Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

STORI FER GYFLAWN HEN ddoethwr hynod oedd Dafydd WiUiams y Wern Fach, ac er ei fod yn 70 mlwydd oed parhâi ei syn- hwyrau yr un mor graff a threiddgar ag erioed. Glowr fu Dafydd trwy gydol ei oes a meddai ar ystôr enfawr o hanesion am ei waith. Ei hoffter pennaf oedd adrodd y rhain ar bob egwyl a gaffai, a'n hyfrydwch ni oedd gwrando arno'n astud. Arferem ni'r ieuainc ymgynnull yn nhv Dafydd bob nos Iau, ac ar ôl awr o ymdrin â phynciau'r byd a'i helynt, fe'n gosodem ein hunain yn fwy cysurus o amgylch y pentan, gan ddisgwyl cael stori ganddo ef. Fel arfer ni siomid ni. WEL, 'mechgyn i, 'does dim arall mae'n dra thebyg gyda ni i'w drafod ynglyn â helyntion byd a thref, felly, er mwyn treulio'r noswaith i maes mi a adroddaf i chwi hen hanes yn fy mywyd na adroddais mohono o'r blaen. Y mae'n debyg iawn nad adnabu neb ohonoch sy'n bresennol yma fy hen gyfaill Wil Tδ Nant, a ? (Siglasom ein pennau yn nacaol.) Na, mi feddyliais nad oedd e. Credaf y claddwyd Wil cyn eich bod chwi; ag fe fu farw, neu symudodd y sawl a'i hadnabu ef i ardal arall i fyw. Fe â'r hanes hwn yn ôl i'r adeg pan weithiem ni'n dau yn hen bwll y llan, Glynceirw. Gweithiem yno gyda'n gilydd am flyn- yddoedd maith, ac mi ddalia' i'n llw na fu caletach na gwell glowr erioed na Wil bach. Gweithiwr caled dirwgnach oedd e, ac os leicia' i beint a'i bib, ni chefais i na neb arall lawer o ddrwg ynddo fe. WEDI i ni weithio yno gyda'n gilydd amryw flynyddoedd, clafychwyd Wil â dolur cyffredin y galon, ac ymhen nemor o amser wedyn priododd â'r achos a daeth â'i wraig i fyw i'r pentref Ue y gweithiem. Yr oeddynt yn byw yn hapus odiaeth mewn bwthyn bychan tlws ar odre'r mynydd a warchodai ein pentref bychan. Dihangodd y misoedd heibio'n gyflym, a misoedd dedwydd oeddynt i Wil. Ni flinai fy hysbysu'n fynych mor ffodus y bu i gael gwraig mor dda, diwyd a thlos. Aeth oddeutu blwyddyn a hanner heibio heb i ddim ddigwydd i gymylu ei dded- wyddwch ef. Eithr sylwais un diwrnod nad edrychai cyn hapused ag arfer edrychai megis pe bai wedi colli swm fawr o arian, mor ddiflas a digalon oedd ei osgo. Cofiaf na soniais i ddim ar y pryd pam yr edrychai feUy, gan feddwl efallai mai wedi yfed tipyn yn ormod yr oedd e'r noswaith gynt. OND pan sylwais na chododd y cwmwl oddi ar ei wyneb ymhen dyddiau, holais ef am y rheswm o'i annedwyddwch a chlywais ganddo nad oedd pethau mor Y Botwm gysurus ag arfer yn ei gartre y rheswm am hynny hyd y deëllwn i oedd, mai dechrau meddwl cryn ormod am y cinema yr oedd ei wraig, er mawr esgeulustod iddo ef ei hun a'r tŷ. Sylwch ar fy nghod i — gan gyfeirio at y siaced oedd yn ei gylch-" nid oes yr un botwm arni ers wythnosau. Credwch fi, Dafydd, pan ddaw yr amser i roddi'r cyfrif yn y byd nesa' bydd llawer gan berchen- ogion y cinemas i ateb drostynt, ac nid y lleiaf fydd y ffaith eu bod nw wedi hudo a chamarwain gwragedd da gweithwyr ar ddisberod, a Uanw'u pemrau nw â phob gwagedd ffôl, diwerth." Terfynodd, gan edrych yn ffyrnig wrth feddwl am ei ofidiau. Atebais, gan geisio hyd y gallwn dywallt olew ar y dŵr cynhyrfus, a'i lonyddu. Efallai na phery'r hudoliaeth hon yn hir, a diflannu fel y daeth pan sylweddola hi mai gwagedd ydyw ac os na wna hi e, gwnïa fe arno dy hun a bydd yn dipyn mwy caeth â hi o hyn ymlaen." Gobeithio o waelod fy nghalon," ebe yntau. Na phery'r ffolineb a'r esgeulustod hwn lawer hwy. Gwnaf, os na wna hi e, mi wnïaf y botwm arno y tro hwn. Ond, yr un pryd, cewch chwi weld, Dafydd, y bydd yn edifar ganddi os na newidia hi ei 'ffordd a meddwl mwy amdanaf i." TRANNOETH y bore, cwrddais i â Wil ar y brif heol a chyrchem tua'r pwll gyda'n gilydd. Y gair cyntaf a lefarodd ef wrthyf oedd Gwneuthum fel y dwedaist wrtho i, Dafydd," ebe fe mi wnïais y botwm ar fy nghod neithiwr." Dangosai yr un pryd pa beth a wnaethai, a sylwais iddo wneuthur campwaith o wnïo'r botwm ar ei siaced. Mi ddalia' i fy llw," ebe fe, na ddaw e'n rhydd yn fuan iawn. a bydd rhaid i rywbeth rhyfedd ddigwydd iddo fe i ddod yn rhydd." Cyraeddasom ein dau y pwll yn fuan cawsom ein lampau, a cherddodd Wil rhag ei flaen i ben y pwll. Oedais innau i siarad Gan SAMUEL THOMAS â chyfaill a weithiai'r nos bûm yn siarad ag ef am oddeutu deng munud yna euthum rhagof gan nad oedd nemor o amser cyn dechrau gwaith y bore. Yr oedd twr o ddynion ar y ban yn aros eu tro i ddisgyn y pwll, a sylwais i fod Wil yn barod i fynd i mewn i'r cag nesaf a ddelai i fyny. Gwelodd fi a chan wenu, ysgydwodd ei law arnaf a cherddodd ymlaen gyda'r Ueill tuag at y cag a oedd newydd lanio ar y ban. Trois innau i siarad â chyfaiU gerbron. Yn sydyn, cododd bloedd uchel o blith y dynion a amgylchynnai safn y pwll. "Daliwch e Daliwch e Ma' fe'n cwympo. Daliwch e YR un mor sydyn, tawodd y floedd, ymwelwodd pob wyneb ac ym mhob Uygaid yr oedd dychryn. Am ennyd echrydus, safodd pawb yn fud ddigvffro. Yna Uaesant a chododd sŵn megis chwa drwy frigau'r goedwig trwy ymollwng ohonynt eu hanadl ymaith. Rhuthrodd rhai ohonynt at safn y pwll i edrych i lawr y mwndwll, gan weiddi bod WU Tŷ Nant wedi syrthio i lawr y pwll. Curodd fy nghalon nes bron iddi wthio'i ffordd i maes o'm hystlys; crynodd fy ngliniau megis dall mewn gwynt a dawnsiodd y cwbl o'm blaen megis pe buaswn ar fwrdd llong mewn storom. Rywfodd cerddais ymlaen at y mant, a chan bwyso yn erbyn y ganllaw, edrychais innau i lawr y mwndwll, a oedd 300 0 lathenni o ddyfnder. Ond ni welais ddim ond y tywyllwch dudew yn gorchuddio popeth hyd at y gwaelod. Yr un munud, clywais lais awdurdodol y goruchwyliwr yn gofyn pa 'beth oedd yn bod ? Atebais ef mewn llais gwan a chryn. edig fod fy nghyfaill Wil Tj"t Nant wedi syrthio i lawr i'r pwll gwelwodd eiwyneb yntau cyn wynned â'r eira, ond mewn eiliad fe'i hadferodd ei hun a brysio heibio at y teleffôn ar y mur gerllaw. CLYWSOM ef yn gofyn i'r sawl a'i hatebodd o waelod y pwll, a syrthiasai corff Wil i'r gwaelod. Atebodd hwnnw naddo. Dychwelodd y goruchwyliwr ar frys, gan ofyn am chwech o wirfoddiaid i'w ddilyn i chwilio am gorff Wil. Ceisiodd pawb ohonynt fod yn un o'r chwech, ond yr oeddwn i'n un o'r rhai a ddewiswyd ganddo. Archodd y goruchwyliwr i ddyn y fant ein gollwng ni i lawr yn araf deg ac i wrando'n fanwl ar ei arwyddion. Yn ebrwydd parat- oesid popeth angenrheidiol i'r orchest a disgynasom yn araf o olwg y dynion a safai yn ddi-lef ar y ban. Disgynwyd amryw lathenni, ac yn fuan iawn fflachiai ein lampau eu golau melynaur ar furiau'r mwndwll ac ar y pibau dŵr a redai i lan, i lawr, iddi megis nadroedd tewion mawr. (/ dudalen 240.)