Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Byd y Ddrama I'w gofio wrth Wynebliwio ac Ymddwyn ar Lwyfan Gan MERIEL WILLIAMS # Dyma'r ail o gyfres Y Ford Gron o erthyglau ar gelfyddyd actio. T mis diwethaf fe ysgrifennai Miss Evelyn Bowen ar "A gynghorwn i Actor yn Dechrau" Miss Meríd William» awdur yr ysgrif hon, sy'n ddarlithreg yn y Chwaraedy Cenedlaethol. OBLITH y Uu canghennau a efrydir yng nghelfyddyd y llwyfan fe geir nad lleiaf ei bwys yw hyfforddiant mewn lliwio wyneb ac mewn ymddwyn ar lwyfan. Y mae'r duedd o dderbyn perfformiad actorion mawr fel pe bai yn gynnyrch byr- fyfyr athrylith yn dra pheryglus,- oherwydd rhwystra ddechreuwyr rhag cymryd trafferth a phoen i ymddisgyblu, a dyna'r unig ffordd i gyrraedd uchelfannau celfyddyd. Bydd pobl gan amlaf yn gorbrisio crebwyll actor da ac yn meddwl rhy ychydig o'i fedr dis- gybledig. Y mae'r hen ddywediad y genir celfydd ac nid ei wneuthur, ysywaeth yn dal yn ei fri ym myd y ddrama. Nid athrylithoedd o'r nef oedd actorion mawr yr amser fu, nad oedd arnynt ddim dyled i hyfforddiant a gwaith caled ac os ým ni am ddechrau traddodiad aruchel o actio yng Nghymru, y mae'n rhaid inni newid ein syniadau am efrydiaeth a myfyr. Bydd rhaid inni ddechrau yn ieuanc a sylweddoli mor bwysig yw dyfod â'r corff i gyd o dan reolaeth fanwl. Paratoi gwedd yn anhepgor. Y mae wyneb-líwio yn gelfyddyd sy'n gofyn efrydu gofalus. Ni eUir hepgor paratoi pryd a gwedd at lwyfan. Y mae'r goleuadau mor gryf a llachar, boed y goleuo ar y llwyfan yn hael neu gyffredin, nes difa'r holl gysgodau a lliwiau naturiol yn lân. Y mae'n rhaid darparu eraill yn eu Ue, gan orliwio ychydig, fel y bo nodweddion wyneb y chwaraewr vn hawdd eu canfod o bob parth o'r wrandawfa. Wrth ddechrau, ceisiwch lunio'ch wyneb yr un fath â rhywun enwog, â chanddo nod- weddion wyneb eglur iawn. Rheol dda wrth liwio wyneb cymeriad yw peidio byth â gor- liwio hyd at ddigrifwch. Gochelwch gym- aint ag a alloch linellu'r wyneb, gan ddi- bynnu ar gysgodau a goleuadau amlwg i fynegi henoed. Ymarfer dan olau trydan. Y mae'r paentiau a ganlyn yn fwy na digon at ddibenion cyffredin tri phisyn o liwiau cnawd gwahanol; un 0 liw coch at y gruddiau Uestr o liw fflamgoch i'r gwefusau pwyntil gwinau i'r aeliau; pwyntil glas canolig i'r amrant uchaf, ac addurneg gŵyr ddu i flew'r amrannau. Bydd ar actor cjmeriad, wrth gwrs, angen rhagor o liwiau. Dylent gynnwys melyn golau i godi'r bochgernau, brown canolig i suddo'r llygaid a'r gruddiau, a llinellydd rhudd i nodi crychion. Awgrym da yw ymarfer wyneblunio o dan olau trydan nerthol. Yna byddwch yn paratoi eich gwedd yn gymwys i lwyfan a oleuer yn dda. I dynnu'r lliw oddi ar vr wyneb, dodwch gyfran fach o lard cliriedig, yna defnyddio sebon cyffredin