Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YMFUDO 0 SIR FRYCHEINIOG I'R AMERIG: 1785-1860 gan BOB OWEN, M.A., CROESOR FEL y dywedwyd eisioes mewn ysgrif flaenorol,* tenau oedd y nifer yn yr ymfudo o bob sir yng Nghymru o 1760 hyd 1794-95. Yr oedd yn rhy ddrwg o ran teimladau rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau yn ystod y blynyddoedd hyn, ac nid oedd yn amseroedd caled iawn yng Nghymru. Ond bu llawer iawn o ymfudo i'r Unol Daleithiau o 1794-95 hyd 1860, yn enwedig o siroedd Gogledd Cymru. Yr oedd y nifer o siroedd y Gogledd yn llawer mwy nag o siroedd y De, ag eithrio Sir Aberteifi a oedd yn ail i Sir Feirionydd, yr uchaf o ran rhif ei hymfudwyr. Yn 61 fy amcangyfrif, yr oedd nifer yr ymfudwyr o Ogledd Cymru rhwng 1794 a 1860 yn 17, 624, o Dde Cymru yn 13,165, ac o Fynwy yn 1,953. Rhwng y rhai na wyddis o ba siroedd yr ymfudasent, ymfudodd 35,618 o Gymru a Mynwy. NIFER YR YMFUDWYR 0 OGLEDD CYMRY UN YSTOD Y CYFNODAU A GANLYN 1794 — I80I 751 1802 — I8I6 29 1817 — I820 717 1821 — I830 1,263 17,624 1831 184O 2,588 1841 — I850 6,914 1851 1860 5,362 NIFER YR YMFUDWYR 0 DDE CYMRU A MYNWY YN YSTOD Y CYFNODAU A GANLYN 1794 — I80I 371 1802 — I8I6 81 1817 — I820 339 1821 1830 549 15,118 1831 184O 3,922 1841 1850 4,950 185 1860 4,906 Ymfudo o Sir Frycheiniog i'r Amerig 1654-1784. Brycheiniog Vol. VI.