Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Prifathro Newydd Coleg y Brifysgol Aberystwyth Prin bod unrhyw benodiad o bwys yn ddiweddar yng Nghymru wedi hawlio'r fath fesur o unfrydedd barn gyhoeddus a phenodiad Goronwy Hopkin Daniel, C.B., B.Sc. (Cymru), D.Phil. (Rhydychen), i swydd Prifathro Coleg Aberystwyth. Haera rhai ein bod ni Gymry'n nodedig am ein hymrafael ynglýn â phenodiadau cyhoeddus, yn arbennig ym myd addysg. Gellir nodi'n hyderus bod yr achos hwn yn eithriad hapus. Pan dorrodd y si gyntaf bod y Cyngor wedi cynnig y swydd iddo, gellid syn- hwyro rhyw elfen o bryder ymhlith academyddion a lleygwyr. Tybed ai derbyn ai peidio a wnai? Dilewyd y pryder gan ollyngdod pan gyhoeddwyd ei ateb cadarnhaol a'i benodiad swyddogol. Pan gydia'r Dr. Daniel yn ei gyfrifoldeb newydd ar 1 Hydref, 1969, gwyddonydd fydd wrth y llyw ymhob un o hen golegau'r Brifysgol ac yn yr Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Ni all hyn lai na bodloni gwyddonwyr yn gyffredinol a braint i gylchgrawn gwyddonol Gwasg y Brifysgol yw cyflwyno darpar-Brifathro Coleg Aberystwyth i'w ddarllenwyr. Ganwyd Goronwy Daniel ar 21 Mawrth, 1914, yn Ystradgynlais, Sir Frycheiniog, yn fab i David Daniel, swyddog yng nglofeydd ardal Ystrad- gynlais a phentrefi cyfagos y Crynant, Cwmllynfell a Rhydaman. Addysgwyd ef o 1925 i 1930 yn Ysgol Ramadeg Pontardawe lle mae ei chwaer, Glenys (hithau'n gynfyfyriwr o Aberystwyth) erbyn hyn yn briod â Mr. Sulwyn Lewis, prifathro presennol yr ysgol. Yna symudodd i Ysgol Sir Dyffryn Aman lle'r enillodd ei Dystysgrif Uwch a'i fynediad i Goleg y Brifysgol yn Aberystwyth yn 1932. Astudiodd Ddaeareg yn brif destun dan y'diweddar Athro H. P. Lewis a graddiodd yn 1935 gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf. Aeth ymlaen i ennill Diploma mewn Anthropoleg (gyda rhagor- iaeth) ymhen blwyddyn a'r Diploma Addysg (eto yn y dosbarth cyntaf) ymhen blwyddyn arall. Cymylog ac ansicr oedd y rhagolygon i raddedigion naill ai am swyddi neu am grantiau ymchwil yr adeg honno ond i leiafrif bychan o athrylith eithriadol. Perthynai Goronwy Daniel i'r lleiafrif dethol yma ac yn 1937 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Prifysgol Cymru iddo a chipiodd hefyd Ysgoloriaeth Meyricke i Goleg yr Iesu yn Rhydychen. Gwnaeth ei waith ymchwil at ei draethawd D.Phil. ar ystadegaeth economaidd yn Sefydliad Ystadegaeth Prifysgol Rhydychen. Cyflwynwyd y D.Phil. iddo yn 1939 ond parhaodd yn ymchwiliwr yn y Sefydl- iad am flwyddyn ychwanegol dan yr Athro Syr Arthur Bowley. Yn ystod y flwyddyn hon hefyd yr ymbriododd â'r Fonesig Valerie, merch yr ail Iarll Lloyd George ac wyres i'r Iarll Lloyd George o Ddwyfor a Syr Robert MacAlpine. Erbyn hyn mae gan Dr. Daniel a'r Fonesig Valerie ddwy ferch ac un mab. Graddiodd Ann yng Ngholeg Bangor ac mae ar hyn o bryd yn athrawes yn Uganda. Mae Gwyneth ym Mhrifysgol Caeredin a David, yr ieuaf, ar ei ail dymor ym Mhrifysgol East Anglia. Treuliodd y flwyddyn ddilynol yn Ddarlithydd Economeg ym Mhrifysgol Bryste cyn derbyn gwahoddiad yn 1941 i ymuno ag adran ysgrifen- yddol Cyngor Dethol Tý'r Cyffredin ar Wario Gwladol. Treuliodd ddwy flynedd yn y swydd yma cyn symud i'r Gwasanaeth Sifil. Bu am bedair blynedd (1943 i 1947) yn Bennaeth Cangen Ystadeg-