Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyfansoddi Lluniau LLAFAR Rhai pwyntiau am y gelfyddyd Gymraeg newydd CYN belled ag y mae a wnelo â'r Gymraeg, y mae'r gwaith o ddych- mygu golygfeydd i'r llafarluniau yn gelfyddyd newydd sbon sydd yn cynnig, drwy yr Urdd, fanteision arbennig i'n diwylliant. Y mae cymaint o wahaniaeth rhwng trefnu lluniau byw a chyfansoddi drama ag sydd rhwng ysgrifennu drama a chyfansoddi nofel. Wrth un dyn y bydd y nofelydd yn dweud ei stori, ond wrth gynulleidfa y bydd y dramaydd yn dweud ei stori. A chyda llaw, yr achos bod yr anerchiadau a glywn ar y radio nos Sadwrn mor aml yn fethiant yw bod y darlledwr fel pe bai'n dweud wrtho'i hun fod miloedd o bobl yn gwrando arno, pryd mewn gwirionedd wrth fodau unig, neu ar y mwyaf deuluoedd bychain, y mae'n siarad. Nid annerch tyrfa y mae, ond sgwrsio ar aelwyd. Camera yn gynulleidfa. Os cludo'i stori i gynulleidfa y mae'r dramaydd, cludo'i gynulleidfa i ddilyn y stori y mae'r ffilmydd. Ie, a'i chludo'n llythrennol ar ei gefn. Oblegid y camera ei hun yw'r gynulleidfa. Yr hyn a wêl y cámera a wêl y gynulleidfa llygad y gynulleidfa yw llygad y cámera. Problem fawr y dramaydd yw crynhoi ei stori fel y gellir ei phortreiadu ar lwyfan cymharol fach. Rhaid iddo arwain y stori i le arbennig. Dilyn y stori y mae'r ffilmydd. Y mae ei lwyfan ef bron iawn yn annherfynol. Gall ddangos peth mor fach â hedyn plan- higyn yn ymagor, a pheth mor fawr ag ehangder y Llwybr Llaethog. Gall y ffiìmydd newid ei gefndir fel y myn, a newid maint ei ddarlun i bwysleisio'n union yr un peth arbennig hwnnw y dymuno hoelio sylw arno. Gan fod ei gynulleidfa ganddo y tu mewn i flwch, gall newid y pellter rhwng y gynulleidfa a'r gwrthrych, a'u cael i weld yn unig yr hyn a ddymuno ef iddynt ei weld. Dim torri ar ymddiddan. Er enghraifft, dyweder fy mod mewn stori eisiau tynnu sylw.cynulleidfa at y ffaith fod twll mewn hosan merch ar y llwyfan. Byddai'n rhaid i mi mewn drama drefnu symudiad arbennig yng nghwrs yr olygfa i wneud hyn, a hyd yn oed efallai gyfan- soddi darn arbennig o ymddiddan newydd i gyfeirio at y peth, a thorri ar draws rhediad y siarad i wneuthur hynny. Ond ar y sgrin, y cwbl a wna'r ffilmydd yw dangos llun o wyneb y ferch yn edrych i lawr ar ei hosan, yn gweld y rhwyg, a dilyn hynny'n syth gyda llun byr o'r rhwyg ei hunan. Nid yw hyd yn oed yn gorfod atal y siarad am ennyd, na thorri ar yr ym- ddiddan mewn unrhyw fodd, ac y mae'n cyrraedd ei amcan yn chwarter yr amser a gymer y dramaydd ar y llwyfan. Gan J. Ellis Williams Dychmygydd Y Chwarelwr y lluniau llafar Cymraeg cyntaf, a gynhyrchwyd dan r,awdd yr Urdd Chwarter yr amser A dyna'r ail bwynt pwysig y mae'r cloc mewn stori yn symud yn gyflymach o lawer, wrth gwrs, nag ydyw mewn bywyd bob dydd. Yn aml iawn ar y llwyfan rhaid crynhoi i un act hanner-awr ddigwyddiadau a gymer ddiwrnod cyfan. Un o nodweddion crefftwr da o ddramaydd yw y gall wneud hynny heb dynnu sylw at y peth. Ar y ffilm, y mae'r cloc yn symud yn gynt hyd yn oed nag ar y llwyfan. Yr olygfa hwyaf deng eiliad. Fel y rhennir nofel yn benodau, rhennir drama yn actau a golygfeydd. Yn dech- negol, yr hyn a olygir wrth olygfa mewn drama heddiw yw pan fo newid yn rhif y cymeriadau sydd ar y llwyfan. Y mae John a Mary a Huw yn siarad, a John yn mynd allan. Dyna ddechrau golygfa newydd rhwng Mary a Huw. Daw cymeriad arall i mewn. Dyna olygfa newydd eto. Y mae i bob un o'r golyg- feydd hyn ryw amcan. Y mae ambell un mor bwysig nes bod y dramaydd yn cadw'r un cymeriadau ar y llwyfan am chwarter awr neu fwy. Anaml y bydd yr un olygfa mor ddibwys na phery am o leiaf bum munud. Ond petaech yn dangos golygfa o bum munud ar y ffilm, byddai'r gynulleidfa wedi Golygfa o'r Chwarelwr" — Haf Gwilym, merch Mr. J. EDis Williams, yn cysuro'r ast Síani. hen flino arni. Rhyw ddeng eiliad yw'r olyafa hwyaf. Deng eiliad Pump neu chwe eiliad yw'r cyfartaledd. `' Ond," ebe rhywun, beth petaech yn dymuno tynnu llun pedwar o ddynion yn eistedd wrth fwrdd yn cynllunio rhywbeth, golygfa a gymerai ryw ddeng munud, efallai, ar y llwvfan ? Llun mawr o wyneb. Yr ateb yw y trefnid golygfa fel hon yn hollol wahanol, i bwrpas ffilm. Yn gyntaf peth, gellid torri'r ymddiddan i lawr i'r hanner, neu lai. Dyweder bod A yn cynnig rhywbeth sydd wrth fodd B, yn erbyn ewyllys C, a bod D yn ansicr ei feddwl yn ei gylch. Ar y llwyfan, byddai'n rhaid rhoddi i bob un gyfle i draethu barn. Ar y sgrin, gellid dechrau gyda llun A yn siarad, a thra fo ef yn siarad, symud y camera i ddangos y derbyniad a gaiff ei gynllun gan ei dri gwrandawr, a'r olwg ar wynebau'r tri yn dangos yn llawer mwy effeithiol na geiriau beth a feddyliant o'i gynllun. Trwy gael llun mawr o wyneb actor, neu mewn geiriau eraill. trwy ddod â'r gynulleidfa-y cámera-yn agos ato, y mae'r symudiad lleiaf o'r llygaid, y crychiad lleiaf o'r talcen, yn siarad cyfrolau. Gan hynny, petae angen rhoddi ar y sgrin olygfa a gymerai ddeng munud ar y llwyfan, fe ail-drefnid yr olygfa honno yn rhedfa o ryw bymtheg o olygfeydd byrion a gymerai oddeutu chwech eiliad yr un, cyfanswm o funud a hanner. Y mae'r ffaith mai llafur cariad ydyw yng Nghymru yn fantais ac yn anfantais. Ni chredaf y bydd byth farchnad ariannol i lafarluniau Cymraeg. Y mae'r costau'n rhy llethol iddvnt droi'n elw. (1 dudalen 192.)