Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gwaith Technegol yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth MAE disgybl ifanc yn Ysgol Ramadeg y Gwen- draeth wedi cynllunio ac wrthi'n brysur yn adeiladu peiriant a fedr ddewis gwraig addas i hen lane. Nid dyma fwriad Peredur pan ddechreuodd ddyfeisio'r peiriant. Ei brif amcan oedd cynorthwyo'r prif- athro, Mr. R. B. Howells, i gynllunio amserlen yr ysgol. Bellach gellir defnyddio'r peiriant i ddos- barthu wyau, blodau neu goed, a gall hefyd ddatrys nifer o broblemau sydd a'u hatebion yn seiliedig ar ddosbarthiad ffeithiau. Anogir y disgyblion a ddaw i'r ystafell grefft i gyfarwyddo â chylchedau trydanol syml a chyd- rannau electroneg. Yna, ymhen ychydig amser adeiladir dyfeisiadau trydanol electroneg gan y disgyblion eu hunain. Cynlluniodd Peredur y peir- iant dosbarthu ffeithiau trwy gyfuno'r wybodaeth a gasglodd, a'r profiad a gafodd yn yr ystafell grefft. Defnyddir electroneg a thrydaneg yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth i feithrin ac ennyn diddordeb mewn crefft. Defnyddir crefft hefyd i feithrin diddordeb mewn pynciau eraill, a chyda chydweithrediad rhai aelodau o'r staff mae cyn- lluniau sy'n cyfuno crefft â thestunau eraill yn bosib!. I droi'n bersonol am funud, cefais innau fel llawer arall fy hyfforddi yn y crefftau traddodiadol a gellid meddwl y buasai gwyro o'r llwybr union yn ymylu ar fod yn faich. Ond fel arall y bu, oblegid gall bywyd ysgol yr athro crefft bellach fod yn un cyffrous, a pherir cyffro hefyd i'r disgyblion eu hunain gyda chynllunio. Nid yw'r ffordd ymarferol hon o ddysgu'n beth newydd. Cefais orofiad ohoni pan oeddwn yn fachgen yn Ysgol Ramadeg Llanelli, ac mae fy nyled am hyn i Mri. C. Lloyd Humphries a J. Morris, dau athro gwyddoniaeth yr ysgol ar y D. LYONEL THOMAS (Athro Crefft yn yr Ysgol) pryd. Eu diddordeb hwy ynghyd â'u dealltwriaeth a'u cefnogaeth a fu'n gyfrifol am fy nhywys innau i'r maes arbennig hwn. Dechreuais ar fy ngwaith fel athro gwaith coed yn Ysgol Eilradd Triptons, Dagenham, Swydd Essex, wedi tair blynedd o hyfforddiant mewn Coleg Hyfforddi. Ymhen ychydig amser dyma ddechrau ar fwriadwaith. Gosod system deleffon i fyny oedd y peth cyntaf a wnaed. Prynwyd ychydig offer yn un o siopau diddorol Soho. Yr oedd y system yn cael ei defnyddio bob dydd, a phrofodd yn fantais fawr i'r plant a'i gwnaeth ac i'r ysgol yn gyffredinol. Aethpwyd ati wedyn i lunio ffrâm wydr, cwch gwenyn a phethau cyffelyb. Er fod rhai o'r bechgyn â diddordeb mawr yn y gwaith hwn rhaid oedd ceisio ar yr un pryd ofalu am weddill disgyblion. Mae bron pob bachgen yn hoff iawn o beiriannau a rheilffyrdd ac felly cychwynwyd model fawr o rheilffyrdd. Hawliai rhan gyntaf y gwaith y grefft draddodiadol, canys rhaid oedd gwneud byrddau a fyddai'n dal y rheilffyrdd. Penderfynwyd yn fuan wedyn i ffurfio Clwb Rheilffyrdd a fyddai'n cyfarfod allan o oriau ysgol. Dyma'r pryd y gorffenwyd y rhan fwyaf o'r gwaith. Mewn siop waith segur y dodwyd y set, ac yr oedd dros hanner canllath o rheilffyrdd i'w weld ynghyd â gorsaf, pontydd, twnelau a throfwrdd. Deuai'r bechgyn â'u peiriannau a'u tryciau eu hunain i chwarae ar y set, ac yr oedd y bwriadwaith mor llwyddiannus fel y tynnodd sylw'r rheini a'r heddlu. Dywedodd llawer fod y clwb yn helpu i ffurfio cymeriadau'r aelodau. Mwynhawyd y gwaith hwn yn fawr a daeth gwell dealltwriaeth rhwng y bechgyn a'r athro. Profwyd unwaith eto fod yr amser a'r ymdrech ychwanegol a wnaeth yr athro yn fuddiol dros ben. Cafwyd peth arian o gronfa'r ysgol a'r gweddill o elw'r siop fach a leolwyd yn yr ystafell grefft.