Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Edrych Ymlaen i'r Saithdegau Mae'r erthyglau yn y gyfrol arbennig hon o Y GWYDDONYDD wedi rhoddi ychydig o hanes datblygiad y Warchodaeth Natur yng Nghymru a rhoi cipolwg ar weithgareddau gwyddonwyr a'u hymchwil aml-ddisgyblaethol i natur yr amgylchfyd. Mae cryn bwyslais ar yr agwedd yma o'r gwaith am mai dyma sylfaen datblygiadau y saithdegau. Oherwydd difaterwch ac anwybodaeth, ychydig o bobl sy'n sylweddoli fod ein hamgylchfyd naturiol mewn perygl dirfawr. Hyd yn ddiweddar roedd y sefyllfa yma yn gyffredinol, ond dangosodd araith y Prif Weinidog Harold Wilson yn lonawr 1970, yn Abertawe, a'r trafodaethau rhyngddo ag Arlywydd yr Unol Daleithiau, fod pryder am gyflwr yr amgylchfyd yn dechrau poeni arweinydd- ion y gwledydd, ac fe fu arweiniad y llywodraeth yn fodd i symbylu agwedd newydd tuag at ofal am yr amgylchfyd. Yn wyneb y deffroad yma mae'n rhaid i wyddonwyr a gwarchodwyr y wlad fod yn barod gyda'r wybodaeth y bydd y gwleid- yddwyr a chynllunwyr yn galw amdano. Pwysleisia hyn yr angen am ymchwiliadau gwyddonol a'u cysylltu â phroblemau ymarferol, a hefyd yr angen am arbenigwyr mewn llawer adran o'r disgyblaethau biolegol. Mae Cyngor Ymchwil yr Amgylchfyd Naturiol (Natural Emùronment Research Council), yn enwedig y Warchodaeth Natur sy'n rhan ohono, ynghyd â Chomisiwn Cefn Gwlad a mudiadau eraill, yn darparu ar gyfer yr angen sy'n codi, ac yn cynllunio ar gyfer medrus- rwydd technegol a gwybodaeth am reolaeth amgylcheddau naturiol a rhannau cyfagos cefn gwlad. Bu cynhadledd yng Nghaerdydd ym mis Ebrill eleni pan arolygwyd pwysigrwydd astudiaethau ecolegol, a disgyblaethau tebyg, tuag at gynllunio'r amgylchfyd. Bu trafodaeth ar y gwaith ymchwil a wnaed eisoes, a'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol; ceisiwyd darganfod y mannau gwan yn y rhaglen a rhagweld rhai o'r gofynion a ddaw i'r amlwg yn nes ymlaen. Anerchwyd y gynhadledd gan Mrs. Eirene White, A.S., Gweinidog Gwladol y Swyddfa Gymreig, a Mr. Ted Rowlands, A.S., yr Is-Ysgrifennydd Gwladol, y ddau yn cynrychioli gwleidyddiaeth ac yn talu sylw manwl i'r cyfan a TOM PRITCHARD ddywedwyd. Roeddynt yn pwysleisio fod gwarchod- aeth yr amgylchfyd yn rhan hanfodol o ddyletswydd y Llywodraeth i'r wlad. Yng Nghymru gellir rhagweld dylanwadau allanol trwm yn pwyso ar gefn gwlad, yn enwedig o ganolbarth a gogledd-orllewin poblog Lloegr. Yn gyntaf, mae galw cynyddol am fannau addas adloniant. Mae hefyd angen dwr ar ddiwydiant a phobl yr ardaloedd hyn. Fe bery yr angen am amaethyddiaeth gynhyrchiol a phroffidiol, ac mae y coedwigoedd sydd wedi eu plannu eisoes yn mynd i barhau am flynyddoedd lawer. Rhaid felly edrych ar ddyfodol cefn gwlad Cymru fel un yn rhoddi pwyslais ar amryw anghenion, a'r her ydyw cynllunio moddion i addasu adnoddau naturiol y wlad i gyfarfod â'r gofynion hyn heb ddifetha cymeriad arbennig cefn gwlad. I wneud hynny rhaid wrth wybodaeth fanwl am yr holl nodweddion sy'n cyfrannu at werth ardal- oedd, nid yn unig yn economaidd ac yn gymdeith- asol, ond hefyd yn ecolegol. Gall ecolegwyr gyfrannu'n helaeth at ddealltwriaeth o'r darlun cyflawn. Fel gwarchodwyr gwelant eu cyfrifoldeb yn driphlyg. Yn gyntaf, tuag at yr amgylchedd ei hun, lle mae angen cadw rhannau naturiol o'r wlad fel Gwarchodleoedd Natur a mannau o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Sicrha hyn labordai allanol i astudio natur ac i wneud arbrofion ar wahanol fathau o reolaeth ar amgylcheddau naturiol. O'r mannau yma y mae gwybodaeth ecolegol yn tarddu, ac y mae'n rhaid cynnal y ffynhonnell yma i gadw i fyny â'r galw am wybodaeth. Yn ail, rhaid deall y cysylltiad rhwng ymyrraeth dyn â'r amgylchfyd y mae eisiau ei ddatblygu, megis effeithiau diwydiant, adloniant, amaeth, a defn- yddiau cemegol. Ac yn drydydd, mae'n rhaid i'r ecolegwr godi safon ei ymchwiliadau adefnyddio technegau mwyaf diweddar, fel y gall fodloni a rhoddi cyngor cywir a buddiol i reolwyr ti'. Golyga hyn hefyd ragweld effeithiau ei gyngor íir yr amgylchfyd. Mewn oes sy'n derbyn y syniad <~> ddefnyddio tir i borthi amrywiol anghenion cym deithas, mae medru rhagweld effeithiau datblygiad ar adnoddau naturiol y wlad yn rhan hanfodol ι