Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TEITHIAU YN SIR FRYCHEINIOG gan J. SEYMOUR FEES RHAGAIR Weithiau, bydd fy edmygedd o Sir Frycheiniog yn tueddu gwneud imi gwyno am na thannwyd fy nghrud cyntaf ynddi. Hoffaf edrych ar ei phridd coch. Pleser fu dringo ei Bannau a'i bryniau. Oni chefais hyfrydwch wrth syllu ar ei chilfachau a'i dyffrynnoedd ? Ymgollais droeon mewn naws cyfrin wrth fynychu ei Heglwysi, a theimlo defosiwn yn llifo ataf, ond, yn wyneb hyn oil, cofiaf a diolch mai yng Ngheredigion y gwelais yr orau o holl bobl y byd. Gosododd honno Gymru yn fy nghalon, a'i hiaith yn felys ar fy ngwefus. Am hynny, cyflwynaf fy ngwaith hwn iddi hi, fy-MAM. TAITH I. Heddiw, ar brynhawn tesog o Fehefin, yr ydym wrth ymyl pentref gwledig yn dwyn enw tlws, Llywel. Safwn ar ffordd sy'n arwain o dref Aberhonddu i Lanymddyfri. Ar un adeg bu hon yn un brysur iawn gan y rhedai'r 'goets fawr' ami o Lundain i Aberdaugleddau. Cydia hanes y lie ni yn 61 wrth amser cynnar. Dywedir i Ildw, mab-yng- nghyfraith i Fleddyn ap Maenarch, brenin Celtigdiwethaf dros Frycheiniog, aros yma. Gosodai ef ei filwyr ar ochrau'r bryniau o gylch y dyffryn cul i ymladd a byddin Bernard Newmarch, y Norman, a fynnai berchnogi'r wlad hon. Symudwn i dreulio ychydig hamdden i fwrw golwg dros adeilad sydd o'n blaen. Dyma ni'n cerdded drwy fynwent eang, heibio i res o yw sy'n ceisio cuddio Eglwys y Plwyf. Codwyd yr un gyntaf yn y ddeuddegfed ganrif. Ar y pryd hwnnw, galwyd hi yn Lantrisant. Y tri hynny a anrhy- deddwyd oedd Dewi Sant, Sant Padarn a Sant Teilo. Llosgwyd hon i'r llawr gan dan mawr. Heddiw, saif yr adeilad yn un urddasol, a'i dwr sgwar yn perthyn i'r bymthegfed ganrif. Gadewch inni gerdded i mewn i'r cysegr helaeth. Ar unwaith, teimlwn yma naws tyner, defosiynol. Gwelwn do hardd, muriau glan a changell weddus. Dacw fedyddfaen hen ei olwg, a'r celfi i gyd yn swynol. Gadewch inni droi i syllu ar hen gyffion deri sydd y tuallan o flaen yr adeilad. Gynt, ynddynt hwy y gosodid troseddwyr yn ddiogel mewn penyd dan lygaid dirmygus yr ardalwyr.