da. Dylai hyn symud pob arwydd o liw. Anhawsaf oll, gorffwyslonedd. LLAWER a ganmolwyd ar "lais euraid" Sarah Bernhardt, ond bjddai hi bob amser yn rhoddi mwy o bwys ar iawn weithrediad y corff ar y llwyfan nag ar lais. Tuag at waith y Uwyfan, nid yw'r un o'r symudiadau corff arferol yn ddigon. Y mae'n rhaid disgyblu ac ystwytho gîau i wneuthur symudiadau gwahanol i'r rhai a wneir bob dydd neu symudiadau arbennig a ofynnir gan y cymeriad a bortreier, modd yr ymatebont ar unwaith. Nid yn unig y mae'n rhaid meddu ar gyflymder symudiad, y mae eisiau meistroli ymgynnal mewn sefyllfa gyda rhwyddineb. Gorffwyslonedd yw'r peth anhawsaf i'w ddysgu o'r cwbl, ac y mae'n dilyn, nid caledrwydd crafangiad ond ystwythder. Bydd rhai actorion yn rhagymarfer pob manylyn yn sylwgar ac yn amyneddgar. Rhônt gais ar donau Uais nes bodloni'r glust ymarferant agweddau ac ystumiau nes bodloni'r llygad, ac unwaith y penderfynant arnynt, nis cyfnewidiant. Ystumiau, effaith teimlad. Dylai ystumian fod yn llawn ysbonc, gan ymddangos yn anosgoadwy ond ni olyga hyn naturioldeb llac a ganiatâ gyfnewid- iadau mynych a chyson mewn perfformiad o'r nn rhan. Os yw ysturu mewn gwirionedd yn effaith y teimlad a fynegir, yr ystum honno, a dim un arall, yw'r un gywir. Dylai pob efrydydd drama fyfyrio'n graff a manwl uwchben cerfddelwau Groeg, oherwydd yno y ceir patrymau tragywydd. Gall unrhyw actor a efrydo'r rhain wneuthur yr ysgogiad iawn heb yn wybod iddo gall hyd yn oed ystumio'n gywir mewn digrif- ddrama ddiweddar ohcrwydd bydd ei synnwyr cywirdeb wedi'i ddatblygu drwy'r efrydiaeth. Y mae'n rhaid gwneuthur y corff yn ystwyth, ufudd, yníatebus a chyt- bwys yna fe'i mynega'r corff ei hun yn naturiol ac yn ddifyfyr. Tasgfeistres erwin yw celfyddyd, ac yn gofyn egwyddorigaeth lem ac aberthau mynych. Drama i Blant SANTA Clos yw enw drama i blant wedi ei chyfansoddi gan Miss Maggie Davies. Dyma'r ddrama a enillodd y wobr flaenaf yn Eisteddfod Genedlaethol Treorci. Chwech- einiog yw ei phris, a cheir caniatâd i'w chwarae ond anfon at y cyhoeddwyr, Mri. Hugh Evans a'i Feibion, Gwasg y Brython," Lerpwl. Limrig 'ROEDD dyn bach yn byw yn y Rhondda, Mewn modur yn ffoi â chyflymdra, Daeth diwedd i'w sbîd," Daeth bicons i'r býd, Belisha sy'n bloeddio Arafa Llundain. D. R. GRIFFITHS. EDAFEDD A SIDANAU am Brlt!au Cyfanwerth PEIRIANT GWAU "SUNETTE" CHWYDDWCH EICH ENILLION mewn dull pleserus ar eich aelwyd eich hun drwy gymorth peiriant gwau SUNETTE gellwch wneuthur pír o hosannau bach mewn hanner awr gydag ef. Fe wna'r peiriant hefyd ddilladau gwir ddeniadol i Blant, etc. Cyflenwir damau sbâr a nodwyddau i beiriannau Imperia a Cymbal." RhMtr Prhtlau a Manylion Llawn yn Rhad anfonweh at HARRISON RNITTER WORKS, 48 (158) UPPER BROOK ST., MANCHESTER.