Ffiniau," ac iddo ganu'n wych iawn ar fesur Madog. Safai ef yn ail, yn ôl Wil Ifan a Ben Davies, ond nid oedd ymhlith y goreuon yn ôl Gwili. Yr Awdl. Wedi pob siarad am safonau beirniadaeth, fe ddengys hyn fod pob cystadleuydd at drugaredd chwaeth bersonol ei feirniaid: ac ni ellir rhoddi cyfrif rhesymegol llawn am honno byth ond er hynnv, fe ddylid rhoddi cymaint byth ag sy'n bosibl. Aeth heibio'r dydd, gobeithio, i fodloni ar ddim ond dosbarthu'r cystadleuwyr ac enwi'r gorau, er inni gael un feirniadaeth o leiaf eleni nad oedd yn ddim amgen. Rhoddwyd Awdl seml ar y blacm eleni prawf arall fod ffasiynau beirniadu'n gyf- newidiol fel popeth arall. Yr oedd y testun Ogof Arthur," yn gyfle braf i'r damegwyr, ond fe'u cafwyd yn brin gyferbyn â chyngan- eddiad di-wastraff o'r stori, heb na chynnig at ddameg, nag ymgais at fwrw'r stori i fywyd heddiw. A da o beth yw i gystadleu- wyr gofio nad diogel iddynt yw cymryd yn ganiataol mai'r hyn a fu a fydd yn hanes beirniaid. Argraffu'r rhyddiaith. Gwyr y rhoed cryn fri ar eu gwaith yn yr adran ryddiaith yw D. J. Williams, Aber- gwaun, a T. J. Morgan, y Glais, Cwm Tawe. Gwyddem am y ddau eisoes, y blaenaf, fel un o'r meistriaid ar gamp yr ysgrif fer yn disgrifio hen gymeriadau gwlad, a'r olaf fel gwr aml ei gynnyrch yn Y Llenor. Fe ddyÌMÌ'r Eisteddfod argraffu ei phethau gorau yn yr adran ryddiaith at eu gwerthu ddydd yr Eisteddfod. Byddai hynny'n eithaf rhwydd, ag eithrio efallai'r prif draethodau a'r nofel. Fe bery'r helynt jmgljm â'r ddrama am beth amser eto. Ataliwyd y wobr gan y tri beirniad, er cydnabod teilyngdod eithriadol cyfansoddiad Mr J Kitchener Davies, Tonypandy, Rhondda. Barnent na ellid ei llwyfannu o flaen cynulleidfa ar gyfrif ei hymdriniaeth rialistig â phroblemau am- rywiol rhyw. Fe'i hargreffir yn fuan, a cheir cyfle hefyd i'w gweled, a gwell yw aros tan hynny cyn traethu barn. Yr englyn, Edn y ddrycin. Dechreuodd y gohebu a'r trafod drwy'r wasg eisoes, a chlywais fygwth mawr y tu allan i'r babell ar ôl beirniadaeth yr englyn. Yr englyn yw edn y ddrycin bob blwyddyn ymron, a bydd yn dywydd mawr arno eleni eto i bob golwg. Beth am areithiau'r Maen Llog a chyrddau'r gwahanol gymdeithasau, ac an- erchiadau'r llywyddion eleni ? Didram- gwydd yw'r gair a gyfyd i'n meddwl ynglŷn â datganiadau'r blaenaf. Nid oedd y golau'n ogymaint â'r gwres, eithr nid yw gwres i'w ddibrisio'n hollol, o gofio nad yw'r Maen Llog yn fan pwrpasol iawn i draethu neges fawr. Dwy araith. Yng nghyfarfod Undeb y Brifysgol, cy- huddodd yr Athro Ernest Hughes y Cymry eu bod yn genedl ddiog, a rhoes ergyd gwrol i adranyddiaeth y Brifysgol. Rhoes Cymdeithas y Cymrodorion ei sylw'r tro hwn i'r ddrama, ond ni ddywedwyd dim newydd iawn. Da yw meddwl bod gwyr fel Kitchener Davies, Eddie Parry, ac Idwal Jones, yn eu perffeithio eu hunain yn ddistaw tra fo'r beirniaid yn gresynnu ein tlodi a'n dirywiad ym myd y ddrama. Clywsom y llywydd nawn dydd Iau, sef D. Lloyd George, yn llawer mwy cyrhaeddgar a newydd ei araith nag yng Nghastell Nedd. Rhoed gwrandawiad astud i draethiad Dr. Tom Jones. Soniodd am weriniaeth amlwg y genedl, ond a barnu oddi wrth gwrs ei araith, nid yw ei ffydd yn gryf iawn yn y ffurf honno ar ein bywyd. Dadleuai dros le'r ychydig ar y blaen, a'r pwys o godi tôn, a naws, a diddordeb y lliaws er rhoddi eu gwir gyfle i'r ychydig mentrus. Hwyl a Berw'r maes. Ar ferw'r maes, a'r mân gwmnîoedd y tu allan i'r pebyll, ni threiodd yr hwyl unwaith. ac yr oedd Cymraeg gogledd a de'n cymysgu'n bersain drwy'r oriau. Yr oedd niier o'r stiwardiaid yn Saeson rhonc o ran iaith, a hyd yn oed rai o'r is-swyddogion yn y swyddfeydd ar gwr y babell fawr. Chwith oedd hynny, ond rhaid cofio bod Castell Nedd yn prysur ildio i'r dylanwadau Seisnig, ac ofnaf na wna wythnos o Eisteddfod fawr gwahaniaeth yn hyn o beth. Sylwais hefyd ar barodrwydd rhai o'r arweinyddion i gvhoeddi'r cystadleuaethau yn Saesneg, [Trosodd.