Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Fridfa, Plas Gogerddan Sefydliadau Ymchwil Enwog I. Bridfa Blanhigion Cymru Pe gofynnid i ffermwr o Gymro am gynnwys ei gymysgedd hadau, go brin y ceid y manylion yn llawn ganddo, ond dywedai gyda balchder a boddhad fod yno amryw o fathau 'S' Aberystwyth. Petai'n ffermwr sy'n tyfu ceirch gaeaf byddai'n hael ei ganmoliaeth i S.147, S.172 neu Bowys, ac mae'n dra thebyg y byddai Maldwyn, Manod neu Milford ymhlith ei geirchiau gwanwyn. Dyna fesur syml o gyfraniad Bridfa Blanhigion Cymru i ffermio'r dydd, a'i dylanwad yng nghefn gwlad yn gyffredinol. Sefydlwyd y Fridfa yn 1919 a heuwyd y talwrn arbrofol cyntaf yng ngerddi Cae'r-gog ar 17 Ebrill y flwyddyn honno. Haelioni'r diweddar Arglwydd Milford a roes gychwyn iddi gan i'r bonheddwr hwnnw roi deng mil 0 bunnau i Goleg Prifysgol Cymru i'r pwrpas o sefydlu bridfa blanhigion, ynghyd â mil o bunnau'r flwyddyn yn ychwanegol at ei chynhaliaeth am ddeng mlynedd arall. Yn fuan iawn daeth y Fridfa yn sefydliad cydnabyddedig at dderbyn grant gan y Weinyddiaeth Amaeth, ac ers blynyddoedd bellach mae'n cael ei chynnal gan y Cyngor Ymchwil Amaethyddol. Y cyfarwyddwr cyntaf oedd y diweddar Syr George Stapledon, ac yn ôl ei weledigaeth a'i lywio deheuig ef daeth Bridfa Blanhigion Cymru yn un o bennaf mannau ymchwil amaethyddol y byd, a daliodd i ychwanegu at ei bri a'i phwysigrwydd o flwyddyn i flwyddyn. Dilynwyd Syr George yn 1942 gan yr Athro T. J. Jenkin, a fuasai'n brif swyddog ymchwil o'r dechrau ac sydd wedi rhoi gwasanaeth gwiw i Gymru a'r byd fel gwyddonydd amaethyddol drwy gydol ei yrfa. Yna daeth yr Athro E. T. Jones yn bennaeth, a chysylltir ei enw ef ag arloesi mewn bridio ceirch, yn enwedig y