Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

groeso led y pen iddynt i anfon eu gwaith barddoniaeth yn ogystal a rhyddiaith at golofnau'r Seren. Aeth cyn belled a gosod hysbyseb yn y Times, o bobman, i ddweud mor barod y byddai i dderbyn ffrwyth eu hawen. Yn 61 yr hysbyseb, 'The Welsh Bards are particularly solicited to send their contributions to Seren Gomer, whose columns will be at all times open to any article, either in prose or verse, which may tend to illustrate, purify and enlarge the Welsh language: a language at one time the only one spoken in Great Britain and a large portion of the territories of Europe'.105 Ym mis Ionor 1814 mentrodd gyhoeddi'i bapur newydd am y tro cyntaf. Cyn i'r papur ymddangos bu cryn lawer o bwyso a mesur ar y cynllun. Argraffasai David Jenkins, Abertawe, nifer o bosteri Cymraeg i hysbysebu'r Seren a darganfuwyd un ohonynt rai blynyddoedd yn 61. Bwriad Gomer, yn 61 y prospectws hwn, a ddyddiwyd 28 Awst 1813, oedd cyhoeddi yn ei bapur bob math o newyddion cartref a thramor, gwleidyddol a chrefyddol, hanes- ion am frwydrau pwysicaf y rhyfel, ynghyd a cherddi'r beirdd a phob math o gyfraniadau llenyddol a dueddai at amddiffyn, puro a Iledaenu'r iaith Gymraeg. 105a Mewn eisteddfod a gynhal- iwyd ym Mhontypridd ym mis Tachwedd 1813, testun cystadleu- aeth y bryddest oedd 'Seren Gomer'.106 Ysgrifennodd Iolo Morganwg ei hun lythyr diddorol i'r rhifyn cyntaf. Cynghorai Gomer yn ddwys: 'gwyliwch rhag i'r Seren lithro dan gwmwl anwiredd, canys yn y gyfryw gwmwl y mae mellt a tharanau rhagfam ac ymrysonau chwerwon yn barod i droi allan yn arswydus.'107 Efallai nad oedd Iolo'i hun yn gwbl amddifad o brofiad yn y maes hwnnw! Fodd bynnag, dyrnaid o wyr busnes Abertawe John Voss, John Walters, David Walters, Thomas Williams, a David Jenkins yn argraffydd iddynt a fu'n dwyn cost yr anturiaeth. Ond ar ysgwyddau Gomer fel golygydd y disgynnodd baich trymaf y gwaith o ddigon. Disgwylid iddo gyfansoddi neu gyfieithu Uawer o'r cynnwys. Bu'n rhaid iddo ddefnyddio geiriau ac ymadroddion dieithr a bathu llawer o rai newydd. Barnai Gomer ei hun fod ei swydd fel golygydd yn galw am 'dri os nad pedwar cymaint o waith ag sydd gan gyhoeddwr papurau wythnosol Saesneg'.108 Cynhwysai pob rhifyn o'r Seren bedair tudalen a phob un o'r rhain wedi'i rhannu'n bum colofn. "s Times, 31 January 1814. South Wales Evening Post, 3 July 1958. Diolchaf i'm cyfeillion, Mr R. 0. Roberts a Dr F. G. Cowley am dynnu'r erthvgl hon i'm sylw. ,n E. I. Williams, Seren Gomer, 1925, 204. ibid. ibid., 207.