Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

í|r HEIBIO I GYRION PEDAIR SIR Gan William Davies Llanrhaeadr ym Mochnant, Maldwyn TAITH yn fy nghymryd drwy gyrion pedair sir oedd honno a gymerais ar fore braf yn ddiweddar, dros y mynydd i Feirionnydd. Euthum trwy bentref tawel Pen-y-bont Fawr, ac ymlaen i Langynog, lle gwelir ôl dyn yn agor y graig, yn ei ymchwil am lechi a meini at ei bwrpas. Er bod yma bedair chwarel, y mae dwy ohonynt yn segur ers llawer dydd. Hir yw'r disgwyl am eu gweled yn ail-agor. a sŵn gordd a pheiriant yn cyhoeddi bod addewid yr amser gwell yn ei gyflawnder. ac edrych am doriad gwawr y bore hwnnw y mae gwŷr Llangynog daw, fe ddaw. I Ferwyn af i orwedd A'r graig fawr yn garreg fedd meddai Cynddelw. Cychwynnais innau o Langynog i fyny ffordd serth y Berwyn yr oedd llechwedd arswydus Cwm Rhiwarth ar fy aswy. Gwae'r dyn neu'r anifail a lithra tros y dibyn i'w ddj-fnder erchyll y mae angau'n llercian ar bob modfedd o'i wyneb garw, creigiog. Yn wir dyma waharddedig dir, a thres- maswyr a gosbir ganddo. Lie rhyfedd yw ffermdy Blaen-y-cwm, Rhiwarth, yng nghudd mewn llwyn o goed, a'r graig uchel yn gefndir iddo. Ar ben y Berwyn. Wedi cyrraedd pen y Berwyn, hawdd yw deall naws ddwys ysbryd Huw Derfel Huws, yn canu profiad a hyder ei enaid. am sail Y Cyfamod Di-sigl pan oedd ef ar ben y Berwyn. Yr oedd yn gweled Cadair Berwyn a Chadair Fronwen ar ei ddehau. O'i flaen yr Arenig a'r Wyddfa, brenhines Eryri, yn y pellter a'r ffordd tros Ferwyn feí llinell wen hirfain yn dirwyn trwy'r grug am filltiroedd, yn ei alw ymlaen i hedd y myn- yddoedd tragwyddol. Heddiw, yr oedd tawch tryloyw, ysgafn yr haf am Eryri. Y mae'r haf yn gofalu rhoi siwt o ddillad newydd i'r mynydd bob dydd, ac weithiau yn amlach na hynny. Yn nes ataf gwelwn ardaloedd ffrwythlon. coediog dyffryn tlws y Bala ydyw. Yma ceir Llandderfel, Llandrillo a Chynwyd, pentrefi ar briffordd y Bala. Trwyddo llifa afon yr afonydrl-Dyfrdwy. Llandrillo a Chynwyd. Cyrraedd Llandrillo, pentref glân, tai golygus a thwr uchel yr eglwys yn ysbïo tros gamder crwm y bont sy yng nghanol y Llan. Ymlaen i Gynwyd, troi i'r aswy a dod o hyd i Bont Cynwyd, sydd yn ddelw'r amser gynt. Y mae rhamant a thraddodiad yr ardal- oedd yma-nid nepell Cynlas pâr meddwl am Gynlas imi feddwl am y Bala. Os rhoes yr Esgob Morgan Feibl i'w genedl, fe feithrinodd Syr O. M. Edwards chwaeth ei genedl i gyfeiriad yr adeni llenyddol. Pwy all fesur maint ei aberth dibrin ? Onid offrymodd ei fore a'i hwyr ar ei allor Er Mwyn Cymru ? A bron yr un pryd yr oedd Tom Ellis yn ymladd brwydrau celyd er mwyn ennill i'w genedl ryddid crefyddol a gwleidyddol, ac yntau yn cwympo ym mhoethder y frwydr. I ddyffryn Edeymion. Gelwais i weled H. W. Ll. Huws. y Geufron, sydd wedi ennill nifer o gadeiriau mewn steddfodau pwysig. Amaethwr diwylliedig yw Mr. Huws, sieryd ei orchest am ei lafur dygn, ac am ei gariad dwfn at lenyddiaeth. Yng Nghorwen tybiais y deuwn o hyd i Tom Owen. Hafod Elwy gynt, ond methais. Aeth mwy na thri-deg o flynyddoedd heibio er pan welais ef ddiwethaf: y tro hwnnw oedd mewn steddfod yn Ninbych, pryd yr enillodd Meuryn ei gadair gyntaf. Hen wron llawer ornest ydyw Tom. Drwy Lyndyfrdwy. Ni wn a oes yn unman olygfa hafal i'r un a geir yng Nglyndyfrdwy. Yma gwelir bryniau uchel glasddu, megis rhagfur i Ddyffryn Edeyrnion. Y mae yma rywbeth yn yr awyrgylch sydd yn llenwi enaid dyn­ rhyw ysbrydiaeth rymus, yn creu teimlad glew, annibynnol. Yn agos i Lyndyfrdwy ceir olion plasty Glyn Dŵr. Pa ryfedd iddo freuddwydio am weled Cymru yn rhydd, heb lyffethair estron ami. Pa ryfedd iddo weld dyfod o'i freuddwyd yn ffaith ? Hawdd credu fod ei ysbryd o hyd yma, yn sibrwd ei siars yn barhaus wrth Gymru. Yn sicr, y mae ysbryd Glyn Dŵr yn fyw, yn crwydro tros y Berwyn yn ôl a blaen o Lyndyfrdwy i Sycharth. Dilyn cwrs yr afon i Langollen, gweled creigiau Eglwyseg megis llwyfan o gadernid. Cyrraedd Llangollen. Y mae'r rhan fwyaf o wely'r afon yn sych. Mor amlwg yw murddun y castell ar gorun Dinas Brân rhyw ddrychiolaeth welw o rwysg y gor- ffennol. Y mae stori garu Hywel a Myfanwy o hyd yn denu minteioedd o feibion a merched ar bererindod tua'i gopa, yn ystod dyddiau hirfelyn yr haf. Ymlaen tua Froncysyllte a'i odynnau calch, sydd yn llosgi yn ddi-baid. Is-law y mae Pontcysylltau, yma y mae pont Rufeinig tros Ddyfrdwy. Dacw bont ardderchog Telford, sydd yn dal dŵr y gamlas tros yr afon. Mae pileri hon yn gofeb iddo. Dacw Cefn Mawr Pwy a ddywedodd ei fod yn debyg i Jerusalem ? wedi ei adeiladu ar fryn, a'i ffyrdd fel rhwydwaith anghelf- yddus. Yn wir, tybiaf fod rhyw debygrwydd rhyngddynt. Y llaw goch. Swydd y Waun hen orsedd wych meddai un prydydd. Y mae Castell y Waun yn adeilad urddasol iawn. I'r castell hwn, medd hanes, y dycpwyd Myfanwy Fychan ar ôl iddi gael ei dwyn o Ddinas Brân, ond llwyddodd Hywel ab Einion i'w hedfryd ar ôl ymladdfa ffyrnig. Ond y peth hynotaf ynglŷn â'r castell yw'r arfbais, Llaw Goch. Gwelir hon ar glwyd y castell, ar y llestri arian a'r cer- bydau, a hyd yn oed ar dryciau glo y Parc Du. Hon yw arfbais yr etifeddiaeth. Y mae mwy nag un chwedl amdani, ond dyma un Yr oedd gwarchae hir ar y castell un- waith, a phan oedd yn galed ar yr amddiff- ynwyr, taflasant law newydd-doredig tros y mur, a disgynnodd honno ar ben tywysog yr ymosodwyr. Pan drechodd yr ymosod- wyr. ebe'r tywysog `` Am i chwi fy nharo â'r Llaw Goch, bydded hi byth mwy yn arfbais yr etifedd- iaeth, oddieithr i wr fyw am saith mlynedd yn naeargelloedd y castell, pryd na bydd iddo eillio ei wallt na thorri ei ewinedd.' Dywedir bod dwy ymgais wedi bod i geisio cyflawni'r penyd, er mwyn dileu y Llaw Goch o fod yn arfbais y castell, ac i un dyn lwyddo i fyw yn y daeargelloedd am bedair blynedd. Ond af ymlaen eto, tua Chroes Oswallt, ac i fyny Dyffryn Tanat. Dyma eto fannau'r Berwyn a bron na chredaf eu bod yn fy nghroesawu'n ôl Dyma'r De bu dechre'r daith, Af yn 61 i fy nylaith